Negeseuon Nadolig: Sylw i unigrwydd a heddwch byd

Archesgob CymruFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae mor bwysig gwrando ar bobl sydd wedi cael eu cam-drin, meddai Archesgob Cymru, Andrew John

  • Cyhoeddwyd

Yn ei neges Nadolig eleni mae'r Archesgob Andrew John yn canolbwyntio ar y rhai sy'n unig neu mewn galar.

Mae'r Nadolig yn ein hatgoffa fod Duw gyda ni ac yn cynnig gobaith hyd yn oed yn y lleoedd tywyllaf, medd Archesgob Cymru.

"Mae llwyth o bobl yn unig ac yn byw ar wahân ac y Nadolig hwn mae'r Eglwys yng Nghymru yn gofyn i bobl fod yn ymwybodol o hynny.

"Fy ngweddi yw na fydd neb yn teimlo yr anghofiwyd amdanynt Nadolig eleni ac y gall pawb ganfod cysur, heddwch ac addewid o ddyddiau gwell i ddod," meddai.

Wrth ymateb i drafferthion diweddaraf Eglwys Loegr dywed nad oedd am wneud sylw penodol ar y mater ond ei bod hi'n bwysig sicrhau bod yr "eglwys yn lle diogel".

"Rhaid i ni sicrhau nad yw ein plant ni yn dioddef yn y dyfodol ac mae mor bwysig gwrando ar bobl sydd wedi cael eu cam-drin," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y canhwyllau ym Methlehem yn 2021

Y goleuni sy'n cael prif sylw Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn eu neges Nadolig eleni.

"Mae'n hawdd colli gobaith wrth i ni wylio mewn arswyd yr ymladd parhaus yn y wlad lle cerddodd Iesu - yn enwedig y lladdfa o blant a phobl diniwed," medd Jeff Williams, llywydd yr undeb.

"Ond fe all y tywyllwch wneud y goleuni yn weladwy a rhaid sefyll yn erbyn y tywyllwch."

Neges debyg sydd gan Aneurin Owen, llywydd presennol Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac mae yntau hefyd yn deisyfu am heddwch wrth i ryfeloedd barhau yn Wcráin a'r Dwyrain Canol.

Ychwanegodd bod yr eglwys wedi bod yn cydweddïo gyda phobl o dalaith Manipur yng ngogledd ddwyrain India bob dydd Gwener ers rhai wythnosau wrth i'w thrigolion wynebu achosion cynyddol o erledigaeth a thrais.

Gofyn i bawb ymdawelu a gwrando ar gân yr angylion - cân o gariad, tangnefedd a chyfiawnder - mae Jennie Hurd, cadeirydd Synod Cymru y Methodistiaid tra bod Geraint Morse, llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru, yn galw ar bobl i gofio am wyrth y geni.

'Gair caredig neu alwad ffôn'

"Nid oes gan alar ac unigrwydd unrhyw atebion hawdd, dim llwybrau byr. Fodd bynnag, nid ydym heb obaith," ychwanega Archesgob Cymru.

"Gall y Nadolig, hyd yn oed yn ei symlrwydd, ein synnu gydag eiliadau o gysylltiad.

"Efallai ei fod i'w gael mewn gair caredig gan ddieithryn, galwad ffôn gyda hen ffrind, neu'r llawenydd o estyn allan at rywun sydd angen gwybod eu bod yn cael eu cofio.

"Mae Cristnogion yn gweld genedigaeth Iesu fel ffordd i Dduw ddod yn agos atom yn ein mannau tywyllaf.

"Mae'r plentyn hwnnw yn y preseb yn arwydd y gall llawenydd fod hyd yn oed mewn unigrwydd.

"Y Nadolig hwn, fe'ch gwahoddaf i ddarganfod yr arwyddion hynny sy'n dod â goleuni a bywyd."

Pynciau cysylltiedig