Cynnwys ar-lein yn rhoi pwysau ar achubwyr mynydd

Cerddwr yn EryriFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae achubwyr wedi gorfod delio â nifer o ddigwyddiadau ar fynydd Tryfan yn ddiweddar

  • Cyhoeddwyd

Mae achubwyr mynydd yn dweud fod mwy o alw i'w gwasanaeth wrth i gerddwyr dibrofiad ddilyn negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n gallu eu rhoi mewn peryg.

Dywedodd un o brif dimau achub Cymru ei bod hi'n barod yn edrych fel mai eleni fydd y flwyddyn brysuraf erioed iddyn nhw.

Yn ôl cadeirydd Achubwyr Mynydd Dyffryn Ogwen, Chris Lloyd, mae'r cynnydd yn y galw yn adlewyrchu'r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr i Eryri, a'r cynnydd yn y bobl sy'n cyhoeddi fideos o'r parc ar Tiktok, Instgram a YouTube.

Dywedodd fod y rheiny sy'n mynd tua'r mynyddoedd angen paratoi, yn hytrach na chyrraedd heb gynllun.

Mae o leiaf wyth marwolaeth wedi ei nodi yn y flwyddyn ddiwethaf o amgylch copao'n y parc cenedlaethol.

"Mae hwn yn ardal arbennig... a dwi'n deall pam fod pobl eisiau mynd allan a mwynhau eu hunain," meddai Mr Lloyd, sydd wedi bod yn gwirfoddoli gyda thîm achub mynydd Ogwen ers bron i 50 mlynedd.

"Ond maen nhw wir angen meddwl, yn enwedig wrth fynd i'r mynyddoedd.

"Meddwl am y goblygiadau, hyd yn oed newid yn y tywydd, neu os oes gennych anaf, neu os yw'n tywyllu - dyle chi fod yn barod ar gyfer y goblygiadau yna."

Mae'r tîm achub mynydd wedi gorfod delio â nifer o ddigwyddiadau yn yr wythnosau diwethaf oherwydd bod cerddwyr dibrofiad yn dringo mynydd Tryfan heb sylwi difrifoldeb y sefyllfa.

Mae'r mynydd yn 917m neu 3,010 o droedfeddi.

Nid oes llwybr cerdded penodol i'r copa, ac mae'n rhaid i chi ddefnyddio'ch dwylo a sgiliau penodol i gyrraedd y copa.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Lloyd wedi gwirfoddoli efo tîm achub mynydd Ogwen ers bron i 50 mlynedd

"Dwi'n meddwl fod pethau wedi newid, yn sicr mae holl dimau achub bywyd wedi sylwi ar newid mawr ers y cyfnod clo," meddai Mr Lloyd.

"Dwi'n meddwl mai un o'r prif bethau yw'r cyfryngau cymdeithasol. Mae pobl yn gwrando ar bodlediadau ac yn gweld y llefydd ac yn cael y syniad eu bod yn gallu mynd fyny 'na.

"Ond nid ydyn nhw wedi gweld sut oedd y person yna wedi paratoi a pha mor brofiadol oedden nhw.

"Mae nifer o bobl yn cael trafferth gan nad oes ganddyn nhw'r offer cywir neu digon o brofiad."

Mae'r timau achub ar draws y parc cenedlaethol yn annog ymwelwyr i ddefnyddio'r gwasanaethau ar-lein sy'n cynnig gwybodaeth am sut i fwynhau yn yr awyr agored yn ddiogel.

'Ddim yn deall y peryglon'

Yn eu plith mae grŵp Adventure Smart, sydd bellach yn cynnwys Gogledd Iwerddon ac Ardal y Llynnoedd ar ôl ei sefydlu yng Nghymru.

"Ers Covid mae pobl wedi sylweddoli bod yr awyr agored yn dda i'w hiechyd ac yn heidio at y bryniau a'r dŵr - sy'n wych," medd Emma Edwards-Jones o'r grŵp.

"Ond does gan lawer ohonyn nhw ddim dealltwriaeth o'r peryglon.

"Mae ambell gam syml y gallan nhw ei gymryd er mwyn osgoi'r peryglon hynny, cael diwrnod mwy hwylus, a pheidio gorfod galw'n timau achub sydd eisoes wedi eu gorlwytho."

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid i bobl ystyried a ydyn nhw wir yn ddigon heini ar gyfer y gweithgaredd maen nhw am ei wneud, medd Emma Edwards-Jones

Fe wnaeth hi annog ymwelwyr i ofyn tri chwestiwn i'w hunain: Ydyn nhw'n ddigon heini ar gyfer y gweithgaredd? Ydyn nhw'n gwybod sut fydd y tywydd? Oes ganddyn nhw'r dillad a'r offer cywir?

"Pobl sy'n oer ac ar goll yw nifer sylweddol o'r digwyddiadau y mae'n rhaid i griwiau ymateb iddyn nhw, a'u tywys o'r mynydd.

"Dydyn nhw ddim wir yn ddamweiniau.

"Os oes modd i ni roi diwedd ar ddigwyddiadau o'r fath, gallwn ni roi cymorth go iawn i'n timau achub."

Pynciau cysylltiedig