Penodi pennaeth rygbi i geisio trawsnewid gêm y menywod

Belinda MooreFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Belinda Moore wedi bod yn rhan o drawsnewidiad gêm y menywod yn Lloegr

  • Cyhoeddwyd

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi penodi cyn-brif weithredwr Premiership Women's Rugby i geisio trawsnewid y gêm yng Nghymru.

Mae Belinda Moore wedi ei phenodi'n Bennaeth Rygbi Menywod - sy'n swydd newydd.

Fe fydd yn ymgymryd â'r swydd am naw mis cyn bod yn rhan o'r gwaith o benodi ei holynydd.

Fe fydd Moore yn gweithio'n agos gyda hyfforddwr newydd tîm y menywod, fydd yn cael ei gyhoeddi yn y dyddiau nesaf.

Mae ei swydd hefyd yn cynnwys gwella'r llwybr at rygbi proffesiynol, cytundebau chwaraewyr a pharatoi at Gwpan Rygbi'r Byd, sy'n dechrau ym mis Awst.

Daw penodiad Moore yn dilyn cyfnod cythryblus i'r gêm yng Nghymru, gyda'r menywod yn colli pob un o'u gemau yn y Chwe Gwlad, ac wedi ennill ond un o gemau'r WXV2.

Y cefndir i hynny oedd y gwrthdaro rhwng URC a'r chwaraewyr dros gytundebau proffesiynol - a arweiniodd at adolygiad ac ymddiheuriad i'r chwaraewyr.

Mae Moore, gwraig cyn-fachwr Lloegr Brian Moore, wedi bod yn gyfrifol am y gwaith o drawsnewid cynghrair y menywod yn Lloegr, a sicrhau cytundeb darlledu i'r gystadleuaeth.

Dywedodd Moore ei bod yn ymuno URC ar gyfnod "hynod gyffrous", ac er bod ei "llygaid ar agor i'r heriau", dywedodd ei bod yn "obeithiol am yr hyn allwn ni ei gyflawni".