'Hel mygiau er mwyn hel atgofion'
- Cyhoeddwyd
Un o gwsmeriaid John Les Tomos yn nhafarn Y Dderwen yn Hendre wnaeth roi mwg cyntaf y casgliad iddo fel anrheg.
Dyma gychwyn hobi sy' wedi arwain at gasgliad anhygoel o dros 1500 o fygiau o bedwar ban byd.
Bu John yn rhannu stori'r casgliad gyda Cymru Fyw:
Y cychwyn
Dechreuodd o trwy ddamwain i ddweud y gwir – oedden ni'n byw yng Nghaerwys cyn dod i'r dafarn. Daethon ni yma i'r Dderwen yn 1997 ac oeddan ni'n mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd bob blwyddyn a'r un peth oeddan ni'n neud dros y blynyddoedd oedd cael myg o'r Eisteddfod ac oedd hwnnw yn y gegin yn y tŷ yng Nghaerwys.
Daethon ni lawr i fan hyn a dadbacio a dod ar draws y bocs efo rhyw 15 o fygiau Eisteddfod a meddwl, beth ar y ddaear i wneud efo nhw?
Ond gan bod 'na breniau yn nho y dafarn dyma fi'n penderfynu sticio nhw fyny fan 'na o'r ffordd a dyna fuodd. Wedyn oedd ambell i Eisteddfod ar goll ac oedd un o'n cwsmeriaid ni'n eisteddfodwr a 'nath o ddod a myg Eisteddfod yma.
Wedyn oedd un o'n cwsmeriaid ni, ffermwr lleol sy' wedi'n gadael ni bellach, Dai Huws – ac oedd o a'i chwaer yn rhedeg Marathon Efrog Newydd. Pan ddaeth Dai yn ôl o Efrog Newydd roedd o wedi dod â mwg i ni.
Rhoion ni'r myg i fyny ac wedyn oedd pobl yn meddwl, os dwi'n mynd ar wyliau mae'n rhaid fi ddod yn ôl â myg i'r dafarn. Dyna sut dechreuodd o.
Pedwar ban byd
Dros y blynyddoedd mae 'na fygiau o bedwar ban byd – o Frasil, Argentina, Patagonia, Hong Kong, Awstralia, Seland Newydd... bob man allwch chi feddwl amdano.
Oedd pawb yn prynu myg i ni – os oedd unrhyw un oedd yn dod i'r dafarn yn mynd ar wyliau neu mynd ar siwrne diwrnod i Blackpool neu rhywbeth oeddan nhw wastad yn dod yn ôl â myg. Os oeddech chi'n mynd i ffwrdd i rywle a ddim yn dod â myg yn ôl bydde'ch bywyd chi yn anfaddeuol - nid gyda ni ond gan y cwsmeriaid eraill.
Oherwydd Covid bu rhaid i ni gau'r dafarn. 'Da ni ddim yn casglu fel y cyfryw erbyn hyn ond mae'r casgliad gyda ni yn saff ac yn ddiogel.
'Dan ni'n dal i fyw yn y dafarn ond mae gynnai weithdy reit fawr ar faes parcio'r dafarn a dwi wedi symud y mygiau i gyd i fan 'na. Mae 'na rhyw 1500 o fygiau yn nho y sied waith.
Oherwydd y casgliad fe gawson ni nifer o fygiau gan ymwelwyr. Oedd 'na deulu o America wedi bod ar ymweliad â gogledd Cymru ac wedi dod i'r dafarn a gweld y mygiau. Ges i neges ganddi nhw pan oeddan nhw yn ôl yn Washington yn dweud 'da ni'n chwilio am myg sbeshal i chi'.
Mewn rhyw fis fe ddaeth parsel yn y post a be' oedd o oedd myg FBI, sef myg mae gweithwyr yr FBI yn cael. Allwch chi brynu copi ohonyn nhw ond mae'r aur ar y rhai gwreiddiol yn aur go iawn. A dyna'r myg cawsom ni.
Hanes
Roedd ymwelwyr eraill wedi dod o'r Almaen – beth 'naethon nhw oedd cymryd cerdyn y dafarn a mynd a hwnnw adra ac wedyn gyrru dau fyg sy'n dal peint i ni ac wedi cael cwmni lleol yn yr Almaen i roi y lluniau a'r ysgrifen oedd ar y daflen papur ar y myg.
Mae 'na hanes i lot o'r mygiau. 'Nath rhywun arall yrru dau fyg sbeshal i ni gyda y Royal Oak Hendre ar un a Y Dderwen Hendre ar y llall. Ac oedd gynnon ni hen ffrind, Cath o Blas Wilcyn (fferm lleol) – roedd ei brawd hi yn byw yn Awstralia a phan aeth hi i weld ei brawd hi daeth hi â sawl myg yn ôl i ni. A dros y blynyddoedd roedd ei brawd hi yn gyrru mygiau i ni o Awstralia.
Felly beth mae John yn caru am fygiau?
I fod yn hollol onest, diawl o ddim byd, jest bod nhw'n hel atgofion! Roedden ni'n hel mygiau i gychwyn a dyna gof am yr Eisteddfod hynny. Oedd pobl jest yn ymuno i mewn.
Mae 'na werth sentimental, mae 'na werth teuluol, mae 'na werth atgofion.
Dyw fy ngwraig ddim mor attached ag ydw i i'r mygiau achos mae 'na waith glanhau. Mi oedd hi'n cymryd diwrnod i lanhau y mygiau. Oeddan ni'n gallu rhoi nhw yn y bottle wash yn y dafarn ond mi oedd hi'n cymryd diwrnod cyfan i olchi nhw i gyd.
'Da ni dal yn chwilio am fyg os ni'n mynd i'r Eisteddfod. Yn rhyfedd iawn dyw hi ddim mor hawdd cael mygiau Eisteddfod dyddiau yma. Aethon ni lawr i Bontypridd a chwilio ond dwi ddim yn meddwl bod 'na neb efo myg Eisteddfod Pontypridd.
Hoff fyg
Mae'n siŵr yr hoff myg ydy'r un gan Dai Huws, sef y cyntaf un o Marathon Efrog Newydd – hwnna ydy'r hoff un. Dyna'r un 'nath gychwyn popeth i ffwrdd.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2024