'Un ffordd o fod yn enwog', meddai merch, 14, wnaeth drywanu tair
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r stori hon yn cynnwys cyfeiriadau at hunan niweidio
Mae merch 14 oed wedi dweud bod trywanu tri pherson mewn ysgol yn "un ffordd o fod yn enwog".
Cafodd Liz Hopkin, Fiona Elias a disgybl eu trywanu amser egwyl yn Ysgol Dyffryn Aman ar 24 Ebrill 2024.
Mae'r ferch, na allwn ei henwi am resymau cyfreithiol, wedi cyfaddef iddi drywanu'r tair, ond yn gwadu tri chyhuddiad o geisio llofruddio.
Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau, gwelodd rheithgor ddeunydd camera corff yr heddlu adeg arestio'r ferch yn ogystal â darluniau cafodd eu canfod yn ei bag ysgol.
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Clywodd y rheithgor i'r diffynnydd gyfaddef i drywanu ei chyd-ddisgybl gan ddweud "oopsies", wrth iddi gael ei throsglwyddo i'r orsaf heddlu yn Llanelli.
Gofynnodd y ferch i'r swyddog: "Ydyn nhw'n mynd i farw?" wrth gyfeirio at Fiona Elias, Liz Hopkin a'r disgybl.
"Dwi 90% yn sicr fydd hyn ar y newyddion a bydd hyd yn oed fwy o bobl yn edrych arna i," meddai.
Ychwanegodd: "Dyna un ffordd o fod yn enwog."
Dywedodd y ferch: "Sut alla i wynebu fy nheulu ar ôl beth dwi wedi gwneud? Hynny yw, os ydyn nhw'n troi lan."
Clywodd y rheithgor i'r heddlu ganfod darluniau gan y diffynnydd yn ei bag ysgol a'i hystafell wely.
Cafodd y darluniau eu dangos i'r llys oedd yn cyfeirio at "Mrs Frogface Elias".
Roedd un darlun yn cynnwys y geiriau: "Llosgi person!", "Gallen nhw farw", "Eu hanafu yn ddifrifol", "Torri eu cegau a'u llygaid", "Marwolaeth", "Llosgi'r tŷ i lawr", "Boddi" a "Bydd [y disgybl gafodd ei thrywanu] yn llosgi!".
Gwelodd y rheithgor nodiadau'r ferch oedd yn cynnwys y brawddegau: "Dwi eisiau gwneud rhywbeth dyw pobl ddim fod i wneud", "Pam ydw i eisiau lladd eraill gymaint â dwi eisiau lladd fy hun?" a "Dwi'n teimlo fel fy mod am gyflawni trosedd oes".
Cafodd datganiadau gan weithwyr brys eu darllen i'r llys a oedd yn cadarnhau fod Liz Hopkin wedi cael pedwar anaf gan gynnwys un yn ei gwddf.
Cafodd ei throsglwyddo gan ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Cymru.
Yn ôl un swyddog heddlu roedd "maint sylweddol" o waed ar y llawr adeg trin Ms Hopkin yn adeilad yr ysgol.
Gwelodd y llys luniau o anafiadau Liz Hopkin, Fiona Elias a'r disgybl.
Mae'r ferch na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol wedi cyfaddef i drywanu'r tair ond yn gwadu ceisio llofruddio.
Mae'r achos yn parhau.