Rhanbarthau yn y fantol os nad yw cytundeb URC yn cael ei arwyddo

Chwaraewr rygbi sgarletsFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
  • Cyhoeddwyd

Mae gan dri o dimau rygbi rhanbarthol Cymru hyd nes ddydd Iau i arwyddo cytundeb rygbi proffesiynol, yn ôl Undeb Rygbi Cymru (URC).

Pe na bai'r Scarlets, y Gweilch neu'r Dreigiau yn arwyddo'r cytundeb, yna byddant yn wynebu risg y bydd cyfnod rhybudd o ddwy flynedd yn cael ei osod a allai beryglu dyfodol y rhanbarthau, meddai URC.

Mae URC wedi ysgrifennu at y tri thîm ar ôl cyfarfod gyda nhw ddydd Mawrth.

Byddai dyfodol rygbi proffesiynol yng Nghymru yn wynebu newidiadau mawr pe na bai'r cytundeb yn cael ei arwyddo.

Fis Chwefror, fe gytunodd y rhanbarthau mewn egwyddor ar gytundeb pum mlynedd - ond roedd hynny cyn i Gaerdydd fynd i ddwylo gweinyddwyr dros dro, gydag URC yn cymryd yr awenau.

Fe fydd Caerdydd yn arwyddo'r cytundeb newydd, sy'n cynnwys cynnydd mewn cyllideb ac ail-gyllido dyled pob sefydliad, mae URC bellach wedi rhoi dyddiad cau terfynol, sef 8 Mai, i'r tri rhanbarth arall lofnodi'r cytundeb.

Mae'r cytundeb arfaethedig yn un o elfennau allweddol cynllun hirdymor Undeb Rygbi Cymru, gan alw'r strategaeth yn 'Cymru'n Un'.

Mae BBC Cymru ar ddeall os nad yw'r tri rhanbarth yn arwyddo, bydd URC yn ystyried opsiynau a allai arwain at newid y strwythur o fewn rygbi proffesiynol yng Nghymru.

Llai o dimau proffesiynol i URC?

Un newid allai ddigwydd pe na bai'r cytundeb yn cael ei arwyddo yw cwtogi nifer y timau proffesiynol, er gwaetha'r ffaith i Brif Weithredwr URC, Abi Tierney, bwysleisio ei hymroddiad i gadw'r pedwar rhanbarth.

Mae'r undeb wedi awgrymu y bydd Caerdydd ar yr un telerau â'r clybiau eraill o dan y cytundeb newydd ac y byddant yn creu is-gwmni i redeg tîm Parc yr Arfau yn annibynnol.

Nid yw sicrwydd Undeb Rygbi Cymru wedi bodloni'r Scarlets, y Gweilch a'r Dreigiau eto gyda'r dyddiad cau yn agosáu.

Dywedodd Abi Tierney ddiwedd mis Ebrill na fyddai dyddiad cau penodol i glybiau proffesiynol Cymru lofnodi cytundeb newydd, ond ychwanegodd fod angen iddynt "symud" yn gyflym.