Antwn Owen-Hicks yn ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Antwn Owen-Hicks yw enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.
Fe gafodd ei anrhydeddu ar lwyfan y Pafiliwn ym Mhontypridd ddydd Mercher ar ddiwedd cystadleuaeth a ddenodd y nifer uchaf o ymgeiswyr erioed, sef 45.
Dywedodd ei bod "bach mewn sioc" o fod wedi dod i'r brig a bod hi'n "anrhydedd enfawr i fod yma".
Y tri arall yn y rownd derfynol oedd Joshua Morgan, Alanna Pennar-Macfarlane ac Elinor Staniforth.
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2024
Bethan Glyn, Cefin Campbell a Mark Morgan oedd beirniaid y gystadleuaeth eleni.
Wrth annerch y Pafiliwn ar eu rhan, dywedodd Cefin Campbell bod creu rhestr fer o bedwar yn unig wedi bod yn dasg anodd, a bod dewis enillydd o'u plith yn fwy heriol fyth.
"Maen nhw i gyd wedi llwyddo yn barod," dywedodd.
Awgrymodd hefyd y dylid eu hadnabod fel siaradwyr Cymraeg yn hytrach na dysgwyr.
Dywedodd yr enillydd ei hun mewn cyfweliad yn dilyn y seremoni ei fod yn ffafrio'r disgrifiad "siaradwr Cymraeg newydd".
Dywedodd trefnwyr y gystadleuaeth bod Mr Owen-Hicks wedi cael ei fagu ar aelwyd ddi-Gymraeg ac mai ei hen fam-gu oedd y siaradwr Cymraeg olaf yn ei deulu.
Ond Cymraeg yw iaith y cartref erbyn hyn, yn Sirhywi, a’i ferch yw'r siaradwr Cymraeg iaith gyntaf yn y teulu ers pedair cenhedlaeth.
Ac mae'n defnyddio Cymraeg "yn ddyddiol yn ei waith gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, ac yn cefnogi a hyrwyddo artistiaid Cymraeg ers blynyddoedd".
Fe ddechreuodd ymddiddori yn ei wreiddiau a’r Gymraeg pan yn fyfyriwr yn Llundain, gan fynd ati i ddechrau dysgu pan ddychwelodd i Gymru.
Mae wedi dilyn sawl cwrs dros y blynyddoedd gan gynnwys cwrs Lefel A Cymraeg.
Mae Antwn Owen-Hicks yn un o sylfaenwyr y band gwerin Cymraeg, Carreg Lafar, sydd wedi recordio pedwar albwm a pherfformio ar draws y DU, Ewrop a gogledd America.
Fe ddechreuodd gyfres o gyngherddau acwstig anffurfiol, 'Y Parlwr' gyda’i wraig Linda, gan roi llwyfan i artistiaid Cymraeg yn bennaf.
Yn ogystal â thlws Dysgwr y Flwyddyn, sy'n rhodd gan Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf, mae hefyd yn cael £300.
Roedd y wobr ariannol yn rhodd gan Lowri Jones a Rhuanedd Richards "i ddiolch i’w rhieni am fynd ati i ddysgu Cymraeg fel oedolion, ac i ddiolch i bawb arall sydd wedi dysgu’r iaith, neu sicrhau bod eu plant yn cael addysg Gymraeg er nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg eu hunain".
Derbyniodd y tri arall yn y rownd derfynol dlws - rhodd gan Menna Davies, er cof am thad, Meirion Lewis, cyn-bennaeth Ysgol Gymraeg Ynys-wen, ei mam, Clarice Lewis a’i chwaer, Mair - a £100 yr un, oedd hefyd yn rhoddedig gan Lowri Jones a Rhuanedd Richards.