Yn euog o lofruddio April Jones
- Cyhoeddwyd
Ar ôl ystyried eu dyfarniad am dros bedair awr, mae rheithgor yn Llys y Goron Yr Wyddgrug wedi dyfarnu bod Mark Bridger yn euog o lofruddio April Jones.
Mae o hefyd wedi'i gael yn euog o drydydd cyhuddiad o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder trwy guddio a chael gwared ar ei chorff yn anghyfreithlon.
Roedd wedi gwadu'r cyhuddiadau.
Aeth y ferch bump oed ar goll ger ei chartref ym Machynlleth ar Hydref 1, 2012.
Mae'r Barnwr Mr Ustus Griffith Williams wedi dweud wrth y rheithgor mai ond un ddedfryd sydd dan ystyriaeth, sef carchar am oes.
Bydd nawr yn penderfynu beth yw isafswm y ddedfryd.
'Torrais fy nghalon'
Roedd mam April, Coral Jones, yn edrych yn ddagreuol wrth i'r rheithgor gyflwyno eu dyfarniad ond roedd y ddau riant yn dawel trwy'r cyfan, gan sefyll ochr yn ochr.
Darllenwyd yn y llys ddatganiad Mrs Jones am yr effaith ar y teulu: "All geiriau'n unig ddim ddisgrifio'r hyn rydym yn ei deimlo neu sut rydym yn ymdopi'n ddyddiol ... a fyddwn ni ddim eisiau i unrhyw deulu arall fynd drwy'r hyn rydym wedi bod drwyddo ac yn parhau i fynd drwyddo weddill ein bywydau.
"Cafodd April ei geni'n gynnar, yn pwyso ond pedwar pwys dwy owns ac roedd hi mewn uned gofal dwys am bythefnos ... Roedd April yn rheoli'n bywydau. Hi oedd yr ieuengaf ac oherwydd ei gwahanol anableddau roedd yn rhaid i ni ofalu amdani mewn ryw ffordd drwy'r amser.
"Fe dorrais fy nghalon wrth ysgrifennu cardiau Nadolig, gan feddwl a ddylwn i roi enw April arnyn nhw. Yn y diwedd fe wnes i benderfynu rhoi rhuban pinc yn hytrach nag enw April fel symbol o'n gobaith ni am ein merch fendigedig.
"Wna' i fyth anghofio noson Hydref 1, 2012. Dyma'r noson y gwnaethon ni ganiatáu ein merch April i fynd allan i chwarae gyda'i ffrindiau, rhywbeth yr oedd wedi'i wneud ganwaith o'r blaen, a'r noson honno ddaeth hi ddim gartre'.
"Ers y noson honno mae'r stad yn ddistaw, dyw plant ddim yn cael mynd allan i chwarae fel yr oeddan nhw bellach.
Ystyriaethau lliniarol
"Fel mam April, fe fyddaf yn teimlo'n euog am weddill fy oes fy mod wedi gadael iddi fynd allan i chwarae ar y stad y noson honno."
Dywedodd Brendan Kelly ar ran yr amddiffyniad fod ganddo ychydig iawn i'w gynnig o ran ystyriaethau lliniarol ar ran Bridger.
Roedd yn derbyn, oherwydd ei oed, y bydd Bridger yn treulio gweddill ei oes dan glo.
Wedi'r dyfarniad, datgelwyd fod Bridger wedi dweud wrth offeiriad yn y carchar ei fod wedi rhoi corff April mewn afon.
Roedd y dystiolaeth yn destun dadlau cyfreithiol yn ystod yr achos ond roedd y rheithgor yn absennol yn ystod y drafodaeth ac fe benderfynodd y barnwr na fyddai'r datganiad yn cael ei ddefnyddio.
Doedd dim modd felly adrodd ar y dystiolaeth tan ddiwedd yr achos.
Bu Bridger yn siarad â'r caplan y Tad Barry O'Sullivan pan roedd yn aros i sefyll ei brawf mewn carchar ym Manceinion. Chafodd y llys ddim gwybod pa afon oedd dan sylw, ond credir mai afon Dyfi ydoedd.
'Celwydd'
Yn ystod yr achos, roedd Bridger, 46 oed, wedi honni iddo daro yn erbyn April yn ddamweiniol gyda'i gar ac nad oedd yn cofio beth a wnaeth gyda'i chorff am ei fod wedi meddwi.
Ond gwrthod ei fersiwn ef o'r stori a wnaeth y rheithgor ar ôl ystyried eu dyfarniad am bedair awr a chwe munud.
Wrth ymateb i'r dyfarniad, dywedodd Ed Beltrami, Prif Erlynydd y Goron ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron: "Rydym yn croesawu'r ddedfryd heddiw, sy'n dod â diwedd i erlyniad anodd a heriol.
"Ers ei gyfweliad cynta' gyda'r heddlu fis Hydref y llynedd, mae Mark Bridger wedi parhau i ddweud celwydd er mwyn ceisio pellhau ei hun o wir erchylltra'r drosedd yr oedd wedi'i chyflawni.
"Mae wedi gwrthod cymryd cyfrifoldeb am yr hyn a wnaeth i April ac mae wedi mynd i eithafion i geisio celu'r gwir.
'Llofrudd treisgar'
"Er gwaetha' ei ymdrechion i osgoi cyfiawnder, mae wedi'i ddwyn i gyfri' gan ymchwiliad hynod broffesiynol Heddlu Dyfed Powys ynghyd â gwaith caled a thrylwyr y tîm erlyniad.
"Gyda'n gilydd rydym wedi llwyddo i ddadbrofi fersiwn Bridger o'r hyn ddigwyddodd a'i ddangos fel llofrudd treisgar a laddodd mewn gwaed oer.
"Wrth galon yr achos hwn mae teulu April, sydd wedi bod trwy - ac yn dal i fynd drwy - brofiad erchyll. Maen nhw wedi ymddwyn ag urddas drwy'r cyfan.
"Gallwn ond gobeithio y bydd y ddedfryd heddiw yn rhywfaint o gymorth iddyn nhw wrth iddyn nhw barhau i geisio ymdopi â cholli April."
'Craith ddofn'
Wrth gydymdeimlo â theulu April Jones, dywedodd Phillip Noyes, prif weithredwr dros dro elusen yr NSPCC: "Mae'r achos ofnadwy yma, sy'n waeth i'r teulu oherwydd nad yw Bridger yn fodlon dweud ble mae corff April, wedi gadael craith ddofn ar y genedl ... rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd yma'n dod â rhyw fath o gysur yn dilyn profiad mor erchyll.
"Mae'n ymddangos fod Bridger yn byw mewn byd ffantasi, oedd yn cynnwys edrych ar ddelweddau anweddus o blant ar y we.
"Am gryn amser rydym wedi pryderu am y nifer cynyddol o luniau fel hyn sydd yn dod yn haws i gael gafael arnyn nhw ac sy'n cael eu defnyddio gan rai fel Bridger.
"Mae'r achos hwn yn cryfhau'r dystiolaeth gynyddol fod yna gysylltiad pryderus rhwng edrych ar y math yma o luniau ofnadwy a chyflawni troseddau rhyw difrifol eraill.
'Mesurau effeithiol'
"Gobeithio y bydd marwolaeth April yn arwain at fesurau effeithiol i geisio mynd i'r afael â'r sefyllfa ffiaidd hon."
Er gwaethaf yr ymgyrch chwilio fwyaf yn hanes heddluoedd Prydain, nid yw corff April wedi cael ei ddarganfod.
Daeth y chwilio am y corff i ben ddiwedd mis Ebrill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2013
- Cyhoeddwyd30 Mai 2013