Gwrthdrawiad Sir Benfro: Agor cwest i farwolaethau dau ddyn ifanc

Aled Coleman (chwith) ac Aled Bowen (dde) Ffynhonnell y llun, Lluniau Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Aled Coleman (chwith) ac Aled Bowen (dde) yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng Hwlffordd ac Abergwaun ar 14 Medi

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi agor i farwolaethau dau ddyn ifanc mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro ym mis Medi.

Roedd Aled Osian Bowen, 18, o Drecŵn, Hwlffordd ac Aled William Coleman, 23, o Abergwaun, Sir Benfro, yn teithio ar hyd yr A40 rhwng Hwlffordd ac Abergwaun pan fuon nhw mewn gwrthdrawiad un cerbyd.

Wrth ddarllen yr adroddiadau agoriadol, dywedodd Swyddog Crwner Sir Benfro, Roger Smith, fod Mr Bowen yn gogydd a bod Mr Coleman yn ddi-waith.

Roedd y ddau yn teithio mewn car Volkswagen Polo i gyfeiriad y gogledd rhwng Hwlffordd tuag at Gas-blaidd ar 14 Medi pan fu'r car yr oedden nhw'n teithio ynddo mewn gwrthdrawiad tua 03:13.

Cafodd y ddau ddyn anafiadau difrifol.

Dangosodd canlyniadau archwiliad post mortem fod Mr Bowen wedi marw o anafiadau trawmatig niferus, ynghyd â damwain ffordd.

Roedd archwiliad post mortem Mr Coleman yn dangos iddo farw o anaf difrifol i'r pen, a damwain ffordd.

Blodau ar safle gwrthdrawiad a laddodd Aled Coleman ac Aled Bowen ar yr A40 rhwng Hwlffordd ac Abergwaun
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd blodau eu gadael ger safle'r gwrthdrawiad ym mis Medi

Wrth roi teyrngedau, dywedodd teulu Aled Bowen eu bod "wedi'n llorio" ar ôl colli "mab annwyl, brawd ac ewythr ymroddedig, a ffynhonnell o gariad a nerth i bawb a oedd yn ddigon ffodus i'w adnabod".

Dywedodd teulu Aled Coleman ei fod yn berson "gofalgar, caredig a llawn hwyl, fydd yn cael ei golli'n fawr gan ei deulu cyfan".

Estynnodd Uwch Grwner Sir Gaerfyrddin a Phenfro Gareth Lewis ei gydymdeimladau dwysaf â theulu'r ddau.

Cafodd y cwest ei agor a'i ohirio am tua chwe mis wrth i ymchwiliadau'r heddlu barhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig