Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wedi cau am y tro
- Cyhoeddwyd
Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod "wedi gwneud y penderfyniad anodd" i gau i'r cyhoedd "am gyfnod byr".
Mae'r amgueddfa wedi ymddiheuro am yr anghyfleustra, gan ddweud bod bod angen gwneud gwaith cynnal a chadw ar unwaith" i'r adeilad ym Mharc Cathays.
Y llynedd fe rybuddiodd pennaeth yr amgueddfa y gallai'r adeilad orfod cau gan fod ei gyflwr yn dirywio.
Mae'r amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd yn un o saith amgueddfa ar draws Cymru sydd wedi yn wynebu ôl-groniad cynnal a chadw gwerth £90m.
Mae gwerth £25m o waith ei angen yng Nghaerdydd ar gyfer gwaith atgyweirio, gan gynnwys toeau sy'n gollwng.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn ariannol gwerth £3.2m haf diwethaf ar gyfer gwaith atgyweirio i'r amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd a'r llyfrgell genedlaethol yn Aberystwyth.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mewn datganiad brynhawn Sul dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru mai eu prif flaenoriaeth yw "diogelwch a lles ein hymwelwyr, staff, a chadwraeth ein casgliadau... a dyna pam yr ydym wedi cymryd y mesur tymor byr hwn i gau'r amgueddfa.
"Er bod y cau'r amgueddfa yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod yr adeilad yn bodloni'r holl safonau diogelwch, rydym yn cydnabod yr effaith y gallai hyn ei gael ar ein hymwelwyr, gwirfoddolwyr a'r gymuned.
"Mae ein tîm yn gweithio'n ddiwyd i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd ac i wneud yr atgyweiriadau a'r gwelliannau angenrheidiol i warantu diogelwch pawb sy'n rhyngweithio â'r amgueddfa."
Bydd rheolwyr, meddai, "yn parhau i asesu'r sefyllfa" ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd.
Ychwanegodd eu bod "yn obeithiol y bydd y materion hyn yn cael sylw dros y dyddiau nesaf" ac yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr "yn ôl yn fuan".
'Testun pryder mawr'
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar ddiwylliant, Heledd Fychan bod y newyddion yn "destun pryder mawr... yn enwedig ar ôl yr holl rybuddion a glywsom y llynedd am yr ôl-groniad o gynnal a chadw oherwydd diffyg buddsoddiad a thoriadau gan Lywodraeth Cymru".
Dywedodd yr AS Ceidwadol, Andrew RT Davies bod yr Amgueddfa "yn dod â llawer o bobl i Gaerdydd ac mae'n atyniad pwysig.
"Mae'n rhaid i weinidogion y Senedd Lafur amlinellu'r camau maen nhw'n eu cymryd ar frys i sicrhau ei fod yn ailagor i'r cyhoedd cyn gynted â phosib."
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2024
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2023