Tri chefnogwr dan glo wedi anhrefn gêm Y Fflint a Chaernarfon

Simon Davies, Jack Davies a Jamie GriffithsFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Tad a'r mab o'r Fflint, Simon Davies a Jack Davies, a Jamie Griffiths o Gaernarfon gafodd y dedfrydau mwyaf drififol am fod yn rhan o'r anhrefn

  • Cyhoeddwyd

Mae tad a mab o'r Fflint a dyn o Gaernarfon wedi cael dedfrydau o garchar am fod yn rhan o anhrefn yn ystod gêm Cymru Premier rhwng timau'r ddwy dref.

Bu'n rhaid i un o gefnogwyr Caernarfon gael llawdriniaeth frys ar gyfer anaf difrifol yn sgil ymladd ymhlith rhai aelodau o'r dorf yn stadiwm tîm Y Fflint ar 8 Ebrill 2023.

Roedd y gêm yn cael ei darlledu'n fyw ar raglen Sgorio S4C, ond bu'n rhaid ei stopio wedi 20 munud gyda'r tîm cartref 2-0 ar y blaen ac fe gafodd yr heddlu eu galw.

Mae'r tri sydd wedi eu carcharu ymhlith 12 o ddiffynyddion, rhwng 15 a 42 oed, sydd wedi ymddangos yn Llysoedd Y Goron Caernarfon a'r Wyddgrug yr wythnos hon mewn cysylltiad â'r anhrefn.

Fe fydd yn rhaid i dri o'r diffynyddion dreulio cyfnodau dan glo mewn cysylltiad â chyhuddiadau o anhrefn dreisgar:

  • Simon Davies, 42, o'r Fflint - 20 mis o garchar

  • Jack Davies, 21, o'r Fflint – 11 mis mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc;

  • Jamie Griffiths, 18, o Gaernarfon – naw mis mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc.

Fe gafodd Cai Ditchburn, 26, o Gaernarfon ddedfryd o naw mis o garchar wedi ei ohirio am 18 mis am ei ran yn y digwyddiad.

Fe gafodd diffynnydd arall o Gaernarfon, Luke Hughes, 35, orchymyn cymunedol 12 mis.

Fe fydd yr holl oedolion ymhlith y diffynyddion yn cael eu gwahardd rhag mynd i unrhyw gêm bêl-droed yn y DU am gyfnodau rhwng tri a chwe mis.

Cafodd saith diffynnydd arall, na ellir eu henwi am eu bod dan 18 oed, eu cyfeirio i Banel Troseddwyr Ifanc Sir Y Fflint am gyfnodau rhwng pedwar ac wyth mis.

Bydd yn rhaid iddyn hwythau dalu £226 yr un mewn costau.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Ambiwlans ar y cae wedi i'r gwasanaethau brys gael eu galw i'r stadiwm

"Roedd ymddygiad a thrais y dynion sydd wedi eu dedfrydu ddydd Gwener yn hollol annerbyniol," dywedodd arweinydd yr ymchwiliad heddlu i'r digwyddiad, y Dictectif Gwnstabl Donna Vernon.

"Does dim lle i'r math yma o anhrefn mewn gêm bêl-droed, nag yn unrhyw le arall o fewn ein cymunedau."

Ychwanegodd bod y dedfrydau'n "adlewyrchu natur difrifol a threisgar y digwyddiad".