Gŵyl Fwyd Caernarfon: Blwyddyn o saib yn sgil 'baich anghynaladwy'

Y dorf yn heidio yn eu miloedd o flaen wal yr AngleseyFfynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Pwyllgor Gŵyl Fwyd Caernarfon fod y seibiant yn benderfyniad "anodd ond angenrheidiol"

  • Cyhoeddwyd

Mi fydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cael blwyddyn o seibiant yn 2026, oherwydd "baich anghynaladwy" ar y trefnwyr.

Mae'r ŵyl wedi dweud ei bod hi'n well ganddyn nhw gymryd seibiant er mwyn ail-gynllunio ac osgoi "llosgi allan, a allai arwain at ddiwedd parhaol yr ŵyl".

Mewn cyfarfod ar 9 Mehefin, pleidleisiodd y pwyllgor i gymryd y seibiant yn 2026, a dynodi'r flwyddyn honno fel "blwyddyn i ddatblygu".

Dywedodd Pwyllgor Gŵyl Fwyd Caernarfon fod y seibiant yn benderfyniad "anodd ond angenrheidiol" ac diolchon nhw i bawb sydd wedi'u cefnogi.

Ni fydd yr ŵyl yn dod i ben yn barhaol, ac mae'r trefnwyr yn ystyried y flwyddyn nesaf fel cyfle i weithio'n agosach gyda busnesau a'r gymuned leol i "sicrhau bod ein cymuned yn gallu gwneud y mwyaf o fuddion economaidd yr ŵyl yn 2027 a thu hwnt".

Gormod o ddewisFfynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Mewn cyfarfod ar 9 Mehefin, pleidleisiodd y pwyllgor i gymryd y seibiant yn 2026, a dynodi'r flwyddyn honno fel "blwyddyn i ddatblygu"

Yn ôl y datganiad gan y pwyllgor, mae'r ŵyl wedi "tyfu'r tu hwnt i'n disgwyliadau o ran maint a phoblogrwydd", sy'n "destun balchder ac yn hwb aruthrol" i'r dref.

"Ond mae hefyd wedi dod â chyfrifoldebau a phwysau sylweddol uwch ar ein tîm o wirfoddolwyr ymroddedig.

"Mae'n anodd cyfleu cost ddynol trefnu gŵyl ar y raddfa hon.

"Rydan ni fel gwirfoddolwyr wedi rhoi oriau diddiwedd o'n hamser, ein hegni, a'n hangerdd i wneud pob gŵyl yn llwyddiant.

"Fodd bynnag, mae rhai gwirfoddolwyr allweddol angen camu o'r neilltu yn y flwyddyn i ddod, ac rydym yn cydnabod bod y model presennol yn gosod baich anghynaladwy ar y rhai sy'n aros."

Y dyrfa ger Wal yr AngleseyFfynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y datganiad gan y pwyllgor, mae'r ŵyl wedi "tyfu'r tu hwnt i'n disgwyliadau o ran maint a phoblogrwydd"

Mae'r pwyllgor hefyd yn cynnwys rhestr o bethau y maen nhw'n gobeithio canolbwyntio ar eu datblygu yn ystod y seibiant yn 2026:

  • Addasu ein strwythur trefniadol i'w wneud yn fwy cynaliadwy.

  • Datblygu syniadau a dulliau newydd o reoli'r ŵyl.

  • Adeiladu partneriaethau cryfach gyda busnesau lleol a rhanddeiliaid.

  • Creu dosbarthiad llwyth gwaith mwy cytbwys ymhlith gwirfoddolwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae'r Ŵyl Fwyd wedi tyfu i fod yn un o ddigwyddiadau mwyaf yr ardal sydd nid yn unig yn tynnu cymuned Caernarfon at ei gilydd ond hefyd yn denu ymwelwyr o bell i fwynhau arlwy amrywiol o gynnyrch lleol a diwylliant Gymreig.

"Mae hi'n bwysig cofio mai gwaith caled gwirfoddolwyr sydd wedi gwneud hyn yn bosib ac rydym yn gwerthfawrogi eu hymrwymiad a'u gwaith wrth ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros y ddeng mlynedd ddiwethaf.

"Er yn siomedig, rydym yn llwyr gydnabod y pwysau sydd ar wirfoddolwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon a'u dymuniad i gymryd cyfnod o seibiant er mwyn adlewyrchu a chryfhau eu trefniadau ar gyfer y dyfodol.

"Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio efo'r trefnwyr ac i'r Ŵyl Fwyd ddychwelyd yn 2027."

Pynciau cysylltiedig