Pryderon dros ddyfodol Sadwrn Barlys Aberteifi
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryderon mai Sadwrn Barlys Aberteifi eleni fydd yr olaf yn sgil y costau cynyddol y mae’r ŵyl yn eu hwynebu, yn ôl aelodau o bwyllgor y sioe.
Yn ddigwyddiad sy’n unigryw i Aberteifi, mae wedi ei gynnal yn y dref ar ddydd Sadwrn olaf Ebrill ers 1871.
Mae’n ddiwrnod sy’n gweld tref Aberteifi llawn bwrlwm gyda’r strydoedd ar gau ar gyfer gorymdaith geffyla a hen beiriannau.
Ond mae'n bryder y bydd argymhellion, gan Gyngor Ceredigion a'r heddlu, i gryfhau camau iechyd a diogelwch yn golygu nad yw’r digwyddiad mor gynaliadwy ag yn y gorffennol.
'Dros ben llestri'
Mae ysgrifennydd y pwyllgor, Tudor Harries, yn rhagweld y gwaethaf.
“Ma' na sôn ers blynydde bod y sioe mewn peryg ond fi wir yn meddwl 'leni nawr, oherwydd y gofynion sy’n mynd yn fwy a fwy bob blwyddyn, byddwn ni ffaelu fforddio fe.
"Ni’n deall gofynion iechyd a diogelwch - mae’n rhan annatod o unrhyw ddigwyddiad.
"Ond ni yn teimlo fel bod yr awdurdodau nawr wedi mynd dros ben llestri.”
“Mae cyrsiau ar gyfer stiwardio yn costi arian, mae cost i gau’r hewl yn codi bob blwyddyn.
"Ma' ishe arwyddion newydd a chi’n sôn am filoedd. Os bydde bob un o’n stiwardiau ni yn mynd ar y cwrs, bydde fe’n costi £10,000.
"Ma’ cau’r hewl yn mynd i gostio £900 eleni, sy’n mynd lan rhyw £80 bob blwyddyn.
"Ni’n gefnogol iawn am iechyd a diogelwch, mae’n rhan annatod o unrhyw ddigwyddiad, ond y teimlad sydd gyda ni yw ein bod ni’n cael ein trin fel digwyddiad canol dinas ble ma' 10,000 a mwy o bobl yn dod.”
'Argymhellion yn troi'n rheolau'
“Mae e yn ofid i ni, gyda’r costau 'ma’n cynyddu bob blwyddyn," dywedodd Ifan Morgan, cadeirydd Sioe Sadwrn Barlys eleni.
“Ar hyn o bryd mae’r rhan fwyaf o'r rhain yn argymhellion, ond dros y blynydde ma’ argymhellion yn troi yn rheolau.
“Pwyllgor bach y'n ni yng Ngheredigion," ychwanegodd.
"Ma' rhai o’r pethe sy’n cael eu gofyn ohonom ni yn mynd yn amhosib, ma' rhaid gweud.
"Ni’n ddibynnol ar y noddwyr a’r gwirfoddolwyr i helpu ni ar y dydd, ond dyw hi ddim yn gynaliadwy i ni gadw fynd gyda’r costau 'ma’n cynyddu bob blwyddyn.”
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2023
Mewn ymateb dywedodd Cyngor Sir Ceredigion: “Cyfrifoldeb y rhai sy'n trefnu unrhyw ddigwyddiad yw sicrhau bod pob agwedd yn cydymffurfio yn gyfreithiol a bod unrhyw agweddau Iechyd a Diogelwch sy'n ofynnol gan randdeiliaid yn cael eu cwrdd.
"Nid yw'r Cyngor yn ymwybodol o ba agweddau penodol ar y gofynion hynny y mae'r trefnwyr yn teimlo sy'n ormodol a byddai'n croesawu trafodaeth gyda nhw mewn perthynas â'r rheini.
"Ar hyn o bryd, nid yw'n glir a yw'r gofynion hynny yn rhai y mae'r Cyngor wedi gofyn amdanynt, neu randdeiliaid eraill sydd â diddordeb mewn sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei gynnal yn ddiogel ac yn gydymffurfiol.”