'Fydd dim deintyddion GIG yn y dyfodol heb newid y system'

Ni fydd deintyddion Gwasanaeth Iechyd ar gael yn y dyfodol "os nag yw pethe'n newid", meddai Dr Lowri Leeke
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd na fydd deintyddion ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd ymhen ychydig flynyddoedd os nad yw Llywodraeth Cymru'n gwella'r hyn maen nhw'n ei gynnig i'r proffesiwn.
Mae deintyddion yn rhybuddio eu bod nhw ar eu colled dan y drefn bresennol, ac y bydd hynny'n gorfodi nifer ohonyn nhw i droi'n gwbl breifat.
Mae cymdeithas ddeintyddol BDA Cymru wedi ysgrifennu at y llywodraeth yn gofyn am wella telerau'r cytundeb.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio i sicrhau bod contract deintyddol y GIG yn decach i gleifion ac i'r proffesiwn.
'Bydden i wedi gadael cyn nawr'
Dan y cytundeb presennol mae deintyddion yn cael £112 y flwyddyn am bob claf sydd ganddyn nhw ar y Gwasanaeth Iechyd.
Yn ôl deintyddion dyw'r swm ddim yn ddigon os oes angen triniaeth y tu hwnt i apwyntiad cyffredin.
Mae gan Dr Lowri Leeke ddeintyddfa yn Nhroedyrhiw ger Merthyr Tudful.
"Ni'n cael ein talu £112 os y'n ni'n gweld unwaith neu saith gwaith," meddai.
"Os dwi'n gweld nhw saith gwaith mae'r £112 yna'n gorfod talu am y nyrsys, deunyddiau, trydan, dŵr a gwres.
"Os oes angen dannedd gosod mae 'na gostau labordy o dros £100 - dwi 'di 'neud colled fawr yn gweld y claf yna achos dwi 'di gorfod sybsideiddio fe o fy mhoced fy hun.
"Os nag yw pethe'n newid fydd dim system Gwasanaeth Iechyd.
"Fi'n credu bydd lot mwy o bobl yn symud draw i'r sector breifat a bydd y Gwasanaeth Iechyd just yn cynnig gwasanaeth craidd i bobl sydd mewn poen, sy'n siom, ond ar ddiwedd y dydd ni'n trio rhedeg busnes."
- Cyhoeddwyd20 Medi 2024
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2023
Yn ôl Dr Leeke mae hi wedi penderfynu parhau i wneud gwaith Gwasanaeth Iechyd am fod deintydd arall yn y practis ar fin mynd ar gyfnod mamolaeth, a bydd y Gwasanaeth Iechyd yn helpu tuag at gost cyflogi deintydd dros dro.
"Oni bai am hynny bydden i wedi gadael y Gwasanaeth Iechyd cyn nawr," meddai.
Dywedodd bod dau neu dri deintydd yn ardal Merthyr ond yn agor un diwrnod yr wythnos oherwydd trafferthion recriwtio.
"Mae gyda chi boblogaeth enfawr ym Merthyr ond mae recriwtio deintyddion yn broblem am nad y'n ni'n cael ein talu'n deg," meddai Dr Leeke.

Mae Dr Harj Singhrao wedi gorfod ad-dalu arian i'r llywodraeth am fethu â gweld digon o gleifion
Mae Dr Harj Singhrao, deintydd yn Nhrecelyn, yn cytuno.
Mae wedi gorfod ad-dalu £50,000 i Lywodraeth Cymru am fethu â gweld digon o gleifion.
Mae hynny wedi golygu cau swydd un deintydd yn y practis.
"Ry'n ni'n cael ein cosbi am gymryd cleifion Gwasanaeth iechyd," meddai.
"Allen ni ddim â pharhau fel hyn am fwy na thair blynedd cyn y byddai'n rhaid i fi gau."

Mae llythyr agored BDA Cymru i'r llywodraeth yn nodi fod 189 o ddeintyddion wedi rhoi'r gorau i weithio yn 2022-23.
Roedd hynny gyfystyr â 13% o'r gweithlu.
Ar gyfartaledd mae dros 10% wedi gadael y proffesiwn bob blwyddyn ers 2010.
Mae'r gymdeithas yn rhybuddio fod y cytundeb yn rhwystr i ddenu deintyddion i weithio i'r Gwasanaeth Iechyd, ac y gallai niferoedd deintyddion "syrthio oddi ar glogwyn" os nad yw'r problemau'n cael eu datrys.
'Dim dewis ond troi cefn ar y GIG'
Mae Llyr Gruffydd, gwleidydd Plaid Cymru sy'n cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, yn poeni am y sefyllfa.
"Er bod y cysyniad yn un cadarnhaol dyw e ddim yn gweithio i ddeintyddion," meddai.
"Dy'n nhw ddim yn gallu delio gyda'r pwysau yma o drin cleifion ychwanegol ac o ganlyniad maen nhw'n teimlo nad oes dewis gyda nhw ond troi cefn ar yr NHS.
"Canlyniad hynny i rywle fel Gogledd Cymru yw bod tri chwarter y boblogaeth nawr heb fynediad at ddeintydd NHS, sy'n golygu bod mwyafrif helaeth rheiny yn mynd heb y driniaeth sydd eisiau arnyn nhw."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio i sicrhau bod contract deintyddol y GIG yn decach i gleifion ac i'r proffesiwn deintyddol.
"Rydym wedi treulio 13 mis yn gweithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i ddylunio'r contract newydd.
"Byddwn yn cyflwyno'r cynigion ar gyfer ymgynghoriad cyn cwblhau unrhyw gontract newydd."

Megan o Walchmai (top chwith), Dafydd Parry o Fangor (top dde), Amanda Griffiths o Langefni (gwaelod chwith), a William Travis o Langaffo (gwaelod dde)
Ar Ynys Môn, cymysg oedd profiadau pobl wrth geisio cael deintydd.
Dywedodd Amanda Griffiths o Langefni bod neb yn eu cartref nhw hefo deintydd erbyn hyn.
"Mi oeddwn i cyn Covid hefo dentist NHS yn Llangefni 'ma, ac wedyn pan 'nathon nhw ailagor nôl, oedden nhw'n deud mai mond private oedden nhw.
"Ac ers hynny da ni gyd yn tŷ ni - neb hefo deintydd yn anffodus. Mae o'n bechod mawr achos ma mynd yn private bach yn ddrud."
Un arall oedd Megan o Walchmai, oedd yn dweud bod ei chariad wedi cael trafferth ffeindio deintydd yn y gorffennol:
"Ma' cariad fi wedi stryglo cael un o blaen ar ol cael ei droppio, ond dwi'n meddwl dwy flynadd wedyn nath o ffeindio un.
"Dwi ddim really 'di cael llawer o appointments hefo un fi chwaith, ond fel arall dwi'n meddwl bo ni'n ok - ond dwi'n gwbo' bod bobl yn cael traffarth."
'Neb yn tŷ ni hefo deintydd'
Un o Fangor yn wreiddiol ydy Dafydd Parry, ond mae o bellach yn byw yn Llanfairpwllgwyngyll - ac yn dweud ei fod yn cael ei drin gan ddeintydd preifat.
"Dwi'n cael traffarth, dwi'n private ar y funud yn Llanfair, Sir Fôn. Dwi'm yn caboli llawar efo'r NHS wan - well i mi gael llai o draffarth.
"O'n i'n gweithio i'r NHS am 30 years, wedyn lot di newid wan de - bechod weld o de. Lot o bobl yn cwyno fo' nhw methu cael hyn a llall, ac felly ma'i de."
Cafodd William Travis o Langaffo lai o drafferth wrth ffeindio deintydd, meddai.
"Na dydyn ni ddim wedi cael trafferth yn y pen draw. Mae gen i ddeintydd, ac maen rhaid mynd i Borthaethwy.
"Mi gymerodd amser i ni ffeindio un, ond mi gafon ni un yn y diwedd."