Pryder fod is-adrannau bandiau pres Cymru yn 'marw'

Band Pontarddulais
Disgrifiad o’r llun,

Ym Mhontarddulais mae academi newydd ei sefydlu er mwyn hyfforddi chwaraewyr newydd ifanc

  • Cyhoeddwyd

"Os na fyddwn ni'n gweithredu ac yn helpu fe fydd y bedwaredd adran ym myd y bandiau pres yn marw."

Yn ôl Julian Jones, sy'n chwarae gyda band Crwbin ac sy'n gadeirydd Cyngor Rhanbarthol Bandiau Pres Cymru, byddai sefyllfa o'r fath yn hynod o drist.

Mae ef ac arweinwyr byd y bandiau pres yn poeni bod gostyngiad dramatig wedi bod yn nifer y bandiau sy'n chwarae yn y bedwaredd adran ym Mhencampwriaeth Cymru.

Y pryder yw y gallai hyn gael effaith ar yr adrannau uwch, a hyd yn oed bygwth rhai o brif enwau byd y bandiau Cymreig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyflwyno gwasanaeth cerddoriaeth newydd gan roi'r cyfle i blant ddysgu offeryn cerddorol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cerys, sy'n chwarae corn tenor, yn teimlo fod dyfodol y band yn bwysig

Mae un band yn y gorllewin wedi mynd ati i ymateb i'r her ac yn bwriadu creu band newydd i gystadlu yn y bedwaredd adran.

Ym Mhontarddulais mae'r band yn gweithio yn galed yn hyfforddi chwaraewyr newydd ifanc - mae nifer o fandiau wedi eu creu ar gyfer y chwaraewyr iau ac mae academi newydd wedi ei sefydlu hefyd.

Bob wythnos bydd tua 50 o chwaraewyr ifanc yn dod ynghyd i ymarfer.

Mae Cerys, sy'n chware corn tenor, yn teimlo fod dyfodol y band yn bwysig: "Mae hwn yn le gwych i gymdeithasu, i weithio fel tîm a dysgu sgiliau newydd.

"Rwy'n mwynhau chwarae cerddoriaeth ffilm a Disney ar y funud. Mewn blynydde i ddod byddai yn chwarae yn y band mawr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Iolo yn gobeithio ymuno â'r band mawr

Mae Iolo yn un arall o'r chwaraewyr iau, sydd yn chwarae corned: "Ry'ch chi'n dysgu a chael lot o hwyl, ac rwy'n mwynhau.

"Rwy' 100% yn siŵr y bydde ni yn hoffi ymuno â'r band mawr."

'Rhaid cael yr ieuenctid mewn'

Mae nifer o'r chwaraewyr mwy profiadol yn gwneud gwaith fel mentoriaid er mwyn meithrin y chwaraewyr ifanc newydd.

Y bwriad nawr yw sefydlu band newydd i'r chwaraewyr iau fydd yn gallu cystadlu yn y bedwaredd adran yn y bencampwriaeth, ac maen nhw'n anelu at gyrraedd y llwyfan cystadleuol yn 2026.

Un o aelodau'r band yw Owain Evans sy'n chwarae corn ffliwgal: "Bydde fe yn beth rili da i'r band, ma' adran dysgwyr ardderchog gyda ni ers dros ddwy flynedd.

"Bydde fe yn grêt i gael band newydd. Ma' lot o blant newydd wedi ymuno â ni ar ôl i ni fynd mewn i'r ysgolion a chynnal cyngherddau gwahanol yn y gymuned."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Owain Evans mae mwy o bobl ifanc wedi ymuno â'r band yn ddiweddar

Mae Neil Palmer wedi chware corned gyda'r band ers dros hanner canrif, ac mae e'n croesawu sefydlu'r academi: "Ma' rhaid cael yr ieuenctid i mewn, mae fe yn help mawr.

"Ni wedi cael bandiau ieuenctid dros y blynydde ond nawr ma' nhw'n tyfu o hyd a ni isie cael band newydd 'ma nawr. Ma' cyfle i gael band newydd sbon i helpu'r bedwaredd adran."

Bydd sefydlu band newydd yn siŵr o blesio trefnwyr cystadlaethau i fandiau, sy'n poeni bod gostyngiad wedi bod yn y nifer sy'n cystadlu yn y bedwaredd adran.

Maen nhw'n rhybuddio heb y bandiau a'r chwaraewyr yn yr adran yma, fe allai achosi problemau yn y dyfodol i enwau mawr byd y bandiau yng Nghymru sy'n llwyddiannus ar lwyfannau byd eang.

Disgrifiad o’r llun,

Julian Jones yw cadeirydd Cyngor Rhanbarthol Bandiau Pres Cymru

Mae band Crwbin yng Nghwm Gwendraeth wedi codi yn ddiweddar o'r bedwaredd adran i'r ail adran.

Yn ôl Julian Jones, ysgrifennydd y band, "mae'n rhaid i ni geisio helpu'r bandiau yn yr is-adrannau".

"Dyw sawl un ohonyn nhw ddim yn cystadlu erbyn hyn. Felly ma' rhaid i ni helpu nhw i gael mynediad i'r gystadleuaeth fel eu bod nhw'n cael pleser allan ohoni.

"Os na fyddwn ni'n gwneud rhywbeth bydd yr adran is neu'r bedwaredd adran yn marw. Ry' ni i gyd yn gofidio am y peth."

Disgrifiad o’r llun,

Aelodau band Pontarddulais yn ymarfer

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyflwyno gwasanaeth cerddoriaeth newydd gan roi'r cyfle i blant ddysgu offeryn cerddorol.

Ychwanegodd llefarydd fod eu "Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol gwerth £13m yn rhoi cyfle i bob plentyn tair i 16 oed i chwarae offeryn cerddorol".

"Mae gwaith y gwasanaeth hefyd yn cynnwys cefnogi cerddoriaeth gymunedol a chryfhau cysylltiad gyda'r ensembles ieuenctid cenedlaethol."

"Ry' ni'n ariannu'r celfyddydau drwy Gyngor Celfyddydau Cymru sy'n cefnogi sefydliadau sy'n helpu pobl i wneud cerddoriaeth megis Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Thŷ Cerdd.”

Pynciau Cysylltiedig