Carchar yn methu delio â llif 'brawychus' cyffuriau - adroddiad damniol

- Cyhoeddwyd
Mae carchar yng Nghymru'n methu â mynd i'r afael â llif "brawychus" o gyffuriau sydd wedi "arwain at gyfres o farwolaethau trasig", yn ôl adroddiad damniol.
Daeth archwiliad yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Ionawr i'r casgliad fod cyffuriau'n hawdd eu cael a bod defnydd ohonyn nhw yn eang - nodwyd eu bod yn cael eu danfon i ffenestri celloedd gan ddronau.
Mae 17 o garcharorion wedi marw yn y carchar yn 2024, mwy nag unrhyw un arall yn y DU.
Mae'r Prif Arolygydd Carchardai wedi disgrifio'r archwiliad fel un "hynod siomedig", ar ôl i'r carchar gael ei ddisgrifio fel un o'r mwyaf llwyddiannus yn y gorffennol.
Dywedodd llefarydd ar ran Carchar Parc fod "gwelliannau sylweddol" yn cael eu gwneud.
Dronau'n danfon cyffuriau
Dywedodd y prif arolygydd Charlie Taylor fod cyffuriau'n "llifo i mewn i'r carchar", gyda thros 30% o garcharorion a wnaeth yr arolwg yn dweud eu bod wedi datblygu problem gyda chyffuriau ers bod yno.
Mae cyffuriau'n "broblem enfawr" yn y carchar, meddai, gyda dronau'n gallu danfon parseli "yn sydyn iawn".
Er nad yw'n unigryw yn hynny, dywedodd ei fod yn cael "effaith o ansefydlogi".
Yn ôl yr adroddiad mae gwaith i osod ffenestri fyddai'n atal dronau wedi dechrau'n ddiweddar, ond nid oes rhagor o gyfleusterau diogelwch wrth y brif fynedfa.
Ychwanegodd Mr Taylor bod y math o gyffuriau sy'n cyrraedd y carchar yn bryder, yn eu plith opioidau synthetig - a allai fod yn gysylltiedig â'r marwolaethau, meddai.

Roedd cyffuriau'n haws eu cael ym mhrif adrannau'r carchar, gyda 70% o garcharorion yn dweud ei fod yn hawdd cael cyffuriau anghyfreithlon.
Dywedodd yr adroddiad bod wyth o'r marwolaethau yn 2024 wedi digwydd rhwng Chwefror a Mai - gydag effaith fawr ar garcharorion, staff ac arweinwyr.
Cafodd y cyfnod ei ddisgrifio fel un "trawmatig iawn i bawb" gan un aelod o staff.
Nid oedd staff y carchar wedi cael gwybod am yr archwiliad ymlaen llaw.
Dywedodd yr adroddiad bod y carchar wedi profi "dwy flynedd o ansefydlogrwydd", gan ddweud bod gwraidd y problemau'n deillio o gytundeb rheoli newydd y carchar gyda chwmni preifat G4S, ac ymadawiad cyn-gyfarwyddwr.
Fe adawodd y cyn-gyfarwyddwr, Janet Wallsgrove yn Awst 2023 ar ôl 17 o flynyddoedd. Roedd y cyfarwyddwr interim a ddaeth yn ei lle yno am lai na blwyddyn.
Dywedodd yr adroddiad nad oedd y cyfarwyddwr interim a thîm rheoli yn gallu delio gyda'r problemau oedd yn eu hwynebu.
54% wedi teimlo'n anniogel
Roedd 1,700 o garcharorion adeg yr archwiliad, gyda 225 yn cyrraedd bob mis ar gyfartaledd, meddai Mr Taylor.
Dywedodd bod y sefyllfa'n dangos bod carchardai yn llefydd "bregus", a bod pethau'n gallu "mynd o chwith yn sydyn" pan aiff pethau o'i le.
"Trwy golli cyfarwyddwr a dirprwy gyfarwyddwr cryf iawn, cafodd hynny effaith fawr, a hefyd y newidiadau i'r cytundeb a'r broblem recriwtio yn ardal Pen-y-bont, a thaflu cyffuriau i mewn i'r carchar ac yn sydyn fe gewch chi garchar oedd wedi bod yn llwyddiannus yn ansefydlogi yn gyflym."
Yn ôl yr arolwg o garcharorion:
Roedd 54% wedi teimlo'n anniogel yn ystod eu hamser yn y carchar, sy'n waeth na charchardai tebyg;
Roedd 41% wedi cael eu bwlio neu eu targedu gan garcharorion eraill;
Roedd 44% wedi cael eu bwlio gan staff.
Dywedodd yr adroddiad bod G4S wedi "methu â chadw'r safonau uchel" oedd yn arfer bodoli yng Ngharchar Parc, gyda Mr Taylor yn dweud nad oedden nhw'n cyflawni eu cytundeb.
Dywedodd bod "anhrefn" gyda pobl dan ddylanwad cyffuriau, pobl yn eu gwerthu, a phobl yn defnyddio trais i dalu dyledion.
Ychwanegodd nad yw'r system gosbi o fewn y carchar yn gweithio, sy'n "anfon neges" i garcharorion nad oes canlyniadau i gamymddwyn.
Roedd yr archwiliad hefyd wedi canfod methiant i roi gwaith neu hyfforddiant i garcharorion, fel bod rhai yn eu celloedd am 21 awr y dydd.
- Cyhoeddwyd2 Ebrill
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd30 Mai 2024
- Cyhoeddwyd2 Mai 2024
Ymhlith y pryderon eraill oedd:
Lefelau uchel o ddigwyddiadau treisgar;
Lefelau uchel o hunan-niweidio a diffyg mesurau i wella;
Dim digon o wasanaethau iechyd meddwl a dibyniaeth;
Nad oedd bwyd bob tro'n addas, ac nad oedd digon o ffrwythau a llysiau ar gael.
O ran yr elfennau positif, fe wnaeth yr archwiliad ganmol ymgyrch i ddefnyddio technoleg i ganfod cyffuriau ar y cyd â Phrifysgol Caerfaddon, a hefyd cynllun i helpu carcharorion ar fin cael eu rhyddhau i sefydlu busnes os oeddent yn gallu cyflwyno eu hachos i banel.
Dywedodd hefyd bod cyfarwyddwr newydd a ddechreuodd ym Mehefin 2024, wedi rhoi cynllun ar waith i daclo'r methiannau ac atal marwolaethau.
Dywedodd G4S bod rhagor o adnoddau i wella diogelwch bellach ar gael, a bod lleihau trais yn flaenoriaeth.
'Gweithio ar gynllun cynhwysfawr'
Dywedodd llefarydd ar ran Carchar Parc: "Roedd chwe mis cyntaf 2024 yn heriol iawn, ac mae ein meddyliau'n parhau gyda theuluoedd y dynion fu farw.
"Ers hynny mae gwaith wedi'i gwblhau i wneud gwelliannau sylweddol i'r carchar.
"Rydym yn falch bod y Prif Arolygydd Carchardai yn cydnabod ein gwelliannau a'r datblygiadau positif wrth daclo trais, hunan-niweidio a'r defnydd o rym.
"Rydym yn benderfynol o sicrhau bod y dynion yn ein gofal yn ddiogel, yn derbyn cefnogaeth ac yn teimlo'n bositif am eu dyfodol.
"Rydym yn gweithio ar gynllun cynhwysfawr i wella gwasanaethau Carchar Parc unwaith eto, sy'n cynnwys holl argymhellion y Prif Arolygydd Carchardai."