Ceredigion: Bygwth erlyn llywodraethwyr ysgol am honiadau 'di-sail'
- Cyhoeddwyd
Gallai cadeiryddion llywodraethwyr pedair ysgol gynradd yng Ngheredigion gael eu herlyn am ddifenwi [defamation] ar ôl iddyn nhw honni mewn llythyr at gabinet y cyngor fod uwch swyddogion wedi "camarwain" cynghorwyr.
Mae'r llythyr gan gyfreithwyr sy'n cynrychioli Cyngor Sir Ceredigion at y pedwar cadeirydd yn eu cyhuddo o bardduo enw da uwch swyddogion.
Ym mis Medi, fe wnaeth cabinet Ceredigion gefnogi argymhellion i ymgynghori'n ffurfiol ar gau'r pedair ysgol ym mhentrefi'r Borth, Ponterwyd, Llanfihangel y Creuddyn a Llangwyryfon.
Ym mis Rhagfyr, cafodd y penderfyniad ei wrthdroi ac mae ymgynghoriad anffurfiol bellach yn cael ei gynnal.
Roedd hynny'n dilyn her gyfreithiol gan rieni'r ysgolion i benderfyniad gwreiddiol y cabinet a'r broses gafodd ei dilyn.
Mae cadeiryddion y cyrff llywodraethu a Chyngor Ceredigion wedi cael cais am ymateb.
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2024
Mewn llythyr ar 1 Rhagfyr, honnodd cadeiryddion y cyrff llywodraethu fod penderfyniad y cabinet ym mis Medi yn "ganlyniad uniongyrchol o gael eu camarwain gan Barry Rees ac Eifion Evans".
Eifion Evans yw prif weithredwr y cyngor a Barry Rees yw'r cyfarwyddwr corfforaethol.
Dywed y llythyr bod Mr Rees a Mr Evans wedi rhoi sicrwydd i gynghorwyr mewn cyfarfod ym mis Medi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi "sêl bendith" i gynnal ymgynghoriad statudol a'u bod yn dilyn y camau cyfreithiol cywir i gau'r ysgolion.
Mae Cyngor Ceredigion wedi rhyddhau neges e-bost gyda swyddog o Lywodraeth Cymru lle gofynnodd un o swyddogion y cyngor a oedd y broses yr oedden nhw'n ei dilyn yn cydymffurfio â gofynion y Côd Trefniadaeth Ysgolion statudol.
Yn eu hymateb, ysgrifennodd swyddog Llywodraeth Cymru: "Gallaf weld eich bod yn cydymffurfio ag Adran 1.8 ac yn gwneud cynnig i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau cyn mynd i ymgynghoriad."
Yn y cyfarfod ym mis Medi, dywedodd yr uwch swyddogion wrth gynghorwyr fod hyn yn sicrwydd gan Lywodraeth Cymru bod y cyngor yn dilyn y drefn gywir.
Fodd bynnag, yn ddiweddarach yn yr e-bost mae swyddog Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud "mai pwyntiau personol yw'r rhain ac ni allaf wneud unrhyw sylwadau cyfreithiol, dim ond golwg sydyn rydw i wedi gallu ei gael ond gobeithio bod hyn o gymorth".
Yn sgil y sylw hwn, mae cadeiryddion y llywodraethwyr yn dweud yn eu llythyr at gynghorwyr ym mis Rhagfyr fod yr ohebiaeth rhwng y cyngor a swyddog Llywodraeth Cymru yn "gyfyngedig ac anffurfiol" ac na ddylai uwch swyddogion y cyngor fod wedi ei gymryd fel sicrwydd.
Mae'r llywodraethwyr hefyd yn cyfeirio at lythyr gan Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Lynne Neagle, lle mae'n dweud "nad yw Llywodraeth Cymru yn ardystio nac yn cymeradwyo unrhyw gynnig posib i ad-drefnu ysgolion".
Pryder am enw da swyddogion
Mae llywodraethwyr yr ysgolion yn mynd ymlaen i ddweud: "Mae'r camliwiadau hyn a'u canlyniadau yn tanseilio'n aruthrol ein hymddiriedaeth a'r ymddiriedaeth o fewn ein cymunedau yn arweinyddiaeth y cyngor."
Maen nhw hefyd yn ychwanegu bod penderfyniad y cabinet ym mis Medi yn "ganlyniad uniongyrchol i gael eu camarwain gan swyddogion", gan alw am ymchwiliad annibynnol a "phresenoldeb clir ar gyfer ailadeiladu ymddiriedaeth, a chael gwared ar uwch swyddogion sy'n dweud celwydd neu gamarwain".
Yn y llythyr gafodd ei anfon at gadeiryddion y cyrff llywodraethu, dywedodd Mark Powell KC, ar ran Cyngor Ceredigion, y gallai'r llythyr achosi niwed difrifol i enw da'r swyddogion dan sylw a hefyd "yn eich gwneud yn bersonol atebol am hawliad o iawndal sylweddol".
Mae Mr Powell yn nodi "na fu unrhyw gamarwain" ac yn dweud bod yr honiadau gafodd eu gwneud gan gadeiryddion y llywodraethwyr yn "ddi-sail" ac wedi'u gwneud "heb unrhyw dystiolaeth".
Ychwanegodd pe bai cadeiryddion llywodraethwyr yn cael eu herlyn na fyddai unrhyw yswiriant yn deillio o'u swyddi fel llywodraethwyr yn ddilys ar gyfer costau cyfreithiol a bod marc cwestiwn dros ba mor addas oedden nhw fel llywodraethwyr.
Mae Mr Powell yn gorffen ei lythyr trwy ddweud: "Rhaid peidio ag ailadrodd yr honiadau hyn eto... er mwyn osgoi'r angen i gymryd [camau cyfreithiol] yn eich erbyn."
Mae'r llythyr gan Mr Powell wedi'i anfon at gadeiryddion y llywodraethwyr, ac mae copi wedi ei anfon at arweinwyr grwpiau gwleidyddol y cyngor ac aelodau cabinet.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2024
- Cyhoeddwyd1 Mai 2024