Tregaroc: Dathlu'r 10 a'r llwyddiant
- Cyhoeddwyd
Wrth i Tregaroc ddathlu ei phen-blwydd yn ddeg oed dywed y trefnwyr na fydden nhw wedi dychmygu’r fath lwyddiant wrth sefydlu’r ŵyl ddegawd yn ôl.
Pump o ferched ddechreuodd y digwyddiad yn Nhregaron nôl yn 2014 a hynny mewn cyfnod anodd i’r dref.
Erbyn heddiw mae wedi dod yn rhan bwysig o’r calendr i drigolion y dref a Cheredigion, gyda thocynnau i'r gig gyda'r nos eleni yn gwerthu allan mewn hanner awr.
Amser anodd yn 2014
Yn ôl un o sylfaenwyr yr ŵyl, sy’n un o’r chwech o ferched sy'n trefnu erbyn heddiw, fe ddaeth y criw at ei gilydd i geisio rhoi hwb i’r dref yn 2014.
Dywedodd Ffion Medi Lewis-Hughes ar raglen Ifan Jones Evans ar Radio Cymru: “Roedd hi’n amser anodd ar y pryd.
"Roedd yr ardal a’r dref ei hunan yn wynebu lot o doriadau, colli’r chweched, y llyfrgell ac ati felly roedd hi’n rili anodd ac o’n ni’n teimlo bod angen rhywbeth i ddenu pobl nôl i’r dref a'n bod ni’n rhoi Tregaron ar y map.
“Roedd ‘na gyfle i gael pobl i ddod i weld beth sydd yma ac i gefnogi’r economi lleol, rhoi hwb i’r economi.
"O fanna daeth y sbardun cynta’ - a hefyd cyfle i fwynhau'r holl gerddoriaeth Gymraeg arbennig sydd gyda ni yng Nghymru, a rhoi llwyfan i artistiaid ifanc newydd lleol.”
Dros y blynyddoedd mae nifer o brif artistiaid Cymru wedi perfformio yn Tregaroc gan gynnwys Candelas, Yws Gwynedd, Eden, Elin Fflur, Dafydd Iwan, Cowbois Rhos Botwnnog a Tara Bandito.
Eleni, ar 18 Mai, enillydd Cân i Gymru 2024 a’r athrawes leol Sara Davies fydd yn agor yr ŵyl gyda pherfformiad ar y sgwâr o’i chân fuddugol Ti.
Eleni mae’r artistiaid yn cynnwys Mynediad am Ddim, Doreen Lewis a‘r Band, Huw Chiswell, Morgan Elwy a Ryland Teifi.
Mae'r adloniant rhwng 13:00-1900 am ddim ar y Sgwâr ac yn y Clwb Bowlio.
Fe gafodd holl docynnau’r gig gyda’r nos yn y Babell Fawr, lle fydd Ynys a Bwncath yn chwarae, eu gwerthu o fewn hanner awr iddyn nhw fynd ar werth fis Mawrth.
Yn ôl Ms Lewis-Hughes mae’r ŵyl wedi tyfu dros y blynyddoedd ac yn rhan bwysig o galendr yr ardal erbyn hyn.
Meddai: “Pan chi’n cynnal rhywbeth am y tro cyntaf mae pobl yn cwestiynu a rhai pobl sydd ddim yn deall, ac wedyn ar ôl y flwyddyn gynta’ a gweld fel na'th y dref drawsnewid gyda’r gerddoriaeth yma trwydde fe roedd e’n anhygoel ac mae pawb wedi dal y byg mas o’r peth.
“Mae pobl nawr yn dod 'nôl i Dregaron yn uniongyrchol adeg Tregaroc er mwyn cael eu haduniad ysgol neu aduniad o griw ffrindiau sydd wedi symud i ffwrdd.
"Ond o'n i byth yn dychmygu bydde’r ŵyl wedi tyfu fel mae e wedi ond ma' fe’n wir yn wych o beth i weld a ni’n ymfalchïo yn fawr yn y ffaith bod yr ŵyl fach yma yng nghanol Ceredigion wedi tyfu i fod yn rhywbeth mor mor boblogaidd ac yn un sy’n denu bandiau gwych.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2022