Dim camau pellach yn erbyn dau berson yn dilyn diflaniad bachgen yn 2002

Robert WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Robert Williams yn 15 oed pan ddiflannodd yn 2002

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau na fyddan nhw'n cymryd camau pellach yn erbyn dau o bobl gafodd eu harestio mewn cysylltiad â diflaniad bachgen 15 oed yn 2002.

Aeth Robert Williams o Resolfen, Castell Nedd Port Talbot ar goll ar 22 Mawrth.

Ym mis Medi 2023, cadarnhaodd yr heddlu eu bod wedi arestio dynes 59 oed a dyn 35 oed mewn cysylltiad â'i ddiflaniad.

Ond mae'r ddau bellach wedi eu rhyddhau yn ddi-gyhuddiad.

Y gred yw bod Robert wedi mynd i barti yn Aberdulais ar y diwrnod ar ôl iddo ddiflannu ym mis Mawrth 2002, ond er gwaethaf sawl apêl am wybodaeth, nid yw wedi ei ganfod.

Ym mis Medi 2023, apeliodd mam Robert, Cheryl, am wybodaeth am ei mab, gan ddweud ei bod hi "angen gwybod beth ddigwyddodd" iddo.

Pynciau cysylltiedig