'Colli cyfleon' wedi diflaniad rhaglen Erasmus
- Cyhoeddwyd
Roedd rhaglen Erasmus yn cynnig cyfle i ddisgyblion ysgol a myfyrwyr prifysgolion Prydain dreulio cyfnodau mewn gwledydd tramor.
Fe ddaeth hynny i ben yn sgil Brexit a nawr mae yna bryder y bydd y “bwlch rhyngom ni a gwledydd eraill Ewrop yn agor”.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rhaglen ddysgu ryngwladol o’r enw Taith, mae rhai o’r farn bod angen gwneud mwy i sicrhau cyfleoedd i ddysgu mewn rhannau eraill o’r byd.
Yn ôl yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru dyw’r cynllun ddim yn gwneud digon i ateb y galw wedi Brexit.
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan ger Abertawe wedi manteisio ar gynllun Taith, gan deithio fel criw i ardal Catania yn yr Eidal yn ddiweddar.
Yn ôl un disgybl a fanteisiodd ar y daith “roedd e’n cyfle rili da”.
“Rwy’ ddim wedi mynd ar yr awyren o’r blaen neu tramor so odd fi’n rili nervous a rili cyffrous."
Dywedodd un disgybl arall “roedden ni’n dysgu am beth mae nhw’n neud yna a tamaid bach or iaith, roedd e’n opportunity enfawr”.
Mae’r ysgol yn un o ardaloedd mwya’ difreintiedig Cymru, a’r pennaeth, Mr Berian Wyn Jones, yn croesawu’r cyfle am brofiadau addysgol gwerthfawr, ac am ddim, i’r disgyblion.
Dywedodd: “Se ni ddim yn mynd â’r plant 'ma dramor, bydde nhw ddim yn mynd, bydde nhw ddim yn cael y cyfleoedd, so ma’ mor bwysig bod ni’n datblygu hwnna a ni’n ffodus bod Taith 'na.
“Buon ni arfer neud yr hen brosiect Erasmus so yn amlwg ar ôl i ni adael Ewrop rodd ‘na fwlch ac o'n i’n hapus iawn i weld fod Taith yn bodoli.
“Dylen ni fod yn dathlu Taith mewn ffordd, bod ni’n gallu fel Cymry dathlu’r ffaith fod rhywbeth fel hyn gyda ni."
Ond yn ôl yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru dyw’r cynllun presennol ddim yn ddigonol.
“Ma’r cynllun Taith yn gynllun sydd wedi lleddfu rhywfaint ar y bwlch wrth ein bod ni wedi colli’r cyfle i fod yn rhan o Erasmus, ond ma’ na gyfleoedd o hyd yn codi i ni fod yn rhan o gynlluniau cyffrous Erasmus, ond bod ni ddim yn medru cymryd rhan oherwydd amgylchiadau Brexit.
“Yr ofn sydd dros amser yw os nad oes 'na rhywbeth yn cael ei neud i wella’r sefyllfa yma, y bydd y bwlch rhyngom ni a gwledydd eraill Ewrop yn agor ac y byddwn ni, a’n pobl ifanc ni yn enwedig, ddim yn cael y cyfleoedd 'ma rhywun o fy nghenedlaeth i wedi eu cael."
Mae’n gobeithio “wrth i amser fynd yn ei flaen a falle llywodraeth newydd ar lefel y Deyrnas Gyfunol" y bydd rhywfaint o "ystwytho ar y safbwynt Brexit cadarn, cadarn 'ma ac ein bod ni dros amser yn mynd i fedru dod yn ôl i mewn i rhai o’r rhaglenni ‘ma”.
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2024
Yn ôl Llywodraeth Lafur Cymru, mae cynllun Taith yn cynnig “profiadau gwerthfawr i filoedd o ddisgyblion a staff”.
Byddai Plaid Cymru yn “hoffi gweld y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn rhan o Erasmus+”.
Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn ffafrio gweld yr arian yn cael “ei wario ar addysg rheng-flaen yng Nghymru”.