Jim Driscoll: Y bocsiwr tlawd a baffiodd i'r brig

Jim DriscollFfynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o’r llun,

Jim Driscoll

  • Cyhoeddwyd

Mae'n 100 mlynedd ers i Jim Driscoll, y bocsiwr a fagwyd mewn tlodi yng Nghaerdydd ond a baffiodd ei ffordd i'r brig, farw ar 30 Ionawr 1925.

Faint wyddoch chi am y bocsiwr chwedlonol?

Sefyll yn falch

Os oes yna feirniadaeth ar ein prifddinas yna lleoliad rhai o'i cherfluniau fyddai hynny.

Wyddoch chi bod cerflun efydd o Mahatma Gandhi yn cuddio yn y coed o fewn tafliad carreg i Ganolfan y Mileniwm? A hynny tra bo' Gareth Edwards yn llechu y tu allan i siop Primark yng nghanol canolfan siopa dan do!

Dyw hi ddim syndod felly eich bod o bosib wedi cerdded droeon heibio gwesty'r Radisson yng nghanol y dref, heb sylwi ar un o fawrion campau'r genedl yn sefyll yn falch ar blinth wrth ymyl yr heol fawr.

Mae'n anodd cymharu Jim Driscoll gydag unrhyw focsiwr nac athletwr arall yn ein hanes. Ac mae hynny'n ddisgwyliadwy o ystyried ei lysenw.

Jim DriscollFfynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o’r llun,

Jim Driscoll

'Arwr y Werin'

Cafodd Jim Driscoll ei eni yn ardal Adamsdown, Caerdydd yn 1880. Pan fu farw 44 o flynyddoedd yn ddiweddarach, llifodd 100,000 i'r strydoedd i dalu teyrnged iddo.

Yn aml, mae'r campwyr sy'n esgyn i uchelderau enwogrwydd yn gwneud hynny oherwydd eu cyfraniad y tu hwnt i'w meysydd chwarae.

Ystyriwch Muhammad Ali, neu hyd yn oed capten y Springboks Siya Kolisi - dau sy'n cael eu hadnabod am eu gweithredoedd ac aberth cymdeithasol yn ogystal â llwyddiant corfforol.

Ac yng nghyd-destun Driscoll, yr aberth personol yma oedd yn gyfrifol am y parch aruthrol yma. Fe ildiodd y cyfle i gyrraedd brig ei gamp am ei fod wedi addo cefnogi ei gymuned.

Y dyrfa yn ffarwelio â Jim Driscoll ar ddydd ei angladd yn 1925
Disgrifiad o’r llun,

Y dyrfa yn ffarwelio â Jim Driscoll ar ddydd ei angladd yn 1925

Mewnfudo

Yn fab i fewnfudwyr Gwyddelig cafodd Driscoll fagwraeth anodd mewn tlodi enbyd ar ddiwedd y 19eg ganrif.

Bu farw ei dad ar ôl cael ei daro gan drên pan oedd yn un oed. Bu'n rhaid i'w fam ddibynnu ar gefnogaeth yr eglwys i'w chynorthwyo i fagu ei phlant, yn ogystal â chynnal swydd hynod o heriol yn llwytho tatws a physgod oddi ar longau yn nociau'r bae.

Magu profiad

Datblygodd Driscoll ei grefft yn y blychau paffio (boxing booths).

Byddai Driscoll, fel Cymry nodedig eraill megis Jimmy Wilde a Tommy Farr, yn teithio ffeiriau Prydain yn herio unrhyw un o'r cyhoedd fyddai'n ddigon ffôl i dalu am yr anrhydedd o geisio ei guro.

Roedd hyn yn golygu brwydro pob maint a siâp a gwneud hynny am oriau. Y chwedl oedd y byddai Driscoll yn aml yn sefyll ar hances gyda'i freichiau y tu ôl i'w ddwylo gan herio'i wrthwynebwyr i geisio ei daro ar ei drwyn.

Amcangyfrifir i Driscoll ymladd rhyw 600 o ornestau answyddogol yn y blychau ac erbyn 1901 roedd yn barod i gamu 'mlaen i'r rhengoedd proffesiynol.

Aeth ati am saith mlynedd yng Nghymru a Lloegr, cyn troi ei olygon at yr Unol Daleithiau.

Driscoll gyda'r bocsiwr Eddie JohnsonFfynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o’r llun,

Driscoll gyda'r bocsiwr Eddie Johnson

Croesi'r Iwerydd

Gyda'i arddull slic a'i allu i osgoi ergydion wrth ddawnsio o amgylch y sgwâr fe blesiodd o'r cychwyn, gyda nifer yn proffwydo mai'r Cymro fyddai'r pencampwr byd pwysau plu nesaf. Yn 1910 cafodd ei gyfle wrth wynebu'r pencampwr Abe Atell.

Penderfyniad mawr

Roedd nifer o ornestau'r cyfnod yn dilyn rheolau No-Decision a olygai bod angen llorio gwrthwynebydd i sicrhau buddugoliaeth. Mynnodd Abe Atell, y bocsiwr proffesiynol o America, bod yn rhaid i'w ornest ddefnyddio'r rheol No-Decision, er mawr rhwystredigaeth i ni fel Cymry.

Rheolwyd yr ornest gan Driscoll, ond wedi 10 rownd ni lwyddodd i lorio Atell. Yn eironig roedd gwybodusion yn cael eu canfasu wedi gornest o'r fath er mwyn plesio rheini oedd wedi betio ar y canlyniad.

Ac roedd y farn yn unfrydol: Driscoll oedd yn fuddugol. Ond oherwydd y rheolau ni chafodd ei afael ar y gwregus.

Cadw ei air

Cafodd Driscoll gynnig am ail ornest, ond gwrthododd. Hynny am ei fod wedi addo perfformio mewn sioe yng Nghaerdydd i godi arian i Gartref Plant Amddifad Nazareth House. Aberthodd ei gyfle i ennill teitl byd, gan ddatgan ei fod "wastad yn cadw at fy ngair".

Dychwelodd Driscoll i Gaerdydd fel arwr am ei weithred anhunanol a'r farn unfrydol oedd iddo ennill yr ornest. I nifer Driscoll oedd y Pencampwr Byd answyddogol.

Yr ornest rhwng Freddy Welsh a Jim Driscoll, 1920Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Yr ornest rhwng Freddy Welsh, Cymro arall, a Jim Driscoll yn 1920

Colli cyfle

Fe ymladdodd Driscoll eto yn yr Unol Daleithiau, ond wedi cyfnod o salwch, roedd yn bell o fod ar ei orau ac wedi dyfodiad y rhyfel mawr a chyfres o rwystrau eraill, roedd ei gyfle wedi diflannu.

Caiff ei ystyried gan nifer fel y bociswr gorau o Brydain, os nad y byd, i beidio ennill teitl byd.

'Peerless'

Bu farw 'Peerless Jim Driscoll' o Tuberculosis yn 44 oed, wrth i'r arch deithio yn araf tuag at fynwent Cathays, llifodd can mil i strydoedd dinas oedd ar y pryd ond yn gartref i 200,000 o bobl.

Os ymwelwch â'r fynwent heddiw, canrif wedi ei farwolaeth, fe sylwch bod blodau ar ei fedd o hyd.

Daw hyn â ni yn ôl i'r presennol. Y tro nesaf ewch chi i siopa yn John Lewis, manteisiwch ar y cyfle i adael trwy'r drws cefn gan gymryd gofal wrth groesi'r pedair lôn o draffig - yno yn sefyll yn falch mae un sydd heb gymhariaeth.