Cytundeb URC a'r rhanbarthau 'am ddiogelu'r gêm broffesiynol'

Cafodd y cytundeb presennol ei arwyddo yn 2023 yn sgil pryderon y byddai timau proffesiynol Cymru yn mynd i'r wal
- Cyhoeddwyd
Mae'n ymddangos fod Undeb Rygbi Cymru a'r rhanbarthau ar fin arwyddo cytundeb ariannol fydd yn "diogelu dyfodol y gêm broffesiynol" yng Nghymru.
Wedi bron i flwyddyn o drafodaethau, mae'r undeb a'r pedwar tîm rhanbarthol wedi cadarnhau eu bod wedi cytuno, mewn egwyddor, ar gynllun pum mlynedd.
Y gred yw y byddai'r Cytundeb Rygbi Proffesiynol yn sicrhau parhad y pedwar rhanbarth, yn ogystal â chynnig arian ychwanegol i Gaerdydd, y Dreigiau, y Gweilch a'r Scarlets.
Ond fel rhan o'r cytundeb, byddai gan Undeb Rygbi Cymru fwy o ddylanwad o ran rheolaeth y rhanbarthau.
- Cyhoeddwyd14 Ionawr
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2024
Yn ôl Malcom Wall, cadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol - sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r undeb a'r pedwar tîm - rydyn ni wedi cyrraedd "pwynt allweddol yn y broses o lunio cytundeb fyddai, nid yn unig yn diogelu dyfodol y gêm broffesiynol yng Nghymru yn y tymor byr, ond hefyd yn caniatáu llwyddiant hirdymor".
Mae'r cytundeb yn un o flaenoriaethau prif weithredwr newydd Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney, ond mae oedi wedi bod yn sgil misoedd o drafodaethau.

Cafodd Abi Tierney ei phenodi yn brif weithredwr yn 2023
Cafodd y cytundeb presennol ei arwyddo yn 2023 yn sgil pryderon y byddai timau proffesiynol Cymru yn mynd i'r wal - gyda chap ar gyflogau yn cael ei gyflwyno ar ôl i gyllidebau ddisgyn o £7.2m i £4.5.
Dyw manylion y cytundeb newydd ddim wedi cael eu cyhoeddi, ond y gred yw y byddai'r arian yma yn cynyddu, ac y byddai cyfran o ddyledion y rhanbarthau yn cael eu dileu.
Mewn datganiad yn egluro bod cynnydd wedi ei wneud yn y trafodaethau, awgrymodd Malcom Wall y byddai'r undeb yn chwarae rôl amlycach wrth ddatblygu chwaraewyr, ac y byddai system newydd fyddai'n golygu fod modd rhannu mwy o adnoddau.
"Mae'r setliad gyda'r clybiau yn rhan o ymdrech ehangach i geisio gwella'r gêm ar bob lefel er mwyn cefnogi gem y dynion yng Nghymru," ychwanegodd.