Reform UK yn 'fygythiad i'n ffordd o fyw' - Eluned Morgan

Fe fydd Llafur Cymru yn cynnal eu cynhadledd flynyddol yn Llandudno y penwythnos hwn
- Cyhoeddwyd
Mae ein "ffordd o fyw dan fygythiad" os yw pobl Cymru yn pleidleisio dros Reform UK, yn ôl y prif weinidog Eluned Morgan.
Daw ei sylwadau wrth i'r blaid Lafur gwrdd ar gyfer y cynhadledd Gymreig yn Llandudno.
Bydd cryn dipyn o bwyslais ar yr etholiad nesaf yn y gynhadledd, gyda'r blaid yn dechrau amlinellu'r hyn y bydden nhw'n ei gynnig i bobl Cymru petai nhw'n ffurfio llywodraeth eto.
Ond wedi dros 25 mlynedd o lywodraethu, ydy eu gafael ar rym dan fygythiad?
'Yr argyfwng mwyaf yn hanes Llafur Cymru'
Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru: "Does dim modd gor-ddweud pa mor dywyll mae pethau'n edrych i'r blaid Lafur ar hyn o bryd.
"'Di o ddim yn ormodiaeth i ddweud bod y blaid Lafur yng Nghymru mewn argyfwng, o bosib yr argyfwng mwyaf yn ei hanes hi.
"Mae Llafur wedi dominyddu gwleidyddiaeth Cymru ers dros ganrif.
"Erbyn hyn 'da ni 'di cael mwy nag un arolwg barn sy'n awgrymu eu bod nhw yn y trydydd safle o ran bwriadau pleidleisio ar gyfer y flwyddyn nesaf, sbel y tu ôl i ddwy blaid fwy sef Reform a Phlaid Cymru."
- Cyhoeddwyd15 Mehefin
- Cyhoeddwyd13 Mehefin
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
Mae Eluned Morgan yn cydnabod bod her o'u blaenau, ac yn dweud bod hwn yn "foment o gyfle, ond yn foment o fygythiad hefyd".
"Cyfle," meddai, "achos am y tro cyntaf mewn 14 o flynyddoedd mae gennym ni ddwy lywodraeth Lafur yn cydweithio.
"'Da ni eisoes wedi cael lot o arian ychwanegol sydd eisoes yn helpu ni i fuddsoddi yn y pethau sy'n bwysig i bobl Cymru.
"Ond bygythiad hefyd gan fod Reform yn dechrau cydio."
'Y bygythiad mwyaf i Gymru yw Reform'
Mae'n bosib y gall Reform herio i fod y blaid fwyaf yn y Senedd nesaf, ond yn ôl yr arolygon barn, at Blaid Cymru mae cyn-gefnogwyr Llafur yn troi yn bennaf.
Er hynny, mae Eluned Morgan yn mynnu mai'r "bygythiad mwyaf i Gymru yw Reform".
"Mae'n bwysig iawn bod pobl yn deall beth sydd dan fygythiad - ein ffordd ni o fyw, y ffordd 'da ni'n gweithio tu fewn ein cymunedau," meddai.
"Mae Reform yn blaid sydd eisiau rhannu ein cymunedau ni, sydd eisiau cael gwared â'r NHS, sydd eisiau i bobl Cymru fynd nôl lawr y pits i weithio".

Doedd yna fawr o frwdfrydedd at y blaid Lafur ymysg y dysgwyr Cymraeg yma yng Nghaerfyrddin
Ond mae 'na waith i'w wneud os ydyn nhw am berswadio pobl i'w cefnogi.
Wrth sgwrsio gyda grŵp o ddysgwyr Cymraeg yng Nghaerfyrddin doedd yna fawr o frwdfrydedd.
"Dwi'n meddwl bod pobl yng Nghymru yn exhausted nawr gyda Llafur," medd un ddynes oedd yn credu bod dysgu Cymraeg wedi gwneud iddi deimlo'n wahanol am Gymru.
"Posib i'r Senedd bydda i'n pleidleisio dros Plaid [Cymru] achos dwi ddim yn hapus ar hyn o bryd gyda Llafur."
Roedd yr iaith yn ffactor i ddyn arall hefyd: "Fel dysgwr dwi eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn cyflawni miliwn o ddysgwyr, rhaid iddyn nhw weithio mwy."
Dywedodd dyn arall ei fod wedi colli ffydd mewn gwleidyddiaeth yn llwyr.

Mae Llafur Cymru, o bosib, yn wynebu'r "argyfwng mwyaf yn ei hanes hi", yn ôl Richard Wyn Jones
Yn ôl Richard Wyn Jones, mae popeth fel ei fod yn "dadfeilio" i'r blaid ar hyn o bryd.
"Mae eu harweinydd Cymreig yn amhoblogaidd, mae eu harweinydd Prydeinig nhw'n amhoblogaidd, mae eu polisïau Cymreig yn amhoblogaidd, mae eu polisïau Prydeinig nhw hefyd yn amhoblogaidd," meddai.
Oni bai bod yna newid mawr, mae'n rhagweld y gallai Llafur gael llai o seddi yn y Senedd newydd nac sydd ganddyn nhw nawr, er gwaetha'r ffaith bod nifer yr aelodau yn cynyddu o 60 i 96.
Mae hi hefyd yn ddigon posib y gallai Eluned Morgan fethu â chael ei hethol yn etholaeth Ceredigion Penfro, meddai.
Dywedodd Richard Wyn Jones y byddai hynny "yn rhyfeddol".
Ond mae 'na "ffordd bell i fynd cyn yr etholiad nesaf," yn ôl Eluned Morgan.
"Dim ond nawr mae'r taps yn cael eu troi ymlaen," meddai wrth gyfeirio at arian o San Steffan.
"Felly mae 'na gyfle gyda ni. Ond dwi'n gobeithio y bydd pobl yn gweld y bygythiad gan Reform a beth sydd ganddyn nhw i golli".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin
- Cyhoeddwyd11 Chwefror