Bywyd heb April Jones

  • Cyhoeddwyd
April Jones
Disgrifiad o’r llun,

Aeth April Jones ar goll ym Machynlleth yn Hydref 2012

Mewn cyfweliad arbennig gyda BBC Cymru, mae rhieni April Jones, y ferch o Fachynlleth gafodd ei llofruddio yn 2012, yn dweud eu bod yn credu y dylid cynnig cymorth i bobl sydd yn credu y byddant yn camdrin plant yn rhywiol cyn iddyn nhw droseddu.

Mae nhw hefyd yn credu y dylai cwmniau cyflenwi'r rhyngrwyd wneud mwy i atal pobl rhag cael gafael ar ddelweddau anweddus o blant ar y we.

Am y tro cyntaf mae Coral a Paul Jones wedi gadael i gamerau ffilmio yn eu cartref er mwyn dangos realaeth eu bywyd ym Machynlleth heb April. Fe wnaeth achos ei diflaniad a'i llofruddiaeth gan y pedoffeil Mark Bridger benawdau newyddion ar hyd a lled y byd ar y pryd.

Atal yn well nag ymateb

Mewn rhaglen arbennig "Week In Week Out" ar BBC One Wales nos Iau, mae Paul Jones - sydd yn ymgyrchu gyda Coral Jones am ddedfrydau llymach i bedoffiliaid - yn credu fod atal problem yn well ateb nag ymateb ar ôl i drosedd ddigwydd.

Dywedodd wrth y rhaglen: "Dydw i ddim yn cytuno gyda phedoffiliaid o gwbl ond os oes ganddo chi amcan eich bod yn hoffi plant ac yna'n mynd i chwilio am gymorth ac wedi gofyn am gymorth ac rydych yn haeddu cyfle, ond os nad ydych chi yn gofyn am gymorth ac yna'n troseddu rydych yn bedoffeil ac fe ddylid eich cadw fel pedoffeil am weddill eich oes."

Yn ôl Alwyn Evans, cymydog a ffrind agos i'r teulu, mae dod i delerau gyda'r hyn ddigwyddodd i'r teulu yn mynd i fod yn anodd iawn. Dywedodd: "Mae'n gyfnod anodd wedi bod ac yn mynd i fod iddyn nhw. Mae'n rhywbeth dydyn nhw jyst ddim yn mynd i ddod drosto fo. Mae o yn mynd i fod hefo nhw am weddill eu bywyd. Tydi o ddim yn rhywbeth y gall rhywun ddod drosto mewn dwy neu dair blynedd.

"Mae beth ddigwyddodd y noson honno yn mynd i fod yn dal yn y cof dim jyst iddyn nhw ond i bawb ym Machynlleth", meddai.

Mark Bridger

Roedd Mark Bridger - sydd yn dad i chwech o blant - wedi bod yn edrych ar ddelweddau o gamdrin plant ar y we cyn cipio April wrth iddi chwarae ger ei chartref ar Stad Bryn y Gog yn y dref. Fe ysgogodd hyn ar ymchwiliad mwyaf erioed gan yr heddlu ym Mhrydain.

Mae Bridger wedi gwrthod dweud beth wnaeth i'r ferch bump oed ar ôl ei chipio. Cafwyd hyd i waed April a darnau o'i phenglog yn y lle tân yn ei fwthyn yng Ngheinws. Daeth enw April yn gysylltiedig â rhubannau pinc - arwydd o obaith yn ystod y cyfnod pan roedd pobl yn chwilio amdani.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teulu wedi brwydro i ymdopi gyda cholli April ers y digwyddiad

Chwaer April yn siarad

Mewn cyfweliad unigryw, mae Jazmin, chwaer hŷn April, yn siarad am anhawsterau a llwyddiannau'r teulu wrth geisio symud ymlaen o'r cyfnod anodd yma.

Yn ei chyfweliad cyntaf ar deledu, dywedodd y ferch 19 oed am y foment y sylweddolodd fod ei chwaer wedi mynd am byth. Dywedodd Jazmin: "Roeddwn i fel - OK - dydi hi ddim yn dod adre am ei bod wedi marw. Mae'n rhaid i mi edrych allan am fy nheulu rwan ac edrych ar ôl fy nheulu. Mae'n rhaid i mi fod yn gryf ar gyfer fy nheulu. Fedrai ddim eistedd a chrio drwy'r dydd pob dydd.

"Dydan ni ddim yn mynd i fod yn deulu perffaith sydd ddim yn dadlau, eistedd gyda'n gilydd a chrio gyda'n gilydd - fe wnaetho ni ffraeo llawer ac fe ddaeth hyn a ni yn agosach ac fe wnaeth ein helpu i alaru gyda'n gilydd.

"Un dydd fe fyddwn i'n hapus iawn ac fe fyddai dad yn drist iawn ac fe fydde ni'n ffraeo a gweiddi ar ein gilydd - fydde chi am daro rhywun neu rhywbeth dim ond er mwyn cael gwared o'ch dicter."

Disgrifiad o’r llun,

Mae chwaer April, Jazmin, yn dweud ei bod wedi gorfod aros yn gryf er mwyn y teulu, a'i brawd bach Harley

Dyddiaduron a llythyrau

Yn y rhaglen nos Iau mae Paul - sydd yn rhanol ddall - yn siarad am y dyddiaduron yr oedd wedi ei ysgrifennu yn ystod y cyfnod, ac am y llythyrau a ysgrifennodd i April.

Dechreuodd Paul a Coral ymgyrch amlwg iawn sydd wedi galluogi i fynd a'u dadleuon i Downing Street. Mae Coral yn disgrifio yn y rhaglen yr effaith y mae colli April wedi ei gael arni, a'r newidiadau dramatig sydd wedi dod yn sgîl y drychineb. Mae hi ofn gadael ei chartref ar adegau.

Dywedodd Coral: "Pan gafodd April ei dwyn oddi arnom ni yn gyntaf roedd yn ergyd fawr iawn i ni ac roeddwn yn treulio fy nyddiau fel hyn. Doeddwn i ddim am fynd i unlle na gwneud dim. Doeddwn i methu mynd allan. Doeddwn i methu cwrdd â phobl nag am adnabod neb. Felly fe wnes i aros yn y tŷ ar rai dyddiau ac rydw i'n dal i wneud hyn ddwy flynedd a hanner yn ddiweddarach".

Mae'r cwpwl yn cyhoeddi llyfr yr wythnos hon am eu profiad wrth iddyn nhw edrych i'r dyfodol heb April. Meddai Paul: "Diweddglo hapus i mi fyddai gweld y plant yn tyfu i fynny a bod yn hapus yna fe fyddwn yn hapus gyda hyn - os byddai Coral yn hapus. Os oes modd i ni arbed teuluoedd eraill rhag dioddefaint, plant rhag dioddef, yna fe fyddai'n teimlo ei fod yn werth chweil petai modd i ni eu stopio."

Bydd mwy am y stori hon ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ar ôl 8:00 fore Iau, ac fe fydd rhaglen Week in Week Out, 'Life After April', ar BBC One Wales am 21:00 nos Iau.

Ffynhonnell y llun, Medavia Ltds
Disgrifiad o’r llun,

Coral a Paul Jones ger bedd April