Rafik Harrington o Gaerdydd yw Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd

- Cyhoeddwyd
Rafik Harrington o Gaerdydd yw Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025.
Hon oedd seremoni olaf "wythnos anhygoel" ym Margam ac mae teilyngodod a chlod uchel wedi bod ymhob seremoni.
Y dasg ar gyfer cipio'r fedal gyfansoddi oedd cyfansoddi naill ai cylch o ganeuon ar eiriau Cymraeg o ddewis y cystadleuydd, rhangan neu gytgan ar eiriau Cymraeg o ddewis y cystadleuydd, cyfansoddiad i un neu ddau offeryn neu gyfansoddiad i ensemble offerynnol.
Y beirniaid eleni oedd Eilir Owen Griffiths a Carwyn Jones.
Daeth Rafik yn ail yn y gystadleuaeth hon y llynedd.
Astudiodd Rafik gyfansoddi yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru gyda Michael McCartney a Joel Baldwin am 5 mlynedd, ac yn yr amser hynny mi chwaraeodd ffidil gyda Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yng Nghaerdydd a phiano yn Eisteddfod yr Urdd, fel unawdydd ac mewn ensemble.
Mae bellach yn fyfyriwr cyfansoddi yn ei flwyddyn gyntaf yn yr RNCM ym Manceinion.
Yn ei amser rhydd, mae'n mwynhau astudio ieithoedd, gan gynnwys Gwyddeleg, Almaeneg a Ffrangeg, darllen, athroniaeth a cherdded mynyddoedd.
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Mae Rafik yn ennill teitl y Prif Gyfansoddwr am gyfansoddi darn ar gyfer wythawd diddorol o offerynnau.
Daeth 11 ymgais i law, gyda'r beirniaid Eilir Owen Griffiths a Carwyn Jones yn nodi fod "pob un ohonynt yn dangos addewid a rhinweddau da ym mhob darn".
Meddai Rafik, oedd yn cystadlu o dan y ffugenw Mustav Gahler: "Ysbrydoliaeth y darn yma oedd syllu ar olygfa wedi'i llygru gan olau ar noson ym mis Rhagfyr.
"Mae ffrwydradau egni'r darn yn cynrychioli yr hyn mae'r llygaid yn ei weld dan olau isel, sef arwyddocâd "scotopia.
"Daw'r ysbrydoliaeth ar gyfer y darn yn rhannol o Harrison Birtwistle a Mahler, a gadarnheir gan fy ffugenw."
Meddai'r beirniaid: "Mae'r enillydd yn deall sut i strwythuro darn yn effeithiol, dangos sensitifrwydd wrth ddatblygu syniadau ac wedi cymryd gofal dros bob agwedd o'r ysgrifennu.
"Roedd y daith gerddorol yn glir a'r sylw neilltuol i'r manylder yn dangos cyfansoddwr aeddfed dros ben."
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Gerard Coutain o Rydaman (enillydd y llynedd), a Heledd Wynn Newton o Gaerdydd oedd yn drydydd.
Roedd y wobr ddydd Sadwrn yn rhoddedig gan gorau lleol yr ardal sef: Parti Llwchwr, Côr Meibion Clwb Rygbi Treforys, Côr Meibion Dyfnant, Côr Philharmonic Abertawe, Côr y Gweilch a Chôr Nedd.
Yn ogystal roedd yna £400 o gronfa Glynne Jones, Pendyrys i'r enillydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl