Fy nhaith i Antarctica i godi lleisiau merched mewn gwyddoniaeth

Kath WhitteyFfynhonnell y llun, Kath Whittey
  • Cyhoeddwyd

“Mond yn yr '80au oedd merched yn cael mynd lawr i Antarctica. Cyn hynny, roedd y cwmnïoedd yn gwrthod mynd â chi, hyd yn oed os oeddech chi’n experts yn y maes o wyddoniaeth Antarctica!”

Yn ffodus, mae pethau wedi newid a ddechrau Tachwedd, mae Kath Whittey, bywydegydd morol o Ddolgellau, yn un o 186 o wyddonwyr benywaidd sydd yn teithio i gyfandir mwyaf deheuol y ddaear am fordaith o 19 noson.

Bwriad prosiect Homeward Bound yw i godi lleisiau merched ym maes gwyddoniaeth fel arweinwyr i 'greu byd mwy cynaliadwy'.

Cafodd Kath sgwrs ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru am y profiad bythgofiadwy sydd o’i blaen.

Teithio 10,000 o filltiroedd

Bydd Kath yn dechrau ar ei thaith 10,000 o filltiroedd o ogledd Cymru i Antarctica drwy hedfan i Ushuaia, pegwn mwyaf deheuol Yr Ariannin.

Ar ôl cyfarfod ei chyd-wyddonwyr a chymryd rhan mewn gweithdai, bydd hi'n hwylio ar un o ddwy long fydd yn cludo gwyddonwyr benywaidd o bedwar ban byd ar y fordaith.

Ffynhonnell y llun, Oli Samsom
Disgrifiad o’r llun,

Un o deithiau blaenorol Homeward Bound i Antarctica

Bydd y daith ar y llong yn ddibynnol ar y tywydd a’r amodau o’u cwmpas, meddai Kath, yn enwedig gan fod y rhan fwyaf o’r cyfandir wedi ei orchuddio gan rew.

“‘Dan ni’n croesi’r Drake Passage – dwi’n trio peidio meddwl am y peth, achos mae ‘na straeon yn dod o’r lle ‘na... wedyn lawr i Benrhyn Antarctica, wedyn i lawr.

“‘Dan ni ddim yn gwybod i lle yn union, mae’n dibynnu faint o rew sy ‘na, ond byddwn ni yno yn ystod yr haf, so gobeithio fyddwn ni’n gallu mynd i lawr i lanio ar dir hefyd.”

Profiad 'anhygoel'

Mae cyfyngiadau COVID diweddar yn golygu fod y prosiect ddim wedi gallu digwydd am y blynyddoedd diwethaf, eglurodd:

“Achos COVID, mae ganddon ni backlog o ddwy flynedd o ferched eisiau mynd. Doedden ni ddim yn gwybod os oedden ni’n gallu mynd am y flwyddyn ddiwetha', achos mae cyfyngiadau COVID dal mewn lle yn Antarctica, gyda phethau yn cael eu rheoli reit dynn.

So ddaru fi glywed mod i’n cael mynd, ac o’n i’n amazed. Ond wedyn ar ôl hynny, paratoi, a gneud gwaith... Dim ond pan dwi ar fin cysgu dwi’n meddwl am pa mor anhygoel fydd hi yna!”

Mae Kath, gyda helpu ei theulu a'i ffrindiau, yn brysur yn codi £10,000 i dalu am ei thaith - £1 am bob milltir bydd hi'n ei deithio i waelod y byd.

Dysgu gan wledydd eraill y byd

Cyfandir rhyngwladol yw Antarctica mewn ffordd eglura Kath; does dim pobl yno i siarad am hawliau’r lle heblaw pobl o wledydd eraill dros y byd, sydd yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ddysgu ohono, meddai.

“Does yna neb yn sefyll i fyny dros Antarctica i ddweud ‘peidiwch â chymryd y pysgod’, ‘peidiwch â gwneud yr oil drilling fan’na’.

"Mae i gyd o’r protection yna sy'n dod gan bobl ar draws y byd, sydd wedi dod at ei gilydd ac arwyddo treaty sy’n amddiffyn Antarctica.

“Mae hynny werth i ni gymryd sylw ohono fo. Os allwn ni ddysgu sut mae hynny i gyd yn gweithio, ella allwn ni 'neud yr un peth efo byd natur ar draws y byd hefyd.”

Teimlo’r hiraeth

Yn arfer teithio'n rheolaidd i Tobago i astudio riffiau, mae Kath bellach yn gweithio ym Mhrifysgol Bangor yn astudio’r boblogaeth cimwch a chranc yng Nghymru a Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Kath Whittey
Disgrifiad o’r llun,

Kath yn astudio riffiau yn Tobago

Mae'n gobeithio dod â beth mae'n ei ddysgu gan ei chyd-wyddonwyr, a gan y cyfandir ei hun, yn nôl adref gyda hi.

Fodd bynnag, er ei chyffro, mae beth sydd yn ei disgwyl yno yn peri ychydig o bryder iddi ar adegau, meddai.

“Weithiau dwi ddim yn [teimlo'n] gyffrous am fynd... Dwi reit sensitif, a dwi’n meddwl fydd o yn anodd i mi weld yn union beth sydd yn digwydd yna. Fydd yna lefydd lle fyddwn ni’n gwybod oedd ‘na colonies o bengwiniaid, a rŵan ella does yna ddim.

“Felly fydd gweld hynny reit anodd dwi’n meddwl, ond mae’n bwysig i ni ei weld o.

“Un o’r pethau dwi’n gobeithio ydi i ddysgu o Antarctica fel lle. Mae’n reit anodd i egluro hyn yn Saesneg, ond mae gair Cymraeg yn dweud yn union beth ydi’r teimlad o gysylltiad efo’r tir, sef ‘hiraeth’.

“Dwi yn gobeithio cael y teimlad yna tuag at Antarctica, ac efo’r teimlad yna, gwneud rhywbeth am y ffaith ei fod o’n toddi.”

Pynciau cysylltiedig