Môn: Cyfarfod cyhoeddus i drafod 'problem traffic annioddefol' Niwbwrch

Disgrifiad,

Fideo yn dangos y math o drafferthion sy'n cael eu gweld yn aml ar ffyrdd Niwbwrch

  • Cyhoeddwyd

Daeth dros 40 o bobl i gyfarfod cyhoeddus ar Ynys Môn nos Iau i drafod problemau traffig ym mhentref Niwbwrch.

Mae llawer o drigolion lleol yn anfodlon gyda thagfeydd trwm sy'n cael eu hachosi gan ymwelwyr sy'n mynd i draeth Llanddwyn a'r warchodfa natur gyfagos.

Dywedodd rhai eu bod ofn gadael eu cartrefi rai dyddiau gydag eraill yn rhwystredig nad oes digon yn cael ei wneud i leddfu'r problemau.

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Ynys Môn eu bod yn ceisio dod o hyd i ateb hir dymor i'r problemau.

Heather Savage
Disgrifiad o’r llun,

"Bob blwyddyn mae'n mynd yn waeth," meddai Heather Savage

Roedd Heather Savage yn un o'r trigolion aeth i'r cyfarfod ac mae'n dweud bod y sefyllfa'n "ofnadwy".

"Fedrwch chi'm symud. Fedrwch chi'm mynd un ffordd, does 'na'm byd yn gweithio. Mae'r lôn just yn clogio fyny."

"Bob blwyddyn mae'n mynd yn waeth. A bob blwyddyn mae nhw'n deud bod nhw'n mynd i wneud rhywbeth adeg yma o'r flwyddyn a does 'na ddim byd yn digwydd. 'Den nhw byth yn gwneud dim byd."

Geraint Thomas
Disgrifiad o’r llun,

"Ella bod angen protest i gael yr awdurdodau i ymateb," meddai Geraint Thomas

Un arall oedd yn y cyfarfod oedd Geraint Thomas a ddywedodd bod pethau wedi gwaethygu yn bum mlynedd ddiwethaf.

"Am bod y criwiau ffilmio o dros y byd wedi bod yma mae Llanddwyn yn le poblogaidd iawn. Mae o wedi mynd on ac on ers blynyddoedd a does 'na ddim byd wedi cael ei wneud."

"Mae pobl Niwbwrch yn dechrau colli amynedd. Mae hi'n lockdown, neb yn gallu pasio. Mae pedair ffordd am Llanddwyn yn dod at ei gilydd yn Niwbwrch. Mae'n dechrau bod yn road rage a pobl yn dechrau cega. Mynd yn fler wneith hi yn diwedd.

"Pan mae'r ambiwlans neu'r gwasaaneth tân isio dod i lawr fydd gennyn nhw ddim chance. Ella bod angen protest i gael yr awdurdodau i ymateb."

John Ifans
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd John Ifan Jones: "Nid protestio yn erbyn twristaeth yn yr ardal yden ni. Protestio am bod genno ddim y seilwaith mewn lle i ddelio efo llif y traffig"

Un o'r rhai a helpodd i drefnu'r cyfarfod cyhoeddus oedd y Cynghorydd John Ifan Jones.

"Nid protestio yn erbyn twristaeth yn yr ardal yden ni. Protestio am bod genno ddim y seilwaith mewn lle i ddelio efo llif y traffic," meddai.

"'Den ni'n byw efo system rheoli traffig sydd efo ni ers bum mlynedd, ers Covid, a mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n deud mai system dros dro ydy hynny.

"Mae'n bwysig bod pobl yn medru mynd i'r gwaith yn y bore, mynd i'r siop os ydyn nhw angen a ddylen nhw ddim gorfod cynllunio eu bywyd o amgylch tagfa llwyr yn y pentref.

"Dwi'n gobeithio y bydd 'na dipyn bach o brotest yn y dyddiau nesaf ac mae dyddiad hwnna i gael ei drefnu. A dwi'n gobeithio bod y cyfarfod yma heno yn gam ymlaen at gael datrysiad hir dymor."

Cyfarfod
Disgrifiad o’r llun,

Y cyfarfod cyhoeddus yn Llanddwyn nos Iau

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym yn deall ac yn gwerthfawrogi rhwystredigaeth cymuned Niwbwrch.

"Rydym wedi cyflwyno system rheoli traffig well yn ystod oriau brig i helpu i reoli tagfeydd a sicrhau bod traffig a cherbydau brys yn gallu llifo'n rhydd bob amser, ac i leihau'r effeithiau ar bobl leol.

"Cytunwyd hyn ar y cyd â Chyngor Sir Ynys Môn ac ar ôl cyfarfod ag aelodau etholedig.

"Bydd staff ychwanegol hefyd yn y pentref yn ystod oriau brig i ddarparu cefnogaeth."

Traffig

Ychwanegodd: "Mae'r sefyllfa rheoli traffig a mynediad yn Niwbwrch yn gymhleth iawn - nid oes un ateb yn unig ar ei gyfer, a dyna pam rydyn ni'n mabwysiadu dull cydweithredol.

"Gyda'n partneriaid, rydym yn edrych ar atebion tymor hir ac rydym wedi datblygu cynllun i weithredu ac archwilio atebion posibl, ynghyd ag unrhyw opsiynau cyllido a allai fod ar gael. Yn y tymor hir, gwyddwn fod angen symud traffig i ffwrdd o Stryd yr Eglwys, ond nid yw dod o hyd i'r ateb cywir yn broses gyflym.

"Byddwn yn treialu rhai atebion eleni, gan gynnwys gosod arwyddion gyda negeseuon electronig amrywiol i rybuddio modurwyr, ymhellach o'r pentref, fod meysydd parcio ar gau, ynghyd â nifer o ddatrysiadau parcio fel system barcio ategol mewn mannau o amgylch pentref Niwbwrch, a gweld a yw system parcio a theithio rhwng y meysydd parcio ategol hyn a'r traeth yn hyfyw."

Arwyddion

Dywedodd Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Cyngor Sir Ynys Môn, Huw Percy: "Mae'r Cyngor Sir yn cydnabod bod Llanddwyn a Choedwig Niwbwrch wedi dod yn gyrchfan hynod o boblogaidd ac yn ymwybodol o'r effeithiau negyddol y mae hyn yn ei gael ar y gymuned leol.

"Rydym yn parhau i gefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru, fel rheolwyr safle Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch, i ehangu'r ddarpariaeth parcio dros fisoedd yr haf. Rydym hefyd wedi'n hymrwymo i weithio gyda'n partneriaid a thrigolion er mwyn darganfod datrysiad hirdymor i leddfu'r tagfeydd a welir yn y pentref.

"Bu warden parcio yn Niwbwrch ar dri achlysur gwahanol dros benwythnos y Pasg. Yn ystod yr ymweliadau, ni chafwyd unrhyw faterion a oedd o fewn cylch gorfodi'r Cyngor Sir. Er hynny, byddwn yn parhau i fonitro'r ardal, yn enwedig yn ystod cyfnodau o dywydd da pan ddisgwylir nifer uchel o ymwelwyr. Croesawir hefyd mewnbwn gan y gymuned ynglŷn ag amseroedd a lleoliadau penodol lle gallai fod angen gorfodi."

"Bydd y Cyngor Sir yn parhau i gydweithio er mwyn darganfod camau rhagweithiol fydd yn lleihau'r effaith leol a datrysiad cynaliadwy - ond, yn anffodus, nid oes un ateb hawdd a bydd hyn yn cymryd amser."

Pynciau cysylltiedig