Mwy o heddlu yn ardal Llanddwyn i atal ymddygiad anghyfreithlon

Traeth LlanddwynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae traeth Llanddwyn yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd Môn

  • Cyhoeddwyd

Bydd rhagor o swyddogion heddlu yn ardal traeth poblogaidd ar Ynys Môn y penwythnos hwn er mwyn ceisio atal gwahanol fathau o ymddygiad anghyfreithlon.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eu bod yn gweithio gyda Heddlu'r Gogledd i gadw golwg ar draeth Llanddwyn a'r warchodfa natur gyfagos er mwyn sicrhau nad oes achosion o wersylla a chynnau tannau sydd yn erbyn y gyfraith.

Bydd traffig hefyd yn cael ei reoli yng Nghoedwig Niwbwrch a bydd y maes parcio yn cau unwaith y bydd yn llawn - gyda disgwyl i hynny ddigwydd cyn 10:00.

Mae CNC wedi gofyn i ymwelwyr ystyried ymweld ag "un o draethau neu leoliadau poblogaidd eraill yr ynys".

Daw'r cam ar ôl i lawer o drigolion lleol fygwth protestio yn sgil pryderon am effaith y tagfeydd ar eu bywydau.

Fe gadarnhaodd CNC hefyd na fyddai'r maes parcio yn ailagor tan yn hwyrach yn y prynhawn, hyd yn oed os oes llefydd gwag ar gael.

"Y nod yw lleihau tagfeydd, sicrhau bod y traffig yn llifo ac atal pobl rhag parcio ym mhentref Niwbwrch wrth iddyn nhw aros am lefydd gwag," meddai'r corff.

'Angen cydbwysedd'

Dywedodd Dylan Williams, rheolwr gweithrediadau CNC ar gyfer gogledd orllewin Cymru, ei fod yn disgwyl nifer fawr o ymwelwyr i'r ardal dros benwythnos Gŵyl y Banc.

"Ar ôl cyfnod o dywydd eithriadol o sych, dim ond un sbarc sydd ei angen i gynnau tan fyddai'n gallu dinistrio bywyd gwyllt a chymunedau yn ogystal â rhoi pwysau ychwanegol ar ein gwasanaethau brys," meddai.

"Rydyn ni hefyd eisiau atgoffa ymwelwyr nad oes caniatâd i bobl aros dros nos.

"Mae'r safle yn gartref i rai o gynefinoedd mwyaf gwerthfawr Cymru, sy'n cefnogi ystod eang o fywyd gwyllt prin. Mae'n rhaid i ni gael cydbwysedd rhwng hawl pobl i fwynhau eu hunain yn yr awyr agored, a'n cyfrifoldeb ni wrth barchu a gofalu am gymunedau lleol.

"Mae'r mwyafrif helaeth o bobl sy'n ymweld â'r ardal yn ymddwyn yn gyfrifol, a hoffem ddiolch iddyn nhw am chwarae eu rhan. Gobeithio y bydd hynny yn parhau dros benwythnos Gŵyl y Banc."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig