'Teimlo'n wirion ar ôl cael fy sgamio gan werthwyr tocynnau Taylor Swift'

Roedd Emily Birch wedi talu dros £350 am docynnau ar gyfer cyngerdd Taylor Swift ond dyddiau cyn y cyngerdd daeth yn amlwg nad oedd y tocynnau'n gymwys
- Cyhoeddwyd
Mae towtiaid tocynnau yn cyflogi timau o weithwyr i brynu clwstwr o docynnau ar gyfer cyngherddau mwyaf y DU fel rhai Oasis a Taylor Swift er mwyn eu hailwerthu am elw, yn ôl ymchwiliad gan y BBC.
Darganfuwyd bod rhai towtiaid - pobl sy'n gwerthu tocynnau ac yn eu hail werthu am bris uwch - yn gwneud "miliynau" drwy gyflogi pobl dramor, gydag un yn dweud wrth newyddiadurwr cudd fod ei dîm wedi prynu cannoedd o docynnau ar gyfer taith Taylor Swift y llynedd.
Fe wnaeth ein gohebydd, a oedd yn esgus bod yn dowt, lwyddo i gudd-recordio pennaeth cwmni prynu tocynnau ym Mhacistan yn dweud y gallai sefydlu tîm ac o bosib brynu cannoedd o docynnau.
Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth newydd i fynd i'r afael â chwmnïau tocynnau, ond yn ôl beirniaid dydi'r mesurau ddim yn mynd ddigon pell.
'Gwneud i mi deimlo'n wirion'
Un sydd wedi bod drwy'r siom o fethu allan ar ddigwyddiad yr oedd wedi edrych ymlaen at fynychu yw Emily Birch o'r Groeslon ger Caernarfon.
Wedi methu allan yn wreiddiol roedd Emily, 26, wedi troi at Facebook i geisio prynu tocynnau ar gyfer cyngerdd Taylor Swift yng Nghaerdydd y llynedd.
Wedi derbyn sawl neges gan bobl yn ceisio gwerthu eu tocynnau, aeth hi mor bell a chynnal sgwrs Facetime gyda'r ferch oedd yn eu gwerthu, cyn talu £350 am y tocynnau.

Fe wnaeth dros 1.2 miliwn o bobl fynychu cyngherddau Taylor Swift yn y DU yn 2024
Ond ddyddiau yn unig cyn y cyngerdd - wedi trefnu gwisg ac amser i ffwrdd o'r gwaith - daeth yn amlwg fod cwmni Ticketmaster wedi cymryd y tocynnau yn ôl, ac na fyddai'n gallu mynd wedi'r cyfan.
"Roedd hi [y ferch] i'w gweld yn hollol legit, roedd ganddi screenshot i ddangos sut oedd hi wedi cael nhw a faint oedd hi wedi talu.
"Aethon ni mor bell a mynd ar Facetime hefo'n gilydd ac felly nes i dalu bron i £360 am ddau docyn, jyst iddi droi rownd deuddydd cyn y cyngerdd yn dweud bod y tocynnau yn void a 'mod i wedi colli allan.
"Oedd o'n dorcalonnus, roeddwn yn teimlo reit numb a reit wirion 'mod i wedi cael fy nhwyllo fel'na."
'Mae hi mor anodd taclo nhw'
Neges Emily felly yw osgoi prynu tocynnau gan rai sydd ddim yn werthwyr swyddogol.
"Roedd gweld y clipiau fideo a ballu yn reit dorcalonnus... ro'n i'n rili cenfigennus o'r rheiny oedd yn gallu mynd.
"Ond dwi'n lwcus mod i wedi cael fy sgamio yn hytrach na rhywun yn prynu ar gyfer eu merch neu fab, er enghraifft.
"'Sa hynna'n stori hollol wahanol, ond mae angen i rywbeth gael ei wneud, os ydi o'r llywodraeth neu'r heddlu yn monitro'r pethau 'ma."
Er bod Emily wedi llwyddo i gael ei harian yn ôl erbyn hyn ar ôl bygwth camau cyfreithiol, nid pawb sydd mor ffodus.
'Byddin o dowtiaid'
Cafodd dros 900,000 o docynnau eu gwerthu ar gyfer taith hir-ddisgwyliedig Oasis, sy'n dechrau yng Nghaerdydd ddydd Gwener nesaf.
Ond methodd miloedd o gefnogwyr â chael tocynnau er gwaethaf treulio oriau lawer mewn ciwiau ar-lein.
Yn fuan wedi'r ffenestr gwerthu roedd rhai tocynnau yn cael eu rhestru ar wefannau ailwerthu fel StubHub a Viagogo am dros £6,000 - sef tua 40 gwaith gwerth y tocyn.
Mae ymchwiliad y BBC wedi canfod bod cefnogwyr dilys yn colli allan neu, mewn anobaith, yn talu cannoedd o bunnoedd i'w prynu gan fyddin o dowtiaid sy'n prynu'r tocynnau cyn gynted â'u bo'n mynd ar werth.

Cafodd dros 900,000 o docynnau eu gwerthu ar gyfer taith hir-ddisgwyliedig Oasis, ond wnaeth llawer fethu allan
Gwnaeth ymchwil y BBC ddarganfod bod 'byddinoedd' yn llwyddo i brynu tocynnau gan ddefnyddio meddalwedd awtomataidd anghyfreithlon a all fod gyfystyr â thwyll.
Esboniodd un pennaeth, sydd wedi'i leoli yn India, sut y mae towtiaid yn osgoi cyfreithiau'r DU.
"Os ydw i'n eistedd yn eich gwlad ac yn rhedeg fy ngweithrediadau yn eich gwlad, yna mae'n gwbl anghyfreithlon," meddai.
"Dydyn ni ddim yn cymryd rhan mewn pethau anghyfreithlon oherwydd mewn gwirionedd rydan ni y tu allan i'r DU."
Dangosodd dyn a weithiodd yn y diwydiant tocynnau am bron i 40 mlynedd sut y gwnaeth ymdreiddio i grŵp ar-lein cyfrinachol sy'n honni iddyn nhw sicrhau miloedd o docynnau gan ddefnyddio dulliau dirgel.
'Miloedd o docynnau ar werth'
Fel arfer, mae cefnogwyr wedi'u cyfyngu i lond llaw o docynnau wrth brynu o wefannau fel Ticketmaster.
Ond mae modd i aelodau'r grŵp osgoi'r meddalwedd sy'n creu ciw ar-lein.
Yn aml, mae towtiaid yn rhestru eu tocynnau ar wefannau ailwerthu ac mae un cyn-weithiwr Viagogo yn honni ei fod wedi gweld rhai proffiliau gyda miloedd o docynnau ar werth.
"Maen nhw [towtiaid] yn prynu mewn clwstwr y rhan fwyaf o'r amser, yn y gobaith o'u hailwerthu a gwneud elw," meddai wrth y BBC, ar yr amod y gall aros yn anhysbys.
"Dydw i ddim yn gwybod sut maen nhw'n eu cael nhw ond dw i'n gwybod ar ryw adeg y bydden nhw wedi prynu tocynnau mewn symiau mawr."
Dywedodd Viagogo eu bod yn gwrthod honiadau'r dyn, gan fynnu bod 73% o werthwyr ar eu gwefan wedi gwerthu llai na phum tocyn yr un – a bod gwerthwyr eraill yn cynnwys clybiau chwaraeon a hyrwyddwyr.
Nid cyngherddau cerddoriaeth yn unig sy'n cael eu targedu gan werthwyr gan fod ymchwiliad y BBC wedi canfod tystiolaeth o filoedd o docynnau pêl-droed Uwch Gynghrair Lloegr yn cael eu hysbysebu'n anghyfreithlon ar-lein.
Ers 1994 mae wedi bod yn drosedd ailwerthu tocynnau ar gyfer gemau pêl-droed yn y DU heb awdurdod, a gall arwain at ddirwy posib o £1,000.

Mae un cyn-weithiwr Viagogo yn honni ei fod wedi gweld rhai proffiliau gyda miloedd o docynnau ar werth
Ond wnaeth yr ymchwiliad ddarganfod 8,000 o docynnau'n cael eu hysbysebu'n anghyfreithlon ar-lein am fwy na'u gwerth ar gyfer gêm Arsenal yn erbyn Chelsea ar 16 Mawrth.
Un o'r rhai oedd yn gwerthu tocynnau ar gyfer y gêm oedd pêl-droediwr lled-broffesiynol yn byw yn y DU.
Mae Bogdan Stolboushkin wedi hysbysebu tocynnau ar gyfer gemau pêl-droed yn agored gwerth dros £60,000 ar gyfryngau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig.
Gwerthodd un tocyn i ohebydd am ddwbl ei werth ar gyfer gêm rhwng Arsenal a Chelsea ym mis Mawrth.
Cafodd sawl ymdrech ei wneud i gysylltu â Mr Stolboushkin er mwyn cyflwyno'r honiadau iddo, ond ni wnaeth ymateb.
'Edrych ar fesurau i geisio mynd i'r afael â'r mater'
Arfer arall a allai fod yn anghyfreithlon yn y DU yw "gwerthu ar hap," lle mae towtiaid yn rhestru tocynnau i'w hailwerthu ar-lein heb fod yn berchen arnyn nhw yn y lle cyntaf.
Nid oes unrhyw warant bydd y towtiaid hyn yn sicrhau tocyn i'r cefnogwr - ac roedd "gwerthu dyfalu" yn un o'r rhesymau pam y cafodd dau berson eu carcharu am dwyll yn 2020.
Roedd o leiaf 104 o seddi wedi'u rhestru'n "ddyfal" ar Viagogo ar gyfer cyngerdd Catfish a'r Bottlemen yng Nghaerdydd.
Roedd yn ymddangos bod yr union seddi ar werth ar yr un pryd ar Ticketmaster - sef y man gwerthu gwreiddiol - a'r wefan ailwerthu Viagogo.
Ar ôl cyflwyno'r dystiolaeth i Viagogo, dywedodd y cwmni: "Mae rhestrau y credir eu bod yn groes i'n polisi wedi eu tynnu o'r wefan."

Fe wnaeth yr ymchwiliad ddarganfod fod 8,000 o docynnau'n cael eu hysbysebu'n anghyfreithlon ar-lein am fwy na'u gwerth ar gyfer gêm Arsenal yn erbyn Chelsea
Mae Llywodraeth y DU yn edrych ar fesurau i geisio mynd i'r afael â'r mater, ond mae modd gweld tystiolaeth o'r heriau a wynebir yng Ngweriniaeth Iwerddon.
Yn 2021, cyflwynwyd deddfau yno i atal ailwerthu tocynnau uwchlaw eu gwerth wyneb, ond canfu'r BBC bod hyn yn cael ei anwybyddu.
Roedd hyn yn cynnwys tocynnau i weld y band Kneecap yn gwerthu am bedair gwaith eu gwerth o €59 (£50), tra bod tocynnau ar gyfer gêm rygbi'r Chwe Gwlad Iwerddon v Ffrainc yn Nulyn yn gwerthu am £3,000.
Roedd capio prisiau ailwerthu tocynnau a rheoleiddio llwyfannau ailwerthu yn un o addewidion maniffesto Syr Keir Starmer pe bai Llafur yn ennill yr etholiad cyffredinol diwethaf.
Y cyflwynydd Steffan Powell sy'n sôn am y rhaglen
Nawr mae llywodraeth Lafur y DU wedi cynnal ymgynghoriad gyda chynigion gan gynnwys cap pris sy'n amrywio o'r pris gwreiddiol i 30% yn fwy na'r gwerth gwreiddiol, cyflwyno dirwyon uwch a chyfundrefn drwyddedu newydd.
Ond mae cadeirydd y pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn San Steffan yn dweud bod angen gwneud mwy yn gynt.
"Mae'n faes mor anodd i bobl sydd eisiau prynu tocynnau ar gyfer digwyddiad maen nhw eisiau ei fwynhau," meddai'r Fonesig Caroline Dinenage AS wrth y BBC.

Dywedodd y Fonesig Caroline Dinenage bod ymchwiliad y BBC yn tynnu sylw at "yr hyn y mae llawer o ddefnyddwyr eisoes yn ei weld"
"Mae'r dystiolaeth yn profi nad oes digon o weithgarwch yn digwydd gan y llywodraeth, mewn rhai achosion gan yr heddlu ac yn sicr gan rai o'r sefydliadau ar-lein mawr i allu mynd i'r afael â'r math yma o weithgarwch."
Dywedodd yr AS Ceidwadol bod ymchwiliad y BBC yn tynnu sylw at "yr hyn y mae llawer o ddefnyddwyr eisoes yn ei weld".
"Mae'n rhaid i bobl dalu mwy na'r disgwyl oherwydd bod eraill yn aml yn gweithredu y tu allan i'r DU i wneud elw llwyr ar brynu tocynnau, gan eu gwerthu am bris uchel ac mewn rhai achosion yn gwerthu tocynnau nad ydynt yn bodoli o gwbl," ychwanegodd.
"Mae'r tocynnau hyn eisoes yn ddrud iawn ac mae hyn i gyd yn lleihau'r mwynhad ac yn ychwanegu at y straen."
Y nod yw "cryfhau amddiffyniadau defnyddwyr ac atal cefnogwyr rhag cael eu twyllo," yn ôl ysgrifennydd diwylliant y DU.
Ychwanegodd Lisa Nandy ei bod eisiau "sicrhau bod arian sy'n cael ei wario ar docynnau yn mynd yn ôl i'n sector digwyddiadau byw anhygoel, yn hytrach nag i bocedi pobl drachwantus".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2017