Amgueddfa Genedlaethol i ailagor wedi gwaith brys

Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen gwneud gwerth £25m o waith atgyweirio ar y safle yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd

Bydd yr amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd yn ailagor ddydd Gwener ar ôl gorfod cau dros dro i wneud "gwaith cynnal a chadw ar unwaith".

Fe wnaeth Amgueddfa Cymru gyhoeddi ddydd Sul bod yr adeilad ym Mharc Cathays ar gau i'r cyhoedd oherwydd bod angen cwblhau'r gwaith ar frys.

"Problem fecanyddol gafodd ei hachosi gan fethiant cydran... mewn ardal benodol o fewn yr adeilad" oedd ar fai, yn ôl llefarydd.

Dyw'r sefydliad ddim wedi ymateb i geisiadau gan y BBC am fwy o wybodaeth am union natur y broblem.

Ond mae datganiad a gyhoeddwyd ar eu gwefan amser cinio ddydd Iau yn dweud bod y gwaith bellach wedi'i gwblhau ac y bydd y safle'n ailagor ddydd Gwener.

'Her barhaus'

"Mae ein timoedd wedi bod yn gweithio'n ddyfal i wneud y gwaith atgyweirio hanfodol yn y ffordd gyflymaf a mwyaf effeithiol posibl er mwyn sicrhau bod yr adeilad yn diwallu'r holl safonau diogelwch gofynnol," meddai'r datganiad.

"Rydyn ni'n cydnabod yr effaith a gafwyd ar ein hymwelwyr, ond diogelwch a lles ein hymwelwyr, gwirfoddolwyr a staff, ynghyd â diogelu ein casgliadau, yw ein prif flaenoriaeth."

Ychwanegodd y prif weithredwr Jane Richardson: "Fel cynifer o sefydliadau eraill ar draws Cymru a gweddill Prydain, mae rheoli a chynnal adeiladau sy'n heneiddio yn her barhaus.

"Hoffwn i ddiolch i'n staff a'n cyflenwyr sydd wedi gweithio ddydd a nos er mwyn datrys y broblem a helpu i leihau'r effaith ar ein hymwelwyr."

Y llynedd fe rybuddiodd pennaeth yr amgueddfa y gallai'r adeilad orfod cau gan fod ei gyflwr yn dirywio.

Mae'n un o saith amgueddfa ar draws Cymru sy'n wynebu ôl-groniad cynnal a chadw gwerth £90m.

Mae angen gwaith gwerth £25m yng Nghaerdydd ar gyfer gwaith atgyweirio, gan gynnwys toeau sy'n gollwng.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn ariannol gwerth £3.2m haf diwethaf ar gyfer gwaith atgyweirio i'r amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd a'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.