Newid hinsawdd: Antarctica 'fel ffenest mewn i'r dyfodol'
- Cyhoeddwyd
Ers i'r biolegydd morol, Huw Griffiths, ddechrau gweithio yn Antarctica 22 mlynedd yn ôl mae dau ddarn anferth maint dwy wlad fach o'r rhewlif a "fyddai wedi bod yno ers miloedd o flynyddoedd" wedi diflannu.
Ers iddo adael ei gartref, sy'n eistedd ar glogwyn yn Llanon ym Mae Ceredigion, i fentro i fyd gwaith yn berson ifanc mae hanner y graig o dan dŷ ei fam yn anweledig gan fod lefel y môr yn codi.
Mae gweithio yn Antarctica "fel ffenest mewn i'r dyfodol" meddai Huw Griffiths, 46, sy'n gweithio i'r British Antarctic Survey ac wedi cynghori ar gyfresi Frozen Planet ll a Planet Earth ll.
"Mae tŷ fy mam un cae i ffwrdd o'r môr. Dyw e ddim am ddisgyn mewn i'r môr eto, ond mae mor agos i'r môr a gall e fod."
'Newid hinsawdd yn fygythiad enfawr'
Swydd Huw Griffiths ydi darganfod ac astudio creaduriaid ar waelod y môr yn Antarctica ac astudio effaith newid hinsawdd, pobl a llygredd ar ecosystem y rhan yma o'r byd.
"Mae gennym ni enwau i tua 8,000 o rywogaethau gwahanol ac wrth ystyried y cyflymder rydyn ni'n eu darganfod nhw, rydyn ni'n credu bod yna rhywle rhwng 17,000 a 20,000 o rywogaethau gwahanol o dan y dŵr, felly dydyn ni ddim ond yn gwybod am lai na'u hanner," meddai Huw.
"Mae'n rhaid mynd yn ddyfnach ac yn ddyfnach i ddarganfod y rhai newydd. Mae wastad rhywbeth newydd amdanyn nhw."
Mae Antarctica'r un maint ag Ewrop ac mae'r amrywiaeth anferth o greaduriaid sydd yn byw yno yn rhai sydd wedi bod yn byw yn llwyddiannus yno ers oes y deinosoriaid.
"Mae'r ardal yma yn rhy oer i ysglyfaethwyr modern, fel crancod a siarcod ac yn y blaen," esbonia Huw. Ond nid ysglyfaethwyr y môr sydd yn peri'r peryg mwyaf i'r creaduriaid mae Huw yn eu hastudio, ond y ffordd rydyn ni'n byw fel pobl.
"Mae newid hinsawdd yn fygythiad enfawr oherwydd rydyn ni'n gweld bygythiad mawr i bethau sydd wedi arfer bod yn oer iawn wrth i ddŵr gynhesu."
'Chwarae gyda dy ben di'
Nid ar chwarae bach mae archwilwyr fel Huw yn mynd lawr i Antarctica i dreulio cyfnodau yn astudio. Ar gyfer taith ym mis Chwefror mi fyddai'r biolegydd wedi pacio ei fag ym mis Medi gan fod gymaint o waith paratoi i wneud. Yna unwaith mae rhywun yno, mae'n fyd hollol wahanol.
"Ers talwm mi fyddai pobl yn mynd lawr yno am bump i chwe blynedd. Byddai hynny yn chwarae gyda dy ben di - roedd pobl yn dod yn ôl a byddai pethau wedi newid yn y byd. Ti'n byw mewn lle anial lle dim ond ti sydd yno gyda dy waith a dy stwff.
"Dwyt ti ddim angen cerdyn credyd, dwyt ti ddim angen poeni am ddiogelwch os wyt ti'n gadael eiddo yn rhywle. Mae'n fybl od o ddiogelwch llwyr pan rwyt ti lawr yno.
"Munud rwyt ti yn y bybl yno mae'n fyd hollol wahanol ac yn aml mae'n anodd i bobl ddychwelyd i'r byd go iawn."
Ac yntau wedi bod yn gwneud y daith yno yn rheolaidd am 22 mlynedd, fel arfer am gyfnodau o chwe mis, mae Huw wedi gweld newidiadau pryderus yn sgil newid hinsawdd mewn cyfnod reit fyr.
"Mae'n anodd gweld y newidiadau pan ti yno," meddai Huw. "Mae 'na fwy o ddiwrnodau gwlyb, gyda glaw yn hytrach nag eira.
"Pan rydyn ni'n mynd i'r orsaf rydyn ni yn gweld fod y rhew yn cilio. Pan ti'n cymharu â lluniau o 10 mlynedd yn ôl yn unig, ti'n gallu gweld y gwahaniaeth. Rwyt ti yn gallu gweld ar y peninsula bod dros 80% o'r glaciers yn toddi.
"Mae'n eithaf brawychus. Mae tymheredd yn codi ac yn achosi i'r rhewlifoedd gracio. Ers i fi ddechrau fy swydd mae dau ddarn wedi diflannu oddi ar ddiwedd y peninsula, rhai fyddai wedi bod yno am filoedd o flynyddoedd.
"I roi pethau mewn persbectif, mae Antarctica yn un faint ag Ewrop, ac mae'r rhain fel maint dwy wlad fach. Pan ti'n rhoi'r rhai sydd wedi diflannu i gyd at ei gilydd - mi fydda fe maint De Affrica, 1.5 miliwn cilomedr sgwâr."
'Mae'n rhaid atal y cynnydd yn lefel y môr'
Mae Huw yn cydnabod nad yw'n dasg hawdd i ddarbwyllo pobl pa mor enfawr yw problem newid hinsawdd. Ond ag yntau wedi gweithio fel cynghorydd gwyddonol gyda BBC Earth ar Frozen Planet ll a Blue Planet ll, mae'n sicr fod ffynonellau fel addysg ac adloniant yn allweddol er mwyn sicrhau fod y neges yn cyrraedd.
"Roedd gweld rhewlifoedd yn toddi yn Frozen Planet ll yn ffordd dda o ddangos oherwydd mi gafodd o ei roi fel trosiad yn dda - bod darnau yn torri i ffwrdd, sy'n golygu ein bod ni yn 'torri'r' byd.
"Mae rhaglenni fel hyn yn dda oherwydd mae'n gwneud y byd yma ar gael i bawb. Dydi pobl ddim yn casáu gwyddoniaeth… dwi'n meddwl bod 'na deimlad bod pobl yn teimlo bod gwyddoniaeth i geeks. Ond dydy hyn ddim yn wir.
"Mae'n ffordd hawdd o gael y cyhoedd i fod â diddordeb mewn natur ac mae cael rhywun fel David Attenborough yn gwneud hyn yn wych oherwydd mae'n cael ymateb emosiynol gwylwyr."
Mae Huw yn un o 200 o bobl o 17 gwlad sydd yn rhan o brosiect Marine Ecosystem Assessment of the Southern Ocean sy'n edrych ar effaith newid hinsawdd ar anifeiliaid ac ecosystem y rhan yna o'r byd. Mae'n cyfaddef nad yw darbwyllo gwleidyddion a deddfwriaethwyr yn dasg hawdd chwaith.
Yng nghynhadledd COP27 2022 rhoddwyd yr adroddiad o flaen y bobl sydd mewn pŵer ac wrth wneud hynny roedd rhaid bod yn ofalus o ran sut mae'r wybodaeth yn cael ei roi, fel mae Huw yn ei ddweud:
"Mae'n bwysig wrth wneud hyn i beidio gorlwytho nhw gyda gwybodaeth - mae o ynglŷn â bod yn y lle iawn gyda'r gynulleidfa iawn a rhannu'r negeseuon pwysig.
"Mae'n bwysig rhoi syniad iddyn nhw o be allen nhw wneud am y peth. Er nad wyt ti yn gallu cynnig datrysiad llawn, rwyt ti yn gallu rhoi syniad.
"O ran Antarctica, y broblem sydd yn achosi'r mwyaf o niwed yno yw allyriadau carbon deuocsid. Os wyt ti eisiau i'r byd fod yn saff mae'n rhaid atal y cynnydd yn lefel y môr yn yr Antarctica."
'Estyniad o'r plentyn ar y traeth'
Taniodd diddordeb Huw ym maes bioleg morol dim ond dafliad carreg o'i dŷ ar draeth Llanon ble byddai'n crwydro i ddarganfod crancod, pysgod a gwymon yn y pyllau yn nyddiau ei blentyndod.
"Rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn pethau fyddai'n gwneud pobl eraill yn sâl," meddai. "Fel cranc, neu rywbeth slimy, sydd heb lygaid neu efo lot o lygaid, neu heb goesau neu gyda lot o goesau!
"Erbyn ro'n i'n tua chwech oed roeddwn yn gallu dweud lle mae modd darganfod mathau penodol o anifeiliaid ar y traeth, fel crancod.
"Mae'n od oherwydd dyma yw fy swydd, a fi dal i wneud yr union yr un peth ond mewn amgylchedd llawer mwy extreme, gydag offer mwy, a budget mwy. Dyna, am wn i, yw'r gwahaniaeth mwyaf.
"Mae'r cyffro o weld pethau doeddet ti byth yn gwybod oedd yn bodoli, neu does neb arall wedi gweld yn estyniad o'r plentyn 'na ar y traeth, yn darganfod neidr neu granc newydd ti heb weld o'r blaen."
'Mae hyn wedyn ynglŷn â phobl, bywydau pobl'
"Mae'n fyd gwahanol. Weithiau mae'n rhaid i fi binsio fy hun i sylweddoli bod y lle yn real," meddai Huw gyda darlun o Antarctica yn ei ben.
Ond er fod swrealaeth yr hyn mae'n ei brofi ym mhen pella'r byd yn Antartica yn anodd ei gredu, mae realaeth y peth yn llawer agosach at adref na fyddai'r biolegydd erioed wedi dychmygu.
"Dwi yn poeni am y peth. Bob tro mae ein timau yn edrych ar rywbeth rydyn ni yn darganfod mwy o dystiolaeth o'r niwed mae newid hinsawdd yn cael.
"Pan ti'n gweld y newidiadau eithafol yn Antarctica mae'n ffenest mewn i be sydd yn mynd i ddigwydd yn y dyfodol. Un diwrnod mae darn enfawr o rew yno a'r diwrnod nesaf mae wedi diflannu ac mae'n mynd i achosi i lefel y môr godi.
"Os rwyt ti yn edrych ar y newid yn lefel y môr ac yn cyflymu hwnna, faint o amser sydd tan mae tŷ fy mam ar ymyl y dibyn? A beth am ei chymdogion hi sydd yn agosach at y môr?
"Mae hyn wedyn ynglŷn â phobl, bywydau pobl."
Hefyd o ddiddordeb: