Croeso i ardal Eisteddfod yr Urdd 2024

Disgrifiad,

Disgyblion Ysgol Pontrobert sy'n ein tywys o amgylch ardal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2024

  • Cyhoeddwyd

Llai na thair milltir o Faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni ym Maldwyn, mae pentref Pontrobert.

Pentref bychain ond sydd â phersonoliaeth fawr yn yr ysgol gynradd yno.

Mae 67 o blant wedi bod yn brysur yn creu arwyddion a phosteri i groesawu pobl i ardal Eisteddfod yr Urdd eleni.

Yn ogystal â'u dawn greadigol ac artistig, mae rhai o ddisgyblion yr ysgol hefyd wedi rhoi cyflwyniad o'u hardal a'i hanes.

Gwyliwch y fideo uchod i ddysgu mwy am Bontrobert a pham fod hanes y pentref mor bwysig i Fro Eisteddfod yr Urdd eleni.

Bydd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn yn cael ei gynnal ar fferm Mathrafal rhwng 27 Mai ac 1 Mehefin, 2024, gyda'r disgwyl y bydd 90,000 o ymwelwyr yn ymweld.

Hefyd o Ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig