Codi prisiau parcio i geisio lleddfu traffig ger traeth Llanddwyn

Mae trigolion Niwbwrch wedi mynegi eu rhwystredigaeth nad oes digon yn cael ei wneud i leddfu'r problemau traffig
- Cyhoeddwyd
Bydd ymwelwyr â Choedwig Niwbwrch ar Ynys Môn yn gorfod talu rhagor am barcio, wrth i asiantaethau geisio rheoli problemau traffig yn yr ardal.
Mae llawer o drigolion lleol yn anfodlon gyda thagfeydd trwm sy'n cael eu hachosi gan geir sy'n mynd i draeth Llanddwyn a'r warchodfa natur gyfagos.
Bydd costau parcio yn safleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn codi i hyd at £15 y dydd o ddydd Gwener ymlaen.
Mae'r asiantaeth yn dweud y bydd hyn yn gwarchod bywyd gwyllt, gwella profiad ymwelwyr yn ogystal â lleddfu tagfeydd yn y pentref.
Bydd arbrawf yn digwydd dros benwythnos Gŵyl Banc hefyd, gyda'r maeysydd parcio yn cau unwaith y byddan nhw'n llawn a dim mynediad i geir newydd tan ar ôl 16:30.

Mae traeth Llanddwyn yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd Môn
Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal ddechrau'r mis ynglŷn â'r trafferthion traffig, ac roedd protest rai dyddiau'n ddiweddarach.
Dywedodd rhai trigolion eu bod ofn gadael eu cartrefi ar adegau, gydag eraill yn rhwystredig nad oes digon yn cael ei wneud i leddfu'r problemau.
Bydd y drefn barcio newydd yn dod i rym ddydd Gwener gan gychwyn ar £5 am ddwy awr ac yna 70c am bob 20 munud hyd at £15.

Mae'r Cynghorydd John Ifan Jones yn falch bod trefn barcio newydd yn cael ei chyflwyno
Mae'r cynghorydd lleol John Ifan Jones yn croesawu'r datblygiad, ond yn dweud ei bod hi'n "falans anodd" rhwng croesawu ymwelwyr a rheoli traffig.
"Dwi'n falch bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dod at y bwrdd a thrafod efo ni i geisio datrys pethau yn y tymor byr a'r tymor hir," meddai.
"Mi fydd 'na wybodaeth i ymwelwyr am lefydd eraill yn yr ardal y gallan nhw ymweld â nhw ddim yn rhy bell i ffwrdd - Llyn Parc Mawr, Aberffraw, Rhosneigr, Bae Trearddur.
"Mae o'n fater o lefelu'r twristiaeth ar hyd yr arfordir.
"Yn y tymor hir, dwi'n meddwl bod rhaid i ni gael system parcio a theithio yn y pentre' er mwyn cefnogi busnesau, a wedyn bod ymwelwyr yn gallu cerdded a beicio i'r goedwig."
Fideo yn dangos y math o drafferthion sy'n cael eu gweld yn aml ar ffyrdd Niwbwrch
Mae Coedwig Niwbwrch ac yn Ynys Llanddwyn y denu degau o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn.
Yn gartref i'r wiwer goch, mae'r goedwig yn un o warchodfeydd natur cyntaf Prydain ac yn cael ei rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedodd Richard Berry o CNC: "Mae'r strwythur prisio newydd yn adlewyrchu strwythur parcio traethau eraill ar Ynys Môn er mwyn sicrhau bod y safle yn gyson ag ardaloedd eraill.
"Hoffem roi sicrwydd i drigolion nad yw'r newidiadau hyn yn effeithio ar docynnau am ddim, Bathodynnau Glas, tocynnau gostyngol a thymhorol."

Fe fydd arbrawf ar gau'r maes parcio unwaith mae'n llawn
Bu'n esbonio mwy hefyd am yr arbrawf fydd yn cael ei gynnal, fydd yn gweld y maes parcio yn cau pan fydd yn llawn.
"Bydd y treial yn atal cerbydau rhag mynd i mewn i'r safle unwaith y bydd y maes parcio yn llawn - mae hyn yn digwydd fel arfer ar ôl 11:00 neu'n gynt yn ystod gwyliau'r banc, penwythnosau a chyfnodau o dywydd da," meddai.
"Rydym yn gofyn i ymwelwyr ystyried ymweld ar adegau tawelach neu fynd draw i un o'r nifer o draethau a chyrchfannau eraill ar Ynys Môn."
Mae system mewn lle sy'n adnabod rhifau cofrestru cerbydau wrth iddyn nhw fynd i mewn, ac mae cwsmeriaid yn talu gyda cherdyn wrth adael.
Dywedodd Cyngor Ynys Môn y byddan nhw'n gorfodi'r rheolau parcio sydd eisoes mewn grym yn y pentref ar ardal ehangach dros benwythnos Gŵyl y Banc.
Maen nhw hefyd yn gofyn am gymorth cyhoedd trwy barcio cyfrifol a diogel sy'n ystyriol o'r gymuned leol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd17 Awst 2024