Ian Watkins wedi marw ar ôl cael ei drywanu yn ei wddf - cwest

Ian WatkinsFfynhonnell y llun, Heddlu'r De
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ian Watkins ei garcharu yn 2013 am droseddau rhyw yn erbyn plant

  • Cyhoeddwyd

Bu farw Ian Watkins, y troseddwr rhyw oedd yn ganwr i'r grŵp Cymreig Lostprophets, ar ôl cael ei drywanu yn ei wddf, mae cwest wedi clywed.

Roedd Watkins o Bontypridd wedi'i garcharu am 29 mlynedd am gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant - gan gynnwys ymgais i dreisio babi.

Bu farw yn dilyn ymosodiad yng Ngharchar Wakefield ar 11 Hydref, ac mae dau ddyn wedi eu cyhuddo o'i lofruddiaeth.

Cafodd y cwest ei agor a'i ohirio yn Llys Crwner Wakefield ddydd Gwener.

Yn ystod y gwrandawiad byr, dywedodd y Crwner, Oliver Longstaff, fod Ian David Karslake Watkins wedi'i ddatgan yn farw yng ngharchar Gorllewin Swydd Efrog ar 11 Hydref, gan ddoctor.

Cafodd ei adnabod yn ffurfiol gan swyddog yn y carchar.

Dywedodd Mr Longstaff y cafodd parafeddygon eu galw i'r carchar, lle'r oedd Watkins yn garcharor, "yn dilyn adroddiad ei fod wedi cael ei drywanu yn ei wddf".

Rhoddodd adroddiad post-mortem achos marwolaeth o doriad i'r gwddf, meddai'r Crwner.

Dywedodd fod carcharorion eraill wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth ac y byddai ymchwiliad y crwner yn cael ei ohirio "tra'n aros am ganlyniad y broses cyfiawnder troseddol".

"Os oes angen ailddechrau cwest i'r farwolaeth ar ôl i'r broses droseddol honno ddod i ben, mae hynny'n destun dyfalu llwyr a bydd rhaid aros i weld."

Carchar WakefieldFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ian Watkins yn dilyn ymosodiad yng Ngharchar Wakefield ar 11 Hydref

Yn gynharach yn y mis, cafodd Rico Gedel a Samuel Dodsworth eu cyhuddo o lofruddio Watkins ac mae disgwyl i'r achos yn eu herbyn gael ei gynnal fis Mai 2026.

Cadarnhaodd yr heddlu ddydd Mawrth diwethaf bod dau ddyn arall, carcharorion 23 a 39 oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio.

Cafodd y dynion eu rhyddhau ar fechnïaeth a'u dychwelyd i'r carchar tra bod ymholiadau'n parhau.

Ymddangosodd Gedel a Dodsworth yn y llys wythnos diwethaf, ond ni chafon nhw eu holi i bledio.

Ymddangosodd Dodsworth trwy gyswllt fideo o Garchar Wakefield, ond clywodd Llys y Goron Leeds fod Gedel wedi gwrthod mynychu o bell - gan ei fod eisiau ymddangos yn bersonol.

Gosododd y Barnwr 5 Mai fel dyddiad dros dro ar gyfer yr achos hwnnw ac mae disgwyl iddo bara hyd at bythefnos i dair wythnos.

Pynciau cysylltiedig