Cyhoeddi enwau'r pedwar ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn

Rachel, Lucy, Hammad, LeanneFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith i'r dde: Rachel Bedwin, Lucy Cowley, Hammad Hassan Rind a Leanne Parry

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi enwau'r pedwar person sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni.

Y rhai sydd wedi dod i'r brig ydy Rachel Bedwin sy'n byw yn ardal Bangor, Lucy Cowley sy'n byw yn Llangollen, Hammad Hassan Rind sy'n byw yng Nghaerdydd, a Leanne Parry sy'n byw ym Mhrestatyn.

Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ar ddydd Mercher y Brifwyl.

Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Steve Morris, Francesca Sciarrillo ac Ian Gwyn Hughes.

Fe fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Mercher, 6 Awst, a bydd yn derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn a gwobr ariannol o £300.

Bydd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un.

Pwy yw'r pedwar ar y rhestr fer?

Rachel BedwinFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Daw Rachel Bedwin o Lundain yn wreiddiol, a doedd ganddi ddim cysylltiad â Chymru.

Mae hi bellach yn byw yn ardal Bangor wedi iddi symud i Gymru i weithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae hi nawr yn gweithio RSPB Cymru, ac yn dweud y byddai ei bywyd wedi bod yn wahanol iawn petai heb ddysgu Cymraeg.

Mae'n aelod o gôr Cymraeg lleol ac yn mwynhau helpu aelodau eraill gyda'u Cymraeg gan ei bod yn credu fod dysgu'r iaith yn gallu newid bywydau pobl.

Lucy CowleyFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Daw Lucy Cowley o ardal Is-y-coed yn Wrecsam - cartref yr Eisteddfod eleni.

Er ei bod hi wedi cael rhywfaint o Gymraeg yn yr ysgol, doedd hi ddim yn hyderus.

Ond wrth weithio fel athrawes yn Ysgol Holt sylweddolodd ei bod wrth ei bodd yn rhannu'r Gymraeg gyda'r plant, ac aeth ati i ati ddilyn cyrsiau a dechrau defnyddio adnoddau Cymraeg yn y dosbarth.

Mae hi'n byw yn Llangollen ac wedi sefydlu grŵp trafod Cymraeg yn y dref.

Mae hi hefyd yn cynllunio gemwaith, a daeth â stondin i Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.

Hammad Hassan RindFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Mae Hammad Hassan Rind a'i wraig Charlotte yn dysgu Cymraeg ers ychydig dros flwyddyn a hanner.

Mae hefyd yn dysgu Cymraeg i fewnfudwyr a ffoaduriaid gyda Made in Roath, gan ddefnyddio'r ieithoedd eraill mae'n eu siarad i gyfathrebu wrth ddysgu.

Mae'n aelod o grŵp o wirfoddolwyr sy'n cydweithio i ddod â mwy o weithgareddau Cymraeg i Grangetown.

Dros y misoedd diwethaf mae Hammad wedi bod yn ysgrifennu barddoniaeth, erthyglau a straeon yn y Gymraeg, ynghyd â chyfieithu cerddi o'r Arabeg i'r Gymraeg.

Eleni, bydd yn cychwyn cwrs PhD ar lenyddiaeth Gymraeg.

Leanne ParryFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Fe wnaeth Leanne Parry ddychwelyd i ogledd Cymru i ailgydio yn y Gymraeg a magu ei mab yn ddwyieithog, ar ôl astudio'r iaith hyd at safon TGAU ail iaith yn yr ysgol.

Mae'n gweithio fel ffisiotherapydd niwrolegol yn Ysbytai Glan Clwyd a Bae Colwyn, ac yn gweithio gyda phobl â chyflyrau fel MS a Parkinson's.

Manteisiodd ar arlwy'r bwrdd iechyd lleol i ddysgu Cymraeg, ac yn 2024 enillodd deitl Dysgwr y Flwyddyn Betsi Cadwaladr ar lefel canolradd.

Yn wreiddiol o'r Rhyl, mae Leanne bellach yn byw ym Mhrestatyn, lle mae'n cyfarfod â dysgwyr eraill yn rheolaidd i ymarfer eu Cymraeg.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.