2024: 'Un o'r blynyddoedd gwaethaf erioed yn hanes rygbi Cymru'
- Cyhoeddwyd
Ym 1992, fe ddisgrifiodd y Frenhines Elizabeth II y flwyddyn honno fel 'Annus horribilis' wedi sawl sgandal yn ymwneud â'r teulu brenhinol, ac mae'n derm cwbl addas i ddisgrifio sefyllfa rygbi Cymru yn 2024.
Heb os, pan fydd pobl yn tyrchu trwy'r llyfrau hanes mewn blynyddoedd i ddod, bydd y deuddeg mis diwethaf yn cael eu cofio gyda'r gwaethaf erioed yn hanes rygbi Cymru.
Fe ddechreuodd y flwyddyn newydd ar nodyn gobeithiol, wedi i dîm cenedlaethol y dynion adfer rhywfaint o hunan barch wrth gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan y Byd yn Ffrainc.
Y gobaith oedd cynnal yr ymdeimlad positif hwnnw ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Pylu wnaeth y gobaith hwnnw bron yn syth wrth golli'r gêm agoriadol yn erbyn yr Albanwyr, a doedd dim gwella wedi hynny.
Am y tro cyntaf mewn 21 o flynyddoedd fe orffennodd y tîm - dan arweiniad Warren Gatland - ar waelod y tabl yn waglaw heb yr un fuddugoliaeth.
Y neges barhaus gan Gatland wedi'r ymgyrch oedd bod y tîm yn dal i ddatblygu a bod 'na seiliau cadarn yn cael eu gosod ar gyfer y tymor hir, ond wrth i'r flwyddyn dynnu tua'i therfyn does dim arwydd bod dyddiau gwell ar y gorwel.
Gatland yn goroesi ond am ba hyd?
Gwaethygu wnaeth y sefyllfa wedi'r Chwe Gwlad a bellach mae tîm y dynion wedi colli deuddeg gêm brawf o'r bron - yn cynnwys pob un eleni.
Wedi perfformiadau tila ymgyrch yr Hydref roedd hi'n anorfod y byddai yna ymateb yn sgil adolygiad Undeb Rygbi Cymru ond amser a ddengys a fydd ymddiswyddiad y cyfarwyddwyr gweithredol, Nigel Walker yn ddigon i dawelu'r dyfroedd.
Er nad yn ddi-fai â'i rôl yn nhrafodaethau diweddar cytundebau tîm y menywod, y gofid yw y bydd cyn-asgellwr Cymru yn cael ei weld fel bwch dihangol ar draul ffaeleddau unigolion eraill.
Mae Warren Gatland - am y tro beth bynnag - yn ddiogel er gwaethaf ystadegau ofnadwy'r flwyddyn ddiwethaf.
Mae Prif Weithredwr yr Undeb, Abi Tierney yn mynnu bod dyfodol Warren Gatland wedi'i drafod ond y gwir yw a fyddai unrhyw wlad arall wedi cadw hyfforddwr a fyddai wedi cael canlyniadau tebyg?
Sawl cam yn ôl i dîm y menywod?
Mae wedi bod yn gyfnod siomedig i dîm y menywod hefyd.
Yn 2023, fe orffennodd y tîm yn y trydydd safle ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi iddyn nhw esgyn i'r chweched safle ar restr detholion y byd.
Ond flwyddyn yn ddiweddarach, roedd y tîm o dan hyfforddiant Ioan Cunningham yn brwydro i osgoi'r un ffawd â'r dynion.
Fe wnaethon nhw hynny o drwch blewyn â buddugoliaeth yng ngêm olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn yr Eidal.
Er iddo gadw'i swydd bryd hynny roedd ymgyrch siomedig y tîm yn WXV2 yn ddigon i benderfynu ffawd Ioan Cunningham wrth adael ei swydd ac mae'r broses o ddod o hyd i'w olynydd yn parhau.
Gwleidyddiaeth oddi ar y cae yn parhau
Wedi sawl sgandal yn ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru ddwy flynedd yn ôl - o honiadau o rywiaeth ac ymddygiad amhriodol ynghyd â'r anghydfod yn ymwneud â chytundebau chwaraewyr - yr addewid gan Abi Tierney wedi ei phenodiad oedd y byddai'r corff yn gweld cyfnod newydd o broffesiynoldeb, tryloywder a thrawsnewid.
Yn anffodus, dyw tystiolaeth y flwyddyn a fu ddim yn argoeli fod yr Undeb wedi dysgu'n llwyr ac yn barod i sicrhau fod y sefydliad yn esiampl i bawb a'r gamp eto yn destun balchder.
Parhau i'w chael hi'n anodd mae'r rhanbarthau yn sgil cyfyngiadau ariannol a phob un bellach yn chwarae yn ail haen cystadlaethau Ewrop.
Dyw adroddiad hir ddisgwyliedig yr Undeb ynglŷn â'r ffordd ymlaen, a oedd i fod i'w gyhoeddi yn yr Hydref, dal heb ddod i'r amlwg.
Felly beth a ddaw yn y flwyddyn newydd?
Wrth i 2024 ddirwyn i ben, mae 'na ryw deimlad o anobaith ynglŷn â rygbi yng Nghymru ar bob lefel a dyfodol y gamp ei hun yn gynyddol o dan y chwyddwydr.
Y gobaith yw y bydd pethau ond yn gwella yn 2025.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2024