Ar antur i'r UDA ar ôl darganfod dyddiadur yn hen gist ei daid

Gwilym Roberts o flaen y Statue of LibertyFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Gwilym Roberts o flaen y Statue of Liberty yn Efrog Newydd - cerflun fyddai ei daid hefyd wedi ei weld ar ôl hwylio o Gymru yn 1911

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymro wnaeth ddarganfod dyddiadur ei daid mewn hen gist teithio wedi efelychu ei daith i'r UDA pan fudodd yno yn 1911.

Roedd Gwilym Roberts eisiau dod i wybod mwy am hanes ei daid, wnaeth adael ei bentref genedigol yn Llanberis cyn y Rhyfel Byd Cyntaf cyn dychwelyd ddegawd yn ddiweddarach.

Roedd ei gist teithio wedi cael ei basio o un cenhedlaeth i'r llall dros y blynyddoedd ond heb ei agor ers amser maith.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cist teithio Robert William Roberts, taid Gwilym - ac ar y dde, y gist wedi ei hagor. Roedd yn cael ei ddefnyddio fel dodrefnyn am ddegawdau cyn ei hagor

Mae Gwilym yn cofio'r gist yn cael ei ddefnyddio fel cwpwrdd dillad gan ei daid a'i nain cyn cael ei drosglwyddo i gartref ei rieni yn Llanberis dros hanner canrif yn ôl.

"Dwi'n cofio Dad yn dod a fo i tŷ ni pan farwodd Nain, efo help gan ddau ddyn arall i gario fo fyny'r grisiau achos roedd o mor drwm," meddai Gwilym, gafodd hefyd ei fagu yn Llanberis.

"Wnaethon nhw daflu barclod drosto fo a rhoi lamp arno fo, a fanna oedd o - a doedd o heb ei agor.

"Yna pan oedd Mam wedi mynd i gartref a ni'n gwagio'r tŷ, dyna pryd natho ni ddod ar ei draws o eto a'i agor a gweld bod nhw wedi cadw bob dim ynddo fo - pethau fel tystysgrifau geni, tystysgrif marwolaeth.

"Ond y syrpreis mwya' oedd dyddiadur Taid a'r passports - do'n i'm yn gwybod bod 'na basbort adeg hynny.

"Ac roedd 'na ambell i beth fel ei watch aur, pin tei, llun ohono fo fel lumberjack yn America."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Robert William Roberts - taid Gwilym - yng nghanol y rhes flaen gyda'i gyd-weithwyr oedd yn llifio coed i adeiladu tai yn Shoreshore. Mae Gwilym yn meddwl mai Glyn Williams o ardal Cerrigydridion ydi'r gŵr efo'r marc X uwch ei ben yn y rhes gefn. Meddai: "Maen amlwg fod Taid wedi gyrru y llun fel postcard adra i ddangos fod o yng nghwmni Cymro arall."

Roedd Robert William Roberts wedi ymfudo i Idaho yn 1911 pan oedd yn ddyn ifanc yn gweithio yn Chwarel Dinorwig.

Ar ôl blynyddoedd fel coedwigwr yn Idaho, yng ngorllewin yr UDA, fe ddychwelodd yn ôl i Gymru yn 1922, cyfarfod a phriodi Cymraes a magu teulu.

Roedd Gwilym, sydd bellach yn byw yn ardal Caerdydd, yn adnabod ei daid yn dda ond mae o wedi dod i ddysgu mwy amdano fel dyn ifanc wrth bori drwy ei hen ddyddiadur a gwneud ymchwil.

"Yn y dyddiadur mae'n sôn am fynd i Lerpwl a chroesi i Efrog Newydd ar y Lusitania [llong enwog gafodd ei suddo gan yr Almaenwyr yn y rhyfel yn 1915] ac wedyn ymlaen i Chicago.

"Mae 'na anecdotes yn y dyddiadur, a recipes. Mewn un lle mae o'n deud 'swper reit dda heddiw ar y llong - uwd a phwdin reis'.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Clawr y dyddiadur ac un o'r tudalennau

"Mewn Cymraeg oedd o'n sgwennu i ddechrau ond pan wnaeth o gyrraedd America wnaeth o droi'n ddwyieithog. Mae o'n sgwennu'n dda - ac i feddwl bod o heb gael addysg achos aeth o'n syth i'r chwarel.

"Wnaeth o briodi gynta' yn Idaho. Roedd Mam a Dad yn gwybod hynny, ond be' doedda nhw ddim yn gwybod - ac aeth Mam a Dad i'w bedd ddim yn gwybod chwaith - oedd bod ei wraig yno yn feichiog pan ddaeth o nôl ei hun, felly roedd Dad efo hanner brawd yn America."

Roedd Gwilym wedi addo i'w fam cyn iddi farw y byddai'n dilyn ôl troed ei daid i'r UDA, gan fynd a rhai o'i eiddo drosodd er cof amdano.

Meddai: "Yn y dyddiadur mae o'n son am deithio third class ac am y Cymry mae o'n cyfarfod ar y llong a'i fod o wedi dod o hyd i gwmni.

"Ro'n i wedi gwneud addewid ar wely angau Mam mod i am fynd i New York a gweld ei lofnod pan wnaeth o gyrraedd Ellis Island, ac o'n i am ddod 'nôl ar y Queen Mary II.

"A dyma Mam yn deud 'paid â dod yn ôl third class fel dy Daid - nath o weithio'n galed i chdi gael addysg'."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Gwilym gyda pasbort ei daid - yn ôl ar Ellis Island, lle'r oedd pawb oedd yn mudo i'r UDA yn gorfod cofrestru

Felly cyn y Nadolig fe gadwodd Gwilym at ei air a hedfan drosodd i Efrog Newydd, ymweld â rhai o'r llefydd sy'n cael eu crybwyll yn y dyddiadur, cyn dod 'nôl ar long.

"Neshi fynd i Ellis Island a gweld llofnod Taid pan gyrhaeddodd yno. Tydi EIlis Island heb newid dim - mae o yn union fel roedd o 150 mlynedd yn ôl felly roedd yn deimlad od cerdded i lawr y coridor ac i mewn i'r neuadd lle wnaeth fy nhaid gael stampio ei basbort.

"Ond roedd o'n mynd yno i ddechrau bywyd newydd efo'r trunk. Ac wrth edrych ar draws i Efrog Newydd ro'n i'n meddwl sut mae'r ddinas yn edrych heddiw a sut oedd o pan oedd Taid yna yn 1911."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Llofnod taid Gwilym - y bedwaredd yn y rhestr - wrth gael ei dderbyn i'r UDA

Roedd Gwilym hefyd yn gwybod o'r dyddiadur fod ei daid wedi aros gyda Chymraes yn ardal Brooklyn:

"Yn ei ddyddiadur mae o'n nodi pobl Cymraeg wnaeth o gyfarfod - fel Mrs Hudston o Gerrigydrudion. Roedd ganddi hi le ac roedd o'n swnio fel bod y Cymry yn gweithio drwy ei gilydd ac yn helpu Cymry oedd yn mynd drosodd.

"Wnaethon ni fynd heibio fanno, ond ma'r lle wedi newid yn llwyr."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Robert William Roberts. Yn y llun ar y dde, fo ydi'r dyn sy'n eistedd

Ac fe wnaeth y trip personol droi'n hyd yn oed yn fwy emosiynol wrth i Gwilym gyfarfod ei frawd, sy'n bwy yn Vancouver, am y tro cyntaf ers ugain mlynedd.

Doedd y ddau heb gael llawer o gysylltiad ers blynyddoedd, tan i'r brawd ffonio eu chwaer nôl yng Nghymru.

Eglurodd Gwilym: "Wnaeth fy chwaer ddweud wrtho fo mod i yn Efrog Newydd a ddudodd o 'dwi yn New York hefyd'. Ac felly ar ôl 20 mlynedd nes i gyfarfod fy mrawd, oedd yn rhoi twist i bethau a ro'n i'n gallu rhoi rhai o bethau Taid o'n i wedi mynd drosodd efo fi, iddo fo i'w cadw.

"Roedd yn emosiynol iawn yn enwedig oherwydd y rheswm ro'n i yno."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Gwilym ar fwrdd y Queen Mary II wrth hwylio yn ôl i Brydain o Efrog Newydd. Mae o eisioes wedi bod yn Chicago, lle bu ei daid am gyfnod, ac yn gobeithio ymweld ag Idaho

Ar ôl pedwar diwrnod yn Efrog Newydd fe dreuliodd Gwilym saith diwrnod yn croesi'r Iwerydd yn ôl i Gymru yn debyg i'w daid - ar fwrdd llong.

Meddai: "Roedd yn braf croesi ar long passenger yn hytrach na cruise - roedd yn ffurfiol iawn a'r llong yn edrych fel un o'r oes o'r blaen, fel tasa ni yn 1920."

Wrth iddo nawr ddechrau meddwl am ymweld ag Idaho, mae o'n falch o fod wedi cael y cyfle i efelychu rhan gyntaf taith ei Daid.

"Wnaeth Taid wneud yn dda iddo fo'i hun," meddai. "Ddaeth o nôl a chyfarfod Nain - roedd o yn ei 40au erbyn iddyn nhw briodi - ond gafodd o blentyndod creulon.

"Wnaeth ei fam farw ar ei enedigaeth a wnaeth ei dad o gymryd o allan arno fo pan oedd o'n fach - felly unwaith roedd o'n gallu mynd i ffwrdd, nath o fynd.

"Dwi'n falch bod fi 'di neud y daith i Mam a Dad ac er cof am fy nhaid. Gafodd o fagwraeth anodd iawn ond roedd o bob tro'n ddyn annwyl, addfwyn a charedig."

Pynciau cysylltiedig