Eisteddfod Ffermwyr Ifanc ym Maldwyn am y tro cyntaf ers 1999

Dyma'r unig Eisteddfod o'i fath yng Nghymru, gan fod y cystadlu yn digwydd yn Saesneg a Chymraeg
- Cyhoeddwyd
Dydd Sadwrn bydd Theatr Hafren, Y Drenewydd yn fôr o ganu, actio a chystadlu, wrth i aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc (CFfI) Cymru ddod at ei gilydd ar gyfer un o'u prif ddigwyddiadau - yr Eisteddfod.
Dyma'r tro cyntaf i Eisteddfod CFfI gael ei chynnal yn Sir Drefaldwyn ers 26 o flynyddoedd.
Yn ogystal â chystadlaethau meimio, sgetsys a ffotograffiaeth, mae categori newydd eleni sef y côr hwyl.
Dywedodd Lynfa Jones - cadeirydd yr Eisteddfod ac aelod o gangen Dyffryn Banw - ei fod yn gyfle gwych "i ddathlu Cymreictod" a "rhoi Maldwyn ar y map".
Mae disgwyl i tua 700 o aelodau rhwng 10 a 28 oed i gystadlu.
'Teimlo'n falch'
Er bod CFfI Maldwyn wedi cynnal yr Eisteddfod 'nôl yn 2010, Aberystwyth oedd y lleoliad bryd hynny.
"S'gena ni ddim rili llefydd sydd digon mawr i gynnal Eisteddfod ym Maldwyn, er bod Maldwyn ei hun yn fawr," meddai ysgrifennydd Clwb Dyffryn Tanat, Rhiannon Johnson.
Ychwanegodd Lynfa bod hi'n bosib bod "llai o seddi na'r arfer eleni".
Er hynny, dywedodd Rhiannon ei bod hi'n "teimlo'n falch" bod yr ŵyl yn cael ei chynnal "ym Maldwyn ei hunain blwyddyn yma".

Ailymunodd Rhiannon Johnson â'i chlwb lleol ar ôl bod i ffwrdd i'r brifysgol, er mwyn cymdeithasu
Mudiad gwledig gwirfoddol ydy Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru, sy'n "cynorthwyo pobl ifanc i fod yn ffermwyr llwyddiannus, unigolion hyderus, cyfranwyr effeithiol a dinasyddion cyfrifol".
Dywed Lynfa bod y clwb yn "croesawu pawb - nid dim ond ffermwyr".
Ailymunodd Rhiannon Johnson â'r clwb ar ôl iddi ddychwelyd o'r brifysgol.
"O'n i'n teimlo pan o'n i'n gweithio o adre bo fi ddim rili yn cymdeithasu efo unrhyw un," meddai.
"Nes i ymuno 'nôl efo'r ffermwyr ifanc i allu 'neud rhywbeth ar ôl gwaith - ddim just bod yn y tŷ drwy'r dydd, bob dydd."
Mae mwy na 5,000 o aelodau mewn dros 150 o glybiau ar draws Cymru.
'Cynnwys pawb'
Dywedodd Rhiannon fod yr Eisteddfod yn "rili bwysig i'r mudiad" ac yn "rhan fawr o ddiwylliant Cymru".
"Dydy o ddim yn cael ei gynnal efo CFfI Lloegr - m'ond Cymru sy'n 'neud o," meddai.
"Mae'r gystadleuaeth yn gallu catero at bob unigolyn o fewn y mudiad. Mae'n cynnwys pawb.
"Mae gen ti ganu, dawnsio a phethau mwy hwyl fel y meim.
"Os 'da chi rili ddim eisiau gwneud rhywbeth ar y llwyfan, mae 'na gelf a chrefft a llenyddiaeth."

Mae cystadlaethau fel meim a chân actol yn rhan o'r Eisteddfod
Am y tro cyntaf erioed bydd côr sirol Maldwyn yn cystadlu, gyda dros 80 o aelodau.
Bydd saith côr yn cystadlu yng nghategori'r côr hwyl, sy'n "rhoi cyfle i glybiau llai dod at ei gilydd i gystadlu", yn ôl Lynfa.
Mae'r côr hwyl yn caniatáu hyd at dri chlwb o'r un sir i gyfuno.
Mae Lynfa yn credu bod yr Eisteddfod "yn gyfle anhygoel i'r rhai sydd ddim yn cystadlu yn yr Urdd", a hoffai hi annog mwy o bobl i gystadlu.
"Mae'r safon a'r talent yn rili uchel," meddai Rhiannon.
"Mae'n syndod - lot o'r clybiau yma m'ond yn tynnu'r pethau at ei gilydd mewn rhyw bythefnos neu wythnos a hanner.
"Mae wir yn dangos y math o talent sydd gennym ni ar hyd y clwb efo'r aelodau, a'r bobl sy'n hyfforddi ni a rhoi'r pethau at ei gilydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Awst

- Cyhoeddwyd2 Tachwedd
