Dynes wedi marw o 'anafiadau i'r pen' ar ôl disgyn yn Eryri

Maria EftimovaFfynhonnell y llun, Jamie Graham
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Maria Eftimova - oedd yn gerddwr profiadol - tra'n cerdded mynydd Tryfan

  • Cyhoeddwyd

Bu farw dynes o "anafiadau difrifol i'r pen" ar ôl disgyn oddi ar fynydd Tryfan yn Eryri fis diwethaf, clywodd cwest ddydd Mercher.

Roedd Maria Rosanova Eftimova - peiriannydd 28 oed o Lannau Mersi - yn cerdded mynyddoedd Eryri gyda'i ffrindiau ddydd Sadwrn, 22 Chwefror.

Mae Tryfan ymhlith y mynyddoedd uchaf yn Eryri, ac mae'n rhaid 'sgramblo' er mwyn cyrraedd y copa gan nad oes llwybr arferol.

Clywodd y cwest yng Nghaernarfon ei bod wedi disgyn "pellter sylweddol" ar ôl llithro wrth geisio codi ei hun i fyny ar gerrig, a bu farw cyn yr oedd modd ei chludo i ysbyty.

Mynydd Tryfan.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cerddwyr yn aml yn mynd i drafferthion ar fynydd Tryfan

Cafodd criwiau achub a pharafeddygon eu galw yno, ond fe gafodd Maria Eftimova - o Fwlgaria yn wreiddiol - ei chadarnhau yn farw ar y mynydd am 12:46.

Dangosodd archwiliad post-mortem ei bod wedi dioddef "anafiadau pen difrifol", gan gynnwys torri ei phenglog.

Cafodd y cwest ei ohirio, i'w gynnal yn llawn ar ddyddiad sydd eto i'w bennu.