Cofio Caradog Prichard 45 mlynedd wedi'i farwolaeth

Caradog Pritchard
Disgrifiad o’r llun,

Caradog Prichard

  • Cyhoeddwyd

Mae heddiw yn nodi 45 mlynedd ers marwolaeth y llenor Caradog Prichard.

Un sydd wedi astudio'i fywyd a'i waith yw Menna Baines, a fe fu hi'n siarad gyda Sara Gibson ar BBC Radio Cymru amdano.

Menna Baines yn stiwdio Radio Cymru ym Mangor
Disgrifiad o’r llun,

Mae Menna Baines yn awdurdod ar waith a bywyd Caradog Prichard

Er mai am ei nofel Un Nos Ola Leuad y mae o'n fwyaf enwog, fe gyflawnodd gampau llenyddol mawr eraill. Enillodd goron yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru dair gwaith yn olynol, a'r gyntaf o rheiny pan oedd o'n ddim ond 22 mlwydd oed – y person ieuengaf erioed i ennill y goron ar y pryd.

Dywedodd Menna:

"Mae'r ddwy bryddest gynta' yn dda iawn. Mae'r drydydd falla'n ychydig bach yn fwy anodd a rhyfedd a diarth, ond mae'r tair yn ymwneud yn y bôn efo'r un byd ag Un Nos Ola Leuad, ac yn ddiddorol iawn i'w darllen ochr yn ochr â'r nofel. Ac maen nhw i gyd yn deillio o'r un profiad."

Y profiad hwnnw yw'r profiad o orfod mynd a'i fam i'r "seilam", sef ysbyty meddwl Dinbych, pan oedd o'n 18 mlwydd oed. Fe siaradodd Caradog Prichard ei hun am hyn ar raglen Heddiw ym 1973.

Disgrifiad,

Caradog Prichard ar raglen Heddiw yn 1973

Ychwanegodd Menna:

"Bron iddo fo gael pedwaredd coron. Yn 1939 oedd hynny, yn Eisteddfod Dinbych. Roedd y beirniaid wedi dweud mai ei gerdd o oedd yr orau yn y gystadleuaeth, ond oedden nhw'n dweud bod hi ddim ar y testun.

"Gafodd [y gerdd] ei chyhoeddi ar ryw bamffled ar y maes yn syth wedyn, ac roedd pobl yn dweud, gan gynnwys pobl bwysig fel beirniaid fel WJ Gruffydd yn Y Llenor ac ati, yn dweud bod Caradog wedi cael cam i beidio cael y goron y flwyddyn honno hefyd.

"Gallu trin iaith, yn y bôn, dw i'n meddwl mai dyna oedd ei ddawn o; ei fod o'n gallu trin y Gymraeg, trin y Saesneg – y Saesneg ffurfiol iawn yma oedd o'n ysgrifennu yn y Daily Telegraph.

"Is-olygydd oedd o. Doedd gyno fo ddim dymuniad i ddringo, mae'n ymddangos. Er bod o yng nghanol y byd cystadleuol yma, oedd o'n cadw'i ben i lawr."

Disgrifiad,

Caradog Prichard a'i gyfeillion yn codi canu mewn tafarn ym Methesda

Fe fu'n ambell ddegawd nes y câi Caradog Prichard ychwanegu Cadair Eisteddfod at ei gasgliad o wobrau llenyddol. Yn ôl Menna fe geisiodd am y Gadair lawer gwaith, ond ni chafodd lwyddiant tan 1962, yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli. A bron iawn iddo golli'r seremoni, fel yr eglurodd:

"Roedd Mati, ei wraig o, wedi mynd o'i flaen o i Lanelli ac yn disgwyl Caradog [ar ddiwrnod y cadeirio]. Roedd o wedi bod, am wn i, yn gweithio. Roedd Mati yn y steshon yn Llanelli, mae'n debyg ac roedd amser y seremoni'n dod yn nes ac yn nes.

"Roedd hi'n cael panic, achos oedd yna un trên ar ôl y llall yn dod i mewn a doedd dim hanes o Caradog ar ddim un ohonyn nhw.

"Mi ddaeth ymhen hir a hwyr, pan oedd hi bron iawn rhy hwyr. Mae'n debyg oedd Caradog wedi methu stop. Roedd o wedi mynd ymlaen un neu ddau o stops ar y trên oherwydd bod o'n dathlu ar ei ben ei hun efo potel o wisgi."

Gallwch glywed sgwrs Menna gyda Sara Gibson yn llawn ar BBC Sounds.

Sara Gibson

Menna Baines yn cofio gwaith a bywyd Caradog Prichard