Plaid Cymru'n addo gwersi nofio am ddim i blant os mewn grym

Yn ôl Nofio Cymru, mae llai na 35% o blant rhwng saith ac 11 oed yn gallu nofio 25 metr heb gymorth
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru'n addo sicrhau y bydd holl blant ysgolion cynradd Cymru yn cael gwersi nofio am ddim os ydy'r blaid yn ennill yr etholiad i Senedd Cymru y flwyddyn nesaf.
Byddai'r polisi yn darparu 20 o wersi nofio a diogelwch dŵr ar gyfer pob disgybl yn ystod blynyddoedd 4 a 5.
Dywedodd y blaid y byddai'r polisi'n costio £4.4m y flwyddyn.
Maen nhw hefyd yn dweud bod diffyg cyllid yn cyfyngu ar beth all ysgolion ei gynnig ar hyn o bryd, ac felly byddai'r blaid yn neilltuo arian ar gyfer gwersi nofio.
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2024
Yn ôl corff llywodraethu cenedlaethol y gamp, Nofio Cymru, mae "llai na 35% o blant rhwng saith ac 11 oed yn gallu nofio 25 metr heb gymorth yng Nghymru".
Maen nhw'n credu y dylai rhieni eisoes fod yn "disgwyl" i'w plant fynychu gwersi nofio gyda'r ysgol rhyw ben yn ystod eu hamser yn yr ysgol gynradd.
Ond gall "yr union gyfleoedd" amrywio yn dibynnu ar yr awdurdod lleol a'r ysgol unigol, meddai'r corff.
Wrth roi tystiolaeth i un o bwyllgorau Senedd Cymru yn 2023, dywedodd prif weithredwr Nofio Cymru Fergus Feeney mai dim ond 50% o'r 1,600 o ysgolion cynradd yng Nghymru oedd yn ymwneud â nofio, wrth iddo rybuddio y gallai'r gamp gael ei gyfyngu i "blant gwyn dosbarth canol" yn unig.

Mae Nofio Cymru'n dweud bod "yr union gyfleoedd" o ran gwersi nofio yn amrywio o le i le
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar ddiwylliant, y cyfryngau a hamdden, Heledd Fychan, y byddai'r polisi "sydd wedi ei gostio'n llawn" yn "dysgu pob plentyn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i fwynhau treulio amser yn y dŵr ac wrth y dŵr yn ddiogel".
"Trwy roi cyfle i blant ddysgu nofio, byddwn hefyd yn annog plant i fod yn iachach – sydd i gyd yn rhan o'n hymrwymiad i agenda newydd a thrawsnewidiol ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru," ychwanegodd.
Yn ôl y Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol roedd 18 o farwolaethau'n ymwneud â dŵr yng Nghymru yn 2024, gyda chyfradd y digwyddiadau o foddi damweiniol yng Nghymru ddwbl y ffigwr ar gyfer y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.
"Mae addysgu ein pobl ifanc sut i nofio a bod yn ddiogel yn y dŵr ac o amgylch y dŵr yn angenrheidiol, nid yn braf i'w gael," meddai Ms Fychan.
'Y genedl gyntaf yn y DU'
Mae Fergus Feeney yn croesawu'r polisi, gan ddweud: "Heb weithredu brys, gallai degau o filoedd o blant Cymru bob blwyddyn adael yr ysgol gynradd heb allu cadw'n ddiogel yn, ar, neu o amgylch y dŵr.
"Trwy gael cynnig nofio ysgol gyffredinol, gallwn sicrhau bod plant Cymru o bob cefndir yn cael yr un cyfle i ennill sgil bywyd, i ddatblygu eu hyder a dechrau ar eu taith o weithgarwch corfforol gydol oes.
"Byddai hyn yn golygu mai Cymru fyddai'r genedl gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael rhaglen genedlaethol o'r arwyddocâd hwn ar waith."
Yn gynharach eleni fe wnaeth pwyllgor diwylliant y Senedd alw ar y llywodraeth i ddatblygu strategaeth "i sicrhau bod plant sy'n gadael yr ysgol gynradd yn gallu nofio".
Wrth ymateb ar y pryd dywedodd y gweinidog diwylliant Jack Sargeant ei fod yn cytuno gyda "bwriad yr argymhelliad", ond ychwanegodd bod yn "rhaid i ni fod yn ystyrlon o'r pwysau ariannol y byddai'r argymhelliad yn ei olygu ar gyfer ysgolion".
Eglurodd hefyd bod y "canllawiau statudol" o fewn y cwricwlwm yn cynnwys canllaw bod disgyblion yn gwneud amrywiaeth o weithgareddau corfforol, gan gynnwys mewn dŵr.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.