Dileu swyddi comisiynwyr heddlu a throsedd 'i arbed £100m'

HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Bydd comisiynwyr heddlu a throsedd yn cael eu dileu yng Nghymru a Lloegr er mwyn arbed £100m dros gyfnod y senedd hon, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi.

Yn lle hynny, bydd y rôl yn symud i arweinwyr cyngor neu faer etholedig yn dilyn diwedd tymor y comisiynwyr yn 2028.

Ond heb unrhyw faerau etholedig yng Nghymru, dywedodd y gweinidog plismona Sarah Jones y byddai Llywodraeth y DU yn "gweithio gyda Llywodraeth Cymru... gan gydnabod natur unigryw trefniadau Cymru".

Dywed Llywodraeth y DU bod llai na 20% o bleidleiswyr yn gallu enwi eu Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Yng Nghymru, dim ond 17% o bleidleiswyr a gymerodd ran yn etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd y llynedd.

Ar hyn o bryd mae 41 o gomisiynwyr yn y DU, a gyflwynwyd 12 mlynedd yn ôl gan y prif weinidog Ceidwadol ar y pryd, David Cameron.

Mae pedwar comisiynydd yng Nghymru - un yr un ar gyfer heddluoedd Dyfed-Powys, Gwent, De Cymru a Gogledd Cymru.

Rhaid i ddiddymu'r comisiynwyr gyd-fynd a datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru, meddai Plaid Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan mai safbwynt Llafur Cymru ers tro yw yr hoffai weld y pwerau'n cael eu datganoli.

'Methu â chyflawni disgwyliadau'

Yn ôl gweinidogion Llywodraeth y DU, bydd yr arbediad yn caniatáu iddyn nhw fuddsoddi £20m ychwanegol mewn plismona rheng flaen bob blwyddyn.

Cafodd y comisiynwyr cyntaf eu hethol yn 2012, ond ni effeithiodd y newid ar Yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle mae materion plismona wedi'u datganoli i'r llywodraethau yno.

Y nod oedd gwneud heddluoedd yn fwy atebol ac ymatebol i'r ardaloedd y maen nhw'n eu gwasanaethu, er mwyn dod â "llais cyhoeddus" i blismona.

Ond mae costau'r system ac effeithiolrwydd comisiynwyr wedi cael eu beirniadu ers tro.

Dywedodd y gweinidog plismona Sarah Jones yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Iau fod y model wedi "methu â chyflawni disgwyliadau" ac "heb gyflawni'r hyn y'i sefydlwyd i'w gyflawni".

Y llynedd cafodd y menywod cyntaf eu hethol yn gomisiynwyr heddlu a throsedd yng Nghymru wrth i Lafur ddal y swyddi yng Ngwent, Gogledd a De Cymru.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y pedwar comisiynydd yng Nghymru: "wrth i'r broses hon ddatblygu, mae ein ffocws yn parhau i fod ar sicrhau bod atebolrwydd, tryloywder a gwasanaeth cyhoeddus yn parhau i fod wrth wraidd unrhyw fodel newydd.

"Credwn ei bod yn hanfodol bod y cam nesaf yn darparu sefydlogrwydd, parhad a hyder, i'r cyhoedd, i ddioddefwyr, i bartneriaid plismona ac i'r gweithlu.

"Ni ddylai'r newid dynnu sylw oddi wrth yr hyn sydd bwysicaf: cadw pobl yn ddiogel, cefnogi dioddefwyr, ac adeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd mewn plismona."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder, Adam Price AS, bod y blaid "wedi dadlau ers tro dros ddiddymu Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd, oherwydd ein cred na ddylai plismona fod â chymhelliant gwleidyddol".

"Felly, rydym yn croesawu penderfyniad heddiw, ond rhaid i hyn ddod law yn llaw â datganoli pwerau cyfiawnder a phlismona'n llawn.

"Byddai sefydlu system gyfreithiol Gymreig ar wahân a sicrhau bod ein heddluoedd yn atebol i'r Senedd yn gamau hanfodol tuag at Gymru decach a chenedl hyderus, hunanlywodraethol."

Mae'r ddadl ynghylch a ddylid trosglwyddo cyfrifoldeb dros blismona a chyfiawnder o San Steffan i Gaerdydd wedi bod yn hirhoedlog, gan gynnwys o fewn Llafur.

Yn anghytuno â chydweithwyr y blaid yn Llundain, hoffai Llafur Cymru weld y pwerau'n cael eu datganoli.

"Mae ein safbwynt yn Llafur Cymru yn glir ar hyn," meddai'r Prif Weinidog Eluned Morgan ddydd Iau.

"Byddwn yn cael sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU ar ddyfodol plismona."

Derbyniodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, y gallai'r ddadl "barhau".

Alun Michael
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alun Michael fod ganddo amheuon a fyddai'r arbedion ariannol o £100m yn cael eu gwireddu

Mae cyn-Gomisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael, wedi beirniadu Llywodraeth y DU yn dilyn y cyhoeddiad.

Mewn cyfweliad ar raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru, dywedodd Mr Michael - fu'n gomisiynydd rhwng 2012 a'i ymddeoliad yn 2024 - nad yw'r "ffordd mae'r cyhoeddiad wedi'i wneud yn gwneud sense o gwbl".

Dywedodd hefyd fod ganddo amheuon a fyddai'r arbedion ariannol o £100m yn cael eu gwireddu.

"Fedrwch chi ddim safio'r math o arian sydd yn y cyhoeddiad yna," meddai.

"Mae'n amhosib achos mae'n rhaid cael yr atebolrwydd o'r heddlu i'r cyhoedd, ac os y'ch chi'n gwneud i ffwrdd â'r comisiynwyr bydd rhaid gwneud e rhyw ffordd arall."