Eisteddfod y Wladfa yn dathlu 160 mlynedd ers glaniad y Mimosa

Llun yn dangos dynes ar gadair bren ar lwyfan llawn pobl mewn gwisgoedd glas.Ffynhonnell y llun, Luciana Souza Mariñas/Eisteddfod del Chubut
Disgrifiad o’r llun,

Sara Borda Green oedd prifardd Eisteddfod del Chubut eleni

  • Cyhoeddwyd

Wrth i Eisteddfod y Wladfa ddathlu 160 mlynedd ers sefydlu'r gymuned Gymraeg yn yr Ariannin, mae prifardd yr ŵyl eleni yn dweud ei bod hi'n "her ac yn gyfrifoldeb parhaus gwneud yn siŵr bod y Gymraeg dim yn colli tir yn erbyn iaith fwyafrifol fel y Sbaeneg".

Fe wnaeth y Cymry cyntaf gyrraedd Patagonia ar long y Mimosa yn 1865, gan sefydlu'r hyn a ddaeth i'w adnabod fel Y Wladfa.

Mae rhai yn credu bod yr Eisteddfod ffurfiol cyntaf yn debygol o fod wedi digwydd tua degawd wedi hynny.

Mae Eisteddfod del Chubut yn cael ei gynnal pob mis Hydref yn nhalaith Chubut, ac yn "cydblethu diwylliant Cymreig a diwylliant yr Ariannin", yn ôl y prifardd Sara Borda Green o Drevelin.

Dywedodd bod Eisteddfodau yn "llesol i bawb sy'n rhan o leiafrif ieithyddol a diwylliannol fel ni".

Llun du a gwyn yn dangos grŵp mawr o bobl yn sefyll mewn cylch yn yr awyr agored.Ffynhonnell y llun, wikicommons
Disgrifiad o’r llun,

Llun cynnar o Eisteddfod Y Wladfa, tua 1880

Fe ddaeth pobl o bob cwr o Batagonia a nifer o ymwelwyr o Gymru draw i'r wŷl ddwyieithog yn ninas Trelew ganol fis Hydref.

"Dydy o ddim yn hawdd mynychu Eisteddfodau pen arall y dalaith," meddai Sara.

Yr Ariannin ydy'r wythfed wlad fwyaf yn y byd, ac mae talaith Chubut yn debyg i Brydain o ran maint.

Dywedodd Sara fod cymunedau Cymreig yn "gwneud yr ymdrech i gymryd rhan" yn yr Eisteddfodau, hyd yn oed pan mae'n golygu "gyrru dros saith awr trwy'r Paith [anialwch mwyaf Yr Ariannin]".

Dynes mewn sgarff efo dreigiau yn cerdded ar garped coch, rhwng gynulleidfa sy'n clapio a gwylio hi.Ffynhonnell y llun, Luciana Souza Mariñas/Eisteddfod del Chubut
Disgrifiad o’r llun,

Eleni oedd y pumed tro i Sara ennill y gadair yn Eisteddfod y Wladfa

Wedi cystadlu yn yr Eisteddfod ers roedd hi'n dair oed, mae Sara wedi profi llawer o lwyddiant ac wedi ennill ei phumed gadair eleni.

"Y tro cyntaf i mi ennill cadair Eisteddfod y Wladfa roeddwn i yng Nghaerdydd a gwyliais y seremoni drwy ffrydio," meddai.

"Mi fuodd yn hynod braf eleni bod yn Nhrelew a mwynhau ei holl elfennau."

Ysgrifennodd Sara casgliad o bedair cerdd fer oedd yn "myfyrio ar yr amwysedd gall rhywun deimlo wrth deithio yn aml rhwng yr Ariannin a Chymru" dan y thema taith/ siwrnai.

Yn ogystal â chystadlu yn gyson, mae Sara yn "cydweithio gyda'r pwyllgorau sy'n trefnu'r eisteddfodau yn Chubut drwy gyfrannu gyda'r rhaglen neu feirniadu, neu helpu gyda gweithgareddau Gorsedd y Wladfa".

Dywedodd: "Does 'na ddim sefydliadau eraill fel llywodraeth, prifysgolion, cyfryngau neu gyhoeddiadau, er enghraifft, sy'n barod i roi llwyfan cyhoeddus i'r Gymraeg."

'Teimlad arbennig'

Cymraes oedd yn ymweld ag Eisteddfod del Chubut am y tro cyntaf eleni oedd Beca Fflur Williams o Aberystwyth, sydd wedi bod yn teithio yn Ne America.

"Roedd yn brofiad arbennig iawn i gyrraedd Y Wladfa ar ôl cyfnod o glywed Sbaeneg yn unig, ac yna clywed Cymraeg ar ochr arall y byd — roedd hynny'n deimlad arbennig," dywedodd.

Yn un sydd "wastad wedi mwynhau canu ac eisteddfota", roedd Beca yn benderfynol o ymweld â Phatagonia yn ystod yr Eisteddfod.

Merch yn canu ar lwyfan. Geiriau 'Eisteddfod del Chubut 2025' sy'n ymddangos tu ol iddi.Ffynhonnell y llun, Luciana Souza Mariñas/Eisteddfod del Chubut
Disgrifiad o’r llun,

Cystadlodd Beca Fflur Williams yn yr unawdau cerdd dant, alaw werin a chân ysgafn

Enillodd Beca yr unawd cerdd dant, wedi profiad "bendigedig".

"Mae'r teimlad o gymuned a brwdfrydedd dros yr iaith a'r traddodiadau Cymreig yn gryf, ac yn debyg iawn i'n eisteddfodau ni adref," meddai.

Ychwanegodd ei bod wedi mwynhau "gweld cymaint o dalent lleol" a "dod i adnabod cymeriadau'r Wladfa".

Y prif wahaniaethau rhwng Eisteddfod del Chubut ac Eisteddfodau Cymru yn ôl Sara "yw'r ffaith bod y gadair yn gwobrwyo cerdd yn Gymraeg ar ffurf gaeth neu rydd, a'r goron yn cael ei rhoi i gerdd fuddugol yn Sbaeneg".

"Mae'r seremonïau wedyn yn wahanol - uniaith Gymraeg ar gyfer y gadair, gyda'r Orsedd gyflawn ar y llwyfan, a'r canu i gyd yn Gymraeg.

"Ar gyfer y goron ceir y seremoni yn Sbaeneg, a Phrifeirdd yr Orsedd yn unig ar y llwyfan, a zamba - rhythm gwerin yr Ariannin - yn cael ei dawnsio a chanu fel rhodd i'r bardd."

Cafodd cystadleuaeth saethyddiaeth (archery) ei chynnwys ar y rhaglen eleni am y tro cyntaf, ynghyd â'r categorïau arferol o gerddoriaeth, llenyddiaeth, celfyddydau gweledol a dawns werin Yr Ariannin a Chymru.

Profiad 'amhrisiadwy'

Wrth adlewyrchu ar ei hamser ym Mhatagonia, disgrifiodd Beca'r profiad fel un "amhrisiadwy" sydd "wedi gadael argraff ddofn" arni.

"Roedd yn fraint gallu rhannu'r profiad gyda phobl mor garedig ac angerddol dros Gymru a'r Gymraeg," meddai.

"Mae'r daith wedi rhoi persbectif newydd ar fy hunaniaeth Gymraeg a gwerth yr iaith a'r diwylliant."

Ychwanegodd ei bod "eisoes yn edrych ymlaen at ddychwelyd rywbryd yn y dyfodol".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.