Cwmni'n 'poeni yn fawr' am ddirgelwch cacennau ar yr A470

Un or cacennau gafodd eu darganfod ar ochr y ffordd.Ffynhonnell y llun, Paul Donnelly
  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni cacennau wedi dweud eu bod yn "poeni yn fawr" am adroddiadau bod eu cynnyrch yn cael eu gadael ar ochr ffordd brysur yn y gogledd ers misoedd.

Mae trigolion Dolwyddelan wedi dod o hyd i bob math o ddanteithion ar ochr yr A470, i gyd dal yn eu pecynnau plastig a gan yr un cwmni.

Dywedodd y cwmni, Margaret's Country Kitchen, eu bod yn gobeithio medru "olrhain" y cacennau trwy edrych ar rifau'r batsh.

Ymddangosodd y cacennau cyntaf tua diwedd 2024, a dywedodd rhai o bobl y pentref bod y sefyllfa yn un "od ofnadwy", a "ddim yn teimlo fel stỳnt hysbysebu".

Arwydd Dolwyddelan
Disgrifiad o’r llun,

Mae trigolion Dolwyddelan wedi bod yn darganfod y cacennau ers misoedd

Cafodd y cacennau eu gadael o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri, a dywedodd y cwmni, Margaret's Country Kitchen, eu bod yn poeni am yr effaith.

"Rydym yn poeni yn fawr am adroddiadau diweddar o'n cacennau ni yn cael eu taflu mewn ardaloedd hardd ar draws Cymru.

"Mae gweithredoedd o'r fath nid yn unig yn cyfrannu tuag at ddirywiad amgylcheddol, ond hefyd yn creu sbwriel yn ein cefn gwlad, difetha harddwch ein hymylon, ond hefyd ddim yn adlewyrchu'r gofal yr ydym yn ei roi ym mhob un o'n cynnyrch."

Aiff y datganiad yn ei flaen i ddweud eu bod wedi eu synnu ar driniaeth y cacennau.

"Cawsom ein synnu yn fawr o ddysgu'r byddai rhywun, sydd wedi prynu ein cacennau blasus, yn dewis eu trin yn y modd yma.

"Yn Margaret's Country Kitchen mae pob cacen wedi cael ei chrefftio'n ofalus, gyda'r cynhwysion gorau, a ryseitiau wedi'u profi, i sicrhau bod pob un yn brofiad cofiadwy."

'Ymchwilio i'r mater'

Ychwanegodd y llefarydd bod y cwmni'n ymchwilio.

"Rydym ar hyn o bryd yn gwneud ymchwiliadau, ac os ydy'r pecynnu yn dangos unrhyw rifau batsh, rydym yn bwriadu olrhain gwraidd y cynnyrch.

Ychwanegodd bod "rhaid i ni ofyn i'r taflwr cacennau ymatal", a'u bod yn "gofyn yn garedig i unrhyw gwsmer sydd eisiau cael gwared ar ein cynnyrch, unai i'w dychwelyd yn uniongyrchol i ni, neu i ddefnyddio gwasanaeth gwaredu gwastraff bwyd cydnabyddedig".

Pynciau cysylltiedig