Tad April Jones, Paul Jones wedi marw yn 55 oed

Paul Jones
Disgrifiad o’r llun,

Paul Jones yn siarad yn 2015

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i dad April Jones – y ferch bump oed a gafodd ei llofruddio yn 2012 – sydd wedi marw yn 55 oed.

Bu farw Paul Jones o haint ar yr ymennydd a gafodd yn 2018.

Cafodd April ei chipio ger ei chartref ym Machynlleth a'i llofruddio gan y pedoffeil Mark Bridger.

Wrth gyhoeddi marwolaeth Paul Jones, dywedodd ei lysferch Jazz Jones bod calonnau hi a'i brawd "wedi torri".

Ychwanegodd bod y farwolaeth yn "annisgwyl iawn ac rydyn ni i gyd mewn sioc".

Gofynnodd y teulu am breifatrwydd i alaru, ond dywedodd cyfaill i'r teulu, Allan Hughes, ar y cyfryngau cymdeithasol:

"Newydd glywed am farwolaeth ffrind gwych Paul Jones. Bydd llawer ohonoch yn ei 'nabod fel tad April druan, ond fe fyddaf i ac eraill yn ei gofio fel tad, mab, brawd a chyfaill eithriadol.

"Fe wnaethon ni dyfu fyny gyda'n gilydd ym Mhenparcau a chael anturiaethau di-ri. Cwsg yn dawel Paul."

Gwrthododd Mark Bridger – a gafwyd yn euog o lofruddiaeth, herwgipio plentyn a gwyrdroi cwrs cyfiawnder – ddweud wrth yr heddlu beth oedd wedi ei wneud gyda chorff April.

Cafodd ei ddedfrydu i garchar am oes gyfan, sy'n golygu y bydd yn marw yn y carchar.

Pynciau cysylltiedig