Dringo mynyddoedd Eryri 'yn codi calon' ar ddydd Nadolig
- Cyhoeddwyd
Tra bod nifer yn agor anrhegion ac yn paratoi gwledd Nadoligaidd, mi fydd criw o gerddwyr yn treulio diwrnod Nadolig yn troedio llwybrau Eryri.
I David Glyn Jones o Fangor mae mynyddoedd y parc cenedlaethol yn cynnig mwy nag awyr iach iddo yn ystod cyfnod yr ŵyl.
"Ers colli mam fi, dwi ddim wedi hoffi'r Nadolig. Mae'n atgoffa fi o bwy sydd ddim yma," meddai.
Mae e bellach yn gwahodd eraill i ymuno ag ef, gyda'r nod o sicrhau nad yw unrhyw un yn treulio dydd Nadolig ar eu pen ei hunain.
Ers ei golled yn 2017, mae Mr Jones yn dweud bod cyfnod y Nadolig wedi bod yn "amser emosiynol" iddo.
"Yn aml mae'r Nadolig yn dy atgoffa o anwyliaid fydd byth yn eistedd o gwmpas y bwrdd eto," meddai.
Dywedodd Mr Jones fod ei iechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod y misoedd yn dilyn marwolaeth ei fam ond bod cerdded "wir wedi ei achub o'i amseroedd tywyllaf".
Ar ôl dringo'r Wyddfa am y tro cyntaf er cof am ei fam yn 2018, mae'r daith flynyddol wedi bod yn holl bwysig iddo.
Ag yntau bellach yn gymwys i arwain teithiau ar y mynydd, fe drefnodd David daith gerdded ar ddydd Nadolig am y tro cyntaf yn 2023, gyda 36 o bobl yn ymuno.
"Mae nifer o bobl mewn sefyllfaoedd tebyg, maen nhw wedi colli aelodau o'r teulu," meddai.
"Mae rhai heb deulu. Mae eraill heb ffrindiau."
Fel tad sengl sy'n rhannu gofal ei ferch gyda'i gyn-bartner, dyw dathliadau Nadolig Mr Jones ddim yn cychwyn tan ddiwrnod San Steffan.
"Mae Nadolig yn anodd os nad wyt ti gyda dy blentyn," ychwanegodd.
- Cyhoeddwyd26 Mai 2023
- Cyhoeddwyd10 Medi 2021
- Cyhoeddwyd9 Awst 2019
Eleni mae'n gobeithio helpu hyd yn oed mwy o bobl sy'n cael trafferthion emosiynol dros gyfnod y Nadolig.
Cynllun eleni ydy cerdded i gopa Elidir Fawr gyda Mr Jones yn pwysleisio bod y daith "ar agor i bawb".
"Mae'r daith yn hygyrch i bawb, bob oedran, ond mae angen cael lefel o ffitrwydd rhesymol," meddai.
Ar draws y ffin mi fydd teithiau tebyg yn cael eu cynnal gan Damon Cole a Steve Upton.
Y gobaith yw bod y teithiau tymhorol yn cynnig cwmni a lloches i nifer sy'n ei chael hi'n anodd.