Carchar am oes i lofrudd April Jones
- Cyhoeddwyd
Mae Mark Bridger wedi ei ddedfrydu i garchar am oes am gipio a llofruddio April Jones.
Dywedodd y Barnwr Mr Ustus Griffith Williams yn Llys y Goron Yr Wyddgrug y byddai'n rhaid i Bridger, 46, dreulio ei oes gyfan o dan glo.
"Rydych chi yn gelwyddgi patholegol ac yn bidoffeil," meddai wrth ddedfrydu.
Ar ôl ystyried eu dyfarniad am bedair awr a chwe munud, penderfynodd y rheithgor fod Bridger hefyd yn euog o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder trwy guddio a chael gwared ar gorff y ferch bump oed yn anghyfreithlon.
Gwadu
Roedd wedi gwadu'r cyhuddiadau.
Aeth April ar goll ger ei chartref ym Machynlleth ar Hydref 1, 2012.
Ar ddiwedd yr achos fe ddaeth i'r amlwg bod Mark Bridger wedi dweud wrth offeiriad yn y carchar ei fod wedi taflu corff April Jones i afon.
Roedd y dystiolaeth yna yn destun dadlau cyfreithiol yn ystod yr achos, ac fe benderfynodd y barnwr na ellid defnyddio'r dystiolaeth.
Bu Bridger yn siarad gyda'r Tad Barry O'Sullivan tra'r oedd yn aros i sefyll ei brawf yng ngharchar Manceinion.
Ni ddywedwyd wrth y llys at ba afon yr oedd yn cyfeirio, ond credir mai'r Ddyfi ydoedd yn agos i'r lle y cafodd Bridger ei arestio.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr Mr Ustus Griffith Williams fod Bridger yn gelwyddgi ac yn bedoffeil.
Dywedodd fod Bridger wedi "mynd allan i chwilio am ferch fach" i'w cham-drin.
Roedd rhaid i rieni April Jones ddiodde' "cydymdeimlad rhagrithiol" Bridger am eu colled gan ychwanegu bod y troseddau yn waeth gan ei fod wedi bwriadu eu cyflawni o flaen llaw a'i fod wedi cael gwared ar gorff April.
Dagreuol
Roedd mam April, Coral Jones, yn edrych yn ddagreuol wrth i'r rheithgor gyflwyno eu dyfarniad ond roedd y ddau riant yn dawel trwy'r cyfan, gan sefyll ochr yn ochr.
Darllenwyd yn y llys ddatganiad Mrs Jones am yr effaith ar y teulu: "All geiriau'n unig ddim ddisgrifio'r hyn rydym yn ei deimlo neu sut rydym yn ymdopi'n ddyddiol a fyddwn ni ddim eisiau i unrhyw deulu arall fynd drwy'r hyn rydym wedi bod drwyddo ac yn parhau i fynd drwyddo weddill ein bywydau.
"Cafodd April ei geni'n gynnar, yn pwyso ond pedwar pwys dwy owns ac roedd hi mewn uned gofal dwys am bythefnos...Roedd April yn rheoli'n bywydau. Hi oedd yr ieuengaf ac oherwydd ei gwahanol anableddau roedd yn rhaid i ni ofalu amdani mewn rhyw ffordd drwy'r amser.
"Fe dorrais fy nghalon wrth ysgrifennu cardiau Nadolig gan feddwl a ddylwn i roi enw April arnynt. Yn y diwedd fe wnes i benderfynu rhoi rhuban pinc yn hytrach nag enw April fel symbol o'n gobaith am ein merch fendigedig."
"Wna' i fyth anghofio noson Hydref 1, 2012. Dyma'r noson y gwnaethon ni ganiatáu ein merch April i fynd allan i chwarae gyda'i ffrindiau, rhywbeth yr oedd wedi'i wneud ganwaith o'r blaen, a'r noson honno ddaeth hi ddim gartre'.
"Ers y noson honni, mae'r stad yn ddistaw, dyw plant ddim yn cael mynd allan i chwarae fel yr oeddan nhw bellach.
"Fel mam April, fe fyddaf yn teimlo'n euog am weddill fy oes fy mod wedi gadael iddi fynd allan i chwarae ar y stad y noson honno."
Roedd Bridger, 46 oed, wedi honni iddo daro yn erbyn April yn ddamweiniol gyda'i gar ac nad oedd yn cofio beth a wnaeth gyda'i chorff am ei fod wedi meddwi.
Ond gwrthod ei fersiwn ef o'r stori a wnaeth y rheithgor ar ôl ystyried eu dyfarniad am bedair awr a chwe munud.
Er gwaethaf yr ymgyrch chwilio fwyaf yn hanes heddluoedd Prydain, nid yw corff April wedi cael ei ddarganfod.
Daeth y chwilio am y corff i ben ddiwedd mis Ebrill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2013
- Cyhoeddwyd30 Mai 2013