Dyn yn euog o lofruddio cymar ei fab yn Llanelli
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Sir Gâr wedi ei gael yn euog o lofruddio cymar ei fab yn Llanelli.
Cafodd corff Sophie Evans, 30, ei ddarganfod yn ei chartref ar Ffordd Bigyn ar 5 Gorffennaf 2024.
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod swyddogion Heddlu Dyfed Powys wedi darganfod Ms Evans yn noeth yn ei chegin.
Roedd ganddi nifer o anafiadau ac roedd hi wedi cael ei thagu.
Roedd Richard Jones, 50 oed o Borth Tywyn, wedi pledio'n euog i'w dynladdiad ond roedd yn gwadu llofruddio Ms Evans, oedd mewn perthynas â'i fab, Jamie.
- Cyhoeddwyd21 Ionawr
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2024
Yn ystod yr achos, clywodd y rheithgor bod Ms Evans newydd ddychwelyd adref ar ôl mynd â'i dau blentyn i'r ysgol, pan ddaeth Mr Jones i'w chartref.
Clywodd y llys bod y diffynnydd yn "ymwelydd cyson" oedd yn gwneud gwaith o gwmpas y tŷ, a'i fod wedi mynd yno y tro hwn "i drwsio'r draeniau".
Mae lluniau yn dangos ei fod wedi mynd i'r tŷ am 09:23, ac mae cofnodion ffôn yn dangos bod Ms Evans wedi galw ei thad sawl tro yn fuan wedi hynny.
Ond pan geisiodd ei thad, Neil Evans, ei ffonio'n ôl am 09:39, doedd dim ateb, ac yn ôl yr heddlu doedd dim rhagor o ddefnydd o'i ffôn.
Am 10:00 mae lluniau CCTV yn dangos Richard Jones yn rhedeg i'w gar, ac yna'n dychwelyd i'r tŷ, cyn gadael ychydig funudau yn ddiweddarach yn gwisgo het a menyg a mynd i fanc Santander a becws lleol yn Llanelli.
Clywodd y rheithgor bod Sophie Evans wedi cael sawl anaf, gan gynnwys torri asgwrn yn y gwddf, trawma i'r pen o ganlyniad i gael ei tharo, dwy lygad ddu a chleisio, a'i bod wedi cael ei thagu i farwolaeth.
'Paid â dweud gair'
Clywodd y gwrandawiad am gyflwr meddyliol y diffynnydd ar y pryd - ei fod "yn gynyddol gynhyrfus" bod ei fab a Ms Evans "yn cymryd mantais ohono'n ariannol".
Fe welodd y rheithgor negeseuon rhwng Richard Jones a'i gyn-gymar Tracey Thompson ble y cyfeiriodd at ei fab, Jamie Davies, a Miss Evans fel "lladron twyllodrus".
Clywodd y llys bod yna sgwrs ffôn rhwng y ddau, cyn iddo anfon neges destun ati: "Paid â dweud gair."
Ond fe ffoniodd Ms Thompson Heddlu Dyfed-Powys ac aeth swyddogion i dŷ Ms Evans am 17:32 a darganfod ei chorff yn y gegin.
Cafodd Richard Jones ei arestio am 20:02 yr un diwrnod.
Yn ystod cyfweliadau gyda'r heddlu dywedodd Jones ei fod "wedi pendroni ynghylch y twyll 'ma", gan ychwanegu nad oedd "yn gallu cofio popeth - ro'n i'n eratig".
Roedd wedi dweud wrth yr heddlu ei bod yn cofio mynd i dŷ Ms Evans i gael golwg ar y draeniau.
Dywedodd ei fod wedi curo ar y drws, a bod Ms Evans wedi ei agor mewn tywel, ar ôl dod allan o'r gawod.
Clywodd y llys i Mr Jones ddweud ei fod wedi codi mater y "twyll" a'i fod "wedi colli ei ben" pan atebodd Ms Evans na wyddai ddim amdano.
Ar ôl i'r dyfarniad gael ei ddarllen yn y llys, dywedodd y Barnwr Geraint Walters bod Jones yn wynebu oes yn y carchar.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 3 Mawrth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2024