Pedair ysgol wledig i aros ar agor ond pobl wedi 'colli ffydd' yn y cyngor sir
- Cyhoeddwyd
Mae pedair ysgol gynradd wledig yng Ngheredigion oedd mewn perygl o gau yn mynd i aros ar agor, meddai'r cyngor sir.
Yn flaenorol, dywedodd y cyngor eu bod yn bwriadu cau'r ysgolion oherwydd niferoedd isel y disgyblion a diffyg arian.
Protestiodd mwy na 150 o bobl yn erbyn y bwriad i gau ym mis Medi, a fyddai wedi gweld yr ysgolion yn cau ym mis Awst 2025.
Mewn cyfarfod ddydd Mawrth, dywedodd y cyngor y bydd ymgynghoriad anffurfiol i gasglu barn y cymunedau lleol yn cael ei gynnal yn lle.
'Colli ffydd'
Yn ôl nifer o gynghorwyr sir, mae pobl wedi colli ffydd ym mhrosesau'r cyngor ar y mater.
Daw wrth i'r cyngor gefnu ar gynllun i gau ysgolion Craig yr Wylfa yn y Borth, Llanfihangel y Creuddyn, Ysgol Llangwyryfon a Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd.
Nid yw’r ymgynghoriad ar gau'r ysgolion bellach yn un statudol, ond mae'n cael ei drin fel un anffurfiol - yn sgil her gyfreithiol - ar ôl iddi ddod i’r amlwg nad yw’r amserlen yn gyraeddadwy.
Yn y cyfamser, mae pedwar cadeirydd llywodraethwyr yr ysgolion wedi galw am “ymchwiliad allanol, annibynnol”.
Yn ôl Cyngor Ceredigion, byddan nhw'n cynnal gweithdy gyda’r cynghorwyr, fydd ddim yn agored i’r cyhoedd, i drafod beth aeth o’i le yn y broses.
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd3 Medi
- Cyhoeddwyd18 Hydref
O’r chwe phwynt cyfreithiol gafodd eu codi ynglŷn â phroses statudol yr awdurdod lleol i gau’r ysgolion, doedd Cyngor Ceredigion ddim am ddadlau yn erbyn yr un ohonyn nhw.
Yn ôl cyfreithiwr sy'n cynrychioli’r pedair ysgol, mae'n anghyffredin iddyn nhw gyflwyno her gyfreithiol mor gynnar yn y broses.
Bu trafodaeth yn y siambr hefyd ynglŷn â llythyr sydd wedi cael ei ysgrifennu gan bedwar cadeirydd llywodraethwyr yr ysgolion.
Mae’r llythyr yn galw am “ymchwiliad allanol, annibynnol” gan honni bod rhai o swyddogion y sir wedi “erydu ffydd y cyhoedd” mewn prosesau a phenderfyniadau cynghorwyr sir.
Yn y cyfarfod, fe ddywedodd y prif weithredwr, Eifion Evans, ei fod “eto i weld unrhyw dystiolaeth o dwyll”.
Niferoedd isel o ddisgyblion a dyletswydd i wneud arbedion oedd rheswm Cyngor Ceredigion dros ystyried cau'r ysgolion, ond mae ymgyrchwyr yn teimlo bod yr ysgolion yn ganolog i'w cymunedau.
Gobaith Huw Morris, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Syr John Rhys, oedd bod ymrwymiad yn dod gan y cyngor sir i beidio ymgynghori eto ar gau'r ysgolion tan o leiaf Mai 2027. Daeth dim sicrwydd o hynny.
Dywedodd: “Mae rhywun yn colli ffydd yn y broses, rydyn ni’n rhoi ffydd yn ein cyngor sir i wneud eu gwaith ac mae rhywbeth mawr wedi mynd o’i le bod nhw wedi dweud bod rhywbeth yn gywir pan doedd o ddim.
“Mae angen ymchwiliad i hyn [yr ymgynghoriad]. Y rheswm pennaf dros gau yr ysgolion oedd arian. Wel faint o arian maen nhw wedi gwastraffu ar y broses hyd yma? Liciwn i wybod.”
Ategu hynny mae Jasper Kenter o Ysgol Craig yr Wylfa, Y Borth, gan ddweud ei fod yn hapus bod yr ysgol yn aros ar agor ond “bod angen ymchwiliad annibynnol”.
Mae'r Cynghorydd, Wyn Evans, sy'n cynrychioli ward Lledrod ar y Cyngor Sir hefyd yn teimlo bod angen ymchwiliad.
"Fel cynghorydd sir, mae’n bwysig bod pobl dwi’n cynrychioli yn cael ffydd yn beth dwi’n neud yn y siambr a beth mae pobl eraill yn neud yn y siambr ar eu rhan nhw a 'na pam dwi am holi am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol er mwyn i ni edrych mewn i beth sydd wedi digwydd a dysgu gwersi, er mwyn hefyd i Llywodraeth Cymru ddysgu gwersi ambiti y cod ac mae’n bwysicach bod ni’n dysgu gwersi ambiti y Cyngor Sir a beth gallwn ni neud yn wahanol yn y dyfodol.
"Mae rhaid i ni adeiladu hyder nôl nawr fel awdurdod gyda pobl ni yn cynrychioli mae hanfodol o bwysig."
Dyma yw’r tro cyntaf i Gyngor Ceredigion orfod cydymffurfio gyda’r fersiwn ddiweddaraf o’r Cod Trefniadaeth Ysgolion.
Beth yw’r Cod Trefniadaeth Ysgolion?
Mae Cod Trefniadaeth Ysgolion Cymru yn gosod gofynion a chanllawiau ynglŷn â sut ddylai cyrff perthnasol weithredu mewn perthynas â threfniadaeth ysgolion yng Nghymru.
Mae’n gymwys i Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion, ac hyrwyddwyr ysgolion gwirfoddol.
Mae'r cod yn amlinellu polisi, egwyddorion cyffredinol, a'r ffactorau y dylid eu hystyried wrth ad-drefnu darpariaeth ysgolion - fel yr effaith ar yr iaith Gymraeg.
Mae'n rhaid i gyrff, fel awdurdodau lleol, ymgynghori ar y cynnig gan egluro’r rhesymau dros ei gyflwyno.
Mewn ymateb mae Cyngor Ceredigion wedi "cydnabod bod unrhyw ymgynghoriad sydd yn ymwneud â phroses bydd yn arwain at golli gwasanaethau rheng flaen o unrhyw gymuned, yn mynd i arwain at anniddigrwydd rhwng y cymunedau hynny a’r Cyngor".
"Yn yr achos yma, fel mae nifer o Awdurdodau eraill wedi profi, mae’r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn anodd iawn, os nad yn amhosib i’w weithredu.
"Byddwn yn cyfathrebu yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru wrth iddynt ymgynghori ar y Cod newydd.
"Yn anffodus, mae maint y toriadau ariannol mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymdopi gyda dros ddegawd a mwy wedi gorfodi llu o benderfyniadau anodd ac amhoblogaidd.
"Teimlwn yn gryf nad oes gan Lywodraeth Cymru dealltwriaeth ddigonol o’r heriau sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau yng nghyd-destun gwledig.
"Pe byddai’r Llywodraeth o ddifrif yn ei rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, yna byddent yn cydnabod bod cost uwch o gynnal yr ysgolion hynny ac felly yn eu hariannu’n deg."
Ychwanegodd: "Mae’r honiad o 'erydu ffydd y cyhoedd' yn y Cyngor ar sail proses sydd yn ymwneud â chau ysgolion, ond mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymfalchïo’n fawr yn y ffaith nad oes gynom ni'r un ysgol mewn unrhyw gategori dilynol yn llygaid Estyn."
Fe gyfeiriodd y llefarydd hefyd at adroddiad diweddaraf gan Estyn a oedd, meddai, yn "cydnabod bod 'Cydweithrediad agos rhwng swyddogion, aelodau etholedig, ysgolion a phartneriaid' a hefyd yn dweud 'Mae'r Awdurdod Lleol yn adolygu ei strwythurau ac yn cynllunio ar gyfer yr hirdymor er mwyn sicrhau gwerth am arian yn barhaus'".
"Cytunwyd yng nghyfarfod y Cabinet heddiw [dydd Mawrth] i gynnal Gweithdy mewnol ar gyfer pob Cynghorydd i drafod y broses yn ei gyfanrwydd a’r heriau a dderbyniwyd."
Nid oedd Llywodraeth Cymru am wneud sylw ar ddatganiad y cyngor.