Amgueddfa Cymru'n gobeithio ailagor 'dros y dyddiau nesaf'

Mae angen cwblhau gwerth £25m o waith atgyweirio, gan gynnwys ar doeau sy'n gollwng
- Cyhoeddwyd
Mae'r amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd yn gobeithio ailagor "dros y dyddiau nesaf", ar ôl gorfod cau dros dro.
Fe wnaeth Amgueddfa Cymru gyhoeddi ddydd Sul bod yr adeilad ym Mharc Cathays ar gau i'r cyhoedd oherwydd bod angen gwneud "gwaith cynnal a chadw ar unwaith".
Problem "mecanyddol, yn sgil methiant darn cydrannol mewn rhan neilltuol o'r adeilad" oedd ar fai am y penderfyniad, yn ôl llefarydd.
Dywedodd eu bod "gweithio'n agos gydag arbenigwyr er mwyn asesu'r sefyllfa a thrwsio'r mecanwaith".

Mewn diweddariad ddydd Llun, dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru mai eu prif flaenoriaeth yw "diogelwch a lles ein hymwelwyr, gwirfoddolwyr a staff, a diogelu ein casgliadau... a dyma'r rheswm dros gymryd y camau priodol a chau'r amgueddfa dros dro".
"Mae ein timoedd yn gweithio'n ddyfal i ddatrys y broblem yn gyflym ac yn effeithiol yn ogystal â sicrhau'r effaith lleiaf posibl ar ein hymwelwyr.
"Byddwn ni'n parhau i asesu'r sefyllfa gan gyhoeddi'r diweddaraf am y cynnydd, ond rydym yn gobeithio y caiff y materion hyn eu datrys dros y dyddiau nesaf."
- Cyhoeddwyd2 Chwefror
- Cyhoeddwyd4 Medi 2024
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2023
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymwybodol bod Amgueddfa Cymru Caerdydd wedi gorfod cau am ychydig ddiwrnodau er mwyn mynd i'r afael â phroblem cynnal a chadw.
"Mae Amgueddfa Cymru yn ceisio datrys hyn gynted â phosib.
"Rydym wedi rhoi cyllid ychwanegol i sichrau bod cyrff diwylliannol Cymru yn cael eu gwarchod a'u diogelu, gan gynnwys £1.3m yn y flwyddyn ariannol hon ar gyfer gwaith brys yn Amgueddfa Cymru Caerdydd.
"Mae £3.7m yn rhagor wedi ei gynnwys yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2025-26."